Mae nifer y cwynion am yr heddlu a gofnodwyd yng Nghymru a Lloegr yn 2025/26 wedi cynyddu i 108,987, sef cynnydd o 15% o gymharu â chyfanswm y cwynion a gofnodwyd yn 2024/25. Mae nifer y cwynion wedi cynyddu'n gyson flwyddyn ar ôl blwyddyn ers ehangu'r diffiniad o gŵyn yn 2020, gan godi'n gyson o'r 67,732 o achosion a adroddwyd yn 2020/21. Mae nifer y cwynion wedi cynyddu bob blwyddyn o dan y system bresennol: 11% yn 2021/22, 8% yn 2022/23, 5% yn 2023/24, ac 11% yn 2024/25. Mae hyn yn gyfystyr â chynnydd o 61% mewn cwynion ers 2020/21.
Trwy weithgareddau goruchwylio parhaus IOPC, rydym wedi nodi bod y cynnydd hwn, fel yn y blynyddoedd blaenorol, yn rhannol oherwydd bod rhai heddluoedd wedi gweithredu arferion cofnodi a thrin ehangach, tra bod eraill wedi bod yn gweithio i wella eu harferion trin cwynion yn gyffredinol. O ganlyniad, mae nifer uwch o achosion wedi'u cofnodi'n ffurfiol ac felly wedi'u cynnwys yn y system gwynion.
Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod nifer y cwynion a gofnodwyd wedi lleihau mewn nifer fach o heddluoedd. Trwy ein gwaith parhaus gyda heddluoedd, rydym yn ceisio deall yr amrywiadau yn nifer y cwynion a gofnodir a'r modd y cânt eu trin. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys cysylltiad rheolaidd fel rhan o swyddogaeth oruchwylio'r IOPC, thrwy ein cyhoeddiadau megis Focus, Dysgu'r Gwersi a'r Cylchlythr Goruchwylio, lle rydym yn rhannu arferion effeithiol ac yn tynnu sylw at feysydd lle mae angen gwelliannau.
O'r 108,987 o gwynion a gofnodwyd yn 2025/26, cofnodwyd 36,998 yn ffurfiol o dan Atodlen 3 o Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2002, sy'n debyg i'r nifer a gofnodwyd yn ffurfiol yn 2024/25.
Bu gwelliant bach yn yr amser cyfartalog a gymerwyd gan heddluoedd i gysylltu ag achwynwyr ar ôl gwneud cwyn, gan ostwng i wyth diwrnod o naw diwrnod yn 2024/25.
Cymerodd achosion cwynion a gofnodwyd 13 diwrnod yn hirach ar gyfartaledd i'w cwblhau, gyda'r rhai a gwblhawyd o dan Atodlen 3 yn cymryd 151 diwrnod o gymharu â 138 diwrnod yn 2024/25.
Trwy ein swyddogaeth Goruchwylio, mae IOPC yn parhau i fonitro perfformiad ar draws y system gwynion ac yn gweithio i nodi a rhannu arferion sy'n cefnogi trin cwynion yn amserol ac yn effeithiol.
Roedd y gyfran fwyaf o honiadau (55%) yn parhau i ymwneud â chyflawni dyletswyddau a gwasanaeth, sy'n cynnwys meysydd fel y camau gweithredu a'r penderfyniadau a gymerwyd gan yr heddlu yn dilyn cysylltiad gan y cyhoedd. Yr ail gategori mwyaf oedd pwerau, polisïau a gweithdrefnau'r heddlu (22%), sy'n cynnwys defnyddio pwerau stopio a chwilio, defnyddio grym, a'r pŵer i arestio a chadw pobl yn y ddalfa. Dilynwyd hyn gan ymddygiad unigolion (11%), lle gwneir cwynion am ymddygiad megis anghwrteisi, anoddefgarwch, diffyg proffesiynoldeb neu ddiffyg tegwch.
Roedd ymddygiadau gwahaniaethol yn cyfrif am 3% (5,061) o'r honiadau. O'r rhain, roedd 47% yn honiadau o wahaniaethu ar sail hil, 22% yn ymwneud ag anabledd, a 14% yn ymwneud â gwahaniaethu ar sail rhyw. Mae gwahaniaethu yn parhau i fod yn faes ffocws thematig i IOPC.
Cwblhawyd 107,616 o gwynion yn ystod y flwyddyn (37,575 yn ffurfiol o dan Atodlen 3 o Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2002 a 70,041 yn anffurfiol), sy'n gynnydd o 17% o gymharu â 2024/25.
O'r 37,575 o gwynion a drafodwyd yn ffurfiol, roedd gan 65% o leiaf un honiad a arweiniodd at roi esboniad i'r achwynwr, sef cynnydd o 5% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Roedd gan 6% o leiaf un honiad a arweiniodd at ddysgu i unigolyn neu heddlu, ac roedd gan 8% o leiaf un honiad a arweiniodd at ymddiheuriad neu sesiwn adborth.
Bu gostyngiad yng nghyfran y cwynion a ddatryswyd heb gymryd unrhyw gamau pellach, gyda'r canlyniad hwn yn cael ei gymhwyso i 18% o'r cwynion a drafodwyd o dan Atodlen 3 yn 2025/26 o gymharu â 23% yn 2024/25. Roedd camau gweithredu a oedd yn canolbwyntio ar unioni problemau a’u hatal rhag digwydd eto yn cyfrif am 81% o'r canlyniadau, sef cynnydd o 5% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, a'r lefel uchaf o ganlyniadau o'r fath ers cyflwyno'r ddeddfwriaeth bresennol.
Derbyniodd Cyrff Plismona Lleol 5,310 o geisiadau gan achwynwyr yn gofyn am adolygiad o'r ffordd yr oedd eu cwyn wedi cael ei drin, sef cynnydd o 25% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Derbyniodd IOPC 3,039 o geisiadau i adolygu cwynion a oedd wedi cael eu trin gan heddluoedd, sydd hefyd yn adlewyrchu cynnydd o 25% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cwblhawyd 3,273 o adolygiadau, sef cynnydd o 62% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Canfuwyd nad oedd y modd yr ymdriniwyd â'r gŵyn neu ei chanlyniad yn rhesymol nac yn gymesur mewn 27% o'r adolygiadau. Roedd y 73% o adolygiadau lle cytunwyd bod y driniaeth yn rhesymol ac yn gymesur yn gynnydd o 2% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, gan awgrymu bod y cwynion a welwyd mewn adolygiadau yn fwy tebygol o gael eu trin yn gywir y tro cyntaf. Yn ogystal â chwblhau mwy o geisiadau am adolygiad, gwelwyd gwelliant sylweddol yn amser trin IOPC, sef 96 diwrnod gwaith yn 2025/26 o gymharu â 133 diwrnod y flwyddyn flaenorol.