Gwybodaeth ar gyfer arbenigwyr trin cwynion
Er mwyn cefnogi ein gweledigaeth y dylai pawb gael ymddiriedaeth a hyder yn yr heddlu, mae ein tîm Goruchwylio yn cynnal ymyriadau a gwaith gwella ar draws gwahanol feysydd o’r system gwynion. Mae'r tîm yn dadansoddi cudd-wybodaeth, gwybodaeth a data a dderbynnir o sawl ffynhonnell i nodi tueddiadau cenedlaethol a phynciau craidd i ganolbwyntio arnynt. Y dadansoddiad hwn sy'n llywio gwaith prosiect y tîm gyda'n rhanddeiliaid plismona.
Bydd y canllawiau a’r cyhoeddiadau isod yn ddefnyddiol i’r arbenigwyr trin cwynion mewn adrannau safonau proffesiynol a chyrff plismona lleol, ochr yn ochr ag eraill yn y gwasanaeth heddlu sy’n rheoli cwynion. Oherwydd ei natur a'i gynulleidfa darged, mae'r cynnwys hwn yn cynnwys iaith dechnegol a chyfeiriadau at gymhwyso deddfwriaeth gymhleth.
Ymdrin â chwynion am wahaniaethu
Darllenwch ein canllawiau i'ch cynorthwyo i ymdrin â honiadau sy'n ymwneud â gwahaniaethu, sy'n cwmpasu gwahanol gamau'r broses gwyno.Pecyn cymorth gwahaniaethu
Ym mis Tachwedd 2024, cyhoeddom becyn o offer i gefnogi plismona i wella'r ffordd y caiff cwynion am wahaniaethu eu trin.Rydym wedi creu canllawiau manwl a phecyn cymorth cysylltiedig i helpu arbenigwyr trin cwynion ac ymchwilwyr o fewn adrannau safonau proffesiynol i ddelio â chwynion am swyddogion heddlu.
Mae'r dogfennau'n tywys arbenigwyr trin cwynion drwy broses gwynion yr heddlu ac maent wedi'u cynllunio i gyflawni arfer gorau a mwy o gysondeb ar draws yr holl heddluoedd.
Mae ein canllawiau statudol yn helpu heddluoedd a chyrff plismona lleol i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol wrth ymdrin â chwynion am swyddogion a staff yr heddlu. Mae'n amlinellu sut i gyflawni safonau uchel wrth drin cwynion, materion ymddygiad a materion marwolaeth ac anaf difrifol (DSI).
Mae ein canllawiau’n nodi’r egwyddorion sy’n sail i’r system gwynion, pryd y dylid cofnodi cwynion a gwahanol ffyrdd o drin cwynion, gan gynnwys atgyfeiriadau at IOPC ac ymchwiliadau lleol gan y llu heddlu. Mae hefyd yn ymdrin â chanlyniadau posib a sut y gellir adolygu canlyniad cwyn.
Mae'r canllawiau hyn yn berthnasol i faterion sy'n dod i sylw heddluoedd, cyrff plismona lleol neu IOPC ar neu ar ôl 1 Chwefror 2020.
Nodwch: nid yw'r canllawiau hyn yn berthnasol i sefydliadau eraill o dan ein awdurdodaeth sy'n cael eu llywodraethu gan ddeddfwriaeth wahanol. Lle mae'n briodol, mae'r sefydliadau hyn yn dilyn ysbryd y canllawiau wrth ddelio â chwynion.
Ar gyfer materion a ddaeth i sylw cyrff plismona lleol neu IOPC cyn 1 Chwefror 2020, cyfeiriwch at ein canllawiau statudol blaenorol a'n nodyn cyngor gweithredol.
Mae gwybodaeth am ein canllawiau statudol cyn 2015 ar gael yn yr Archif Genedlaethol. Mae'r dogfennau sydd wedi dyddio 2012 yn ymwneud â chwynion ac apeliadau a dderbyniwyd gan awdurdodau priodol rhwng 22 Tachwedd 2012 a Mai 2015. Mae'r dogfennau sydd wedi dyddio 2010 yn ymwneud â chwynion ac apeliadau a dderbyniwyd gan awdurdodau priodol rhwng 1 Ebrill 2010 a 22 Tachwedd 2012.
Ym mis Tachwedd 2024 cyhoeddom becyn o offer i gefnogi plismona i wella'r ffordd y caiff cwynion am wahaniaethu eu trin. Mae'r pecyn yn cynnwys canllawiau diwygiedig a phecyn cymorth cynhwysfawr ar gyfer arbenigwyr trin cwynion.
Yn ogystal â'r offer hyn, fe wnaethom gyhoeddi adroddiad manwl sy'n tynnu sylw at sut mae angen i'r heddlu ymchwilio i honiadau o wahaniaethu yn briodol er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu trin yn effeithiol y tro cyntaf fel y gall pobl gael hyder yn y system gwynion am yr heddlu.
Mae'r canllawiau hyn yn cefnogi'r gwasanaeth heddlu i gasglu gwybodaeth cywir a chyson am gwynion y gellir eu defnyddio i nodi problemau a thueddiadau. Gellir defnyddio'r wybodaeth hon i lywio datblygiad polisi ac arfer yn y dyfodol ar lefelau lleol a chenedlaethol. Mae'n berthnasol i gwynion a dderbyniwyd o 1 Chwefror 2020 - Canllawiau ar gasglu data am gwynion am yr heddlu
Mae'r nodyn cyngor hwn yn helpu heddluoedd i gydymffurfio â'r gofyniad statudol i ddarparu adroddiad pan fydd ymchwiliad lleol ar agor am fwy na 12 mis. Fe wnaethon ni ddiweddaru hwn ym mis Tachwedd 2024 i adlewyrchu rhai o'r materion sydd wedi dod i'n sylw lle nad yw adroddiadau amseroldeb yn darparu digon o wybodaeth. Rydym yn annog pawb sy'n trin cwynion i ymgyfarwyddo â'r fersiwn ddiweddaraf o'r canllawiau - Nodyn cyngor gweithredol ar adroddiadau amseroldeb 12 mis
Gweithdai ymarferwyr adolygu
Ym mis Hydref a mis Tachwedd 2021, cynhaliodd y tîm Goruchwylio weithdai gydag ymarferwyr adolygu. Canolbwyntiodd y gweithdai yn bennaf ar driniaeth rhesymol a chymesur a'r
canlyniadau sydd ar gael i arbenigwyr trin adolygiadau. Dewiswyd y pynciau hyn o gyfuniad o ddadansoddiadau data a mewnwelediadau o’n profiad o’r system gwynion newydd.
Gallwch ddarllen ein adroddiad cryno yma. Gallwch ddod o hyd i ragor o ganllawiau yn ein canllaw Trothwyon ac Ystyriaethau a'n adroddiad crynodeb o gwestiynau cyffredin.
Gweithdai arbenigwyr trin cwynion
Ym mis Chwefror a mis Mawrth 2022, cynhaliodd tîm Goruchwylio IOPC weithdai ar-lein ar gyfer arbenigwyr trin cwynion. Fe wnaethon ni ymdrin â thri phwnc: peidio â chymryd camau pellach ar gwynion, prawf y corff adolygu perthnasol a rhannu arfer effeithiol. Gallwch ddarllen ein adroddiad cryno yma.
Ymarfer myfyriol
Ym mis Chwefror a mis Mawrth 2023, cynhaliodd y tîm Goruchwylio weithdai wyneb yn wyneb ar gyfer Adrannau Safonau Proffesiynol (PSD) a Chyrff Plismona Lleol (LPB) yng Nghymru a Lloegr. Fe wnaethon ni nodi ymarfer myfyriol fel thema ar gyfer y gweithdai. Roedd hyn i gyd-fynd â chyhoeddi Focus 21 a oedd ynglŷn â’r maes pwnc o ymarfer myfyriol. Cydnabyddwyd bod ymarfer myfyriol yn fframwaith gymharol newydd o fewn y broses o drin cwynion ac roedd yna rai heriau cynnar o ran pa mor effeithiol yr oedd wedi'i ymgorffori o fewn heddluoedd. Gallwch ddarllen ein hadroddiad cryno yma.
Mae'r canllaw hwn yn darparu dull teg a chyson i arbenigwyr trin cwynion o ran rheoli ymddygiad annerbyniol neu afresymol gan achwynwyr. Mae hefyd yn sicrhau ein bod yn rhoi mynediad i bawb at y system gwynion am yr heddlu - Canllawiau ar reoli ymddygiad achwynwyr annerbyniol ac afresymol
Canllawiau ar gyfer paneli heddlu a throseddu a Phwyllgor Heddlu a Throseddu Cynulliad Llundain i'w gwneud yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau wrth ymdrin â chwynion a materion ymddygiad (diweddarwyd Tachwedd 2022)
Darllenwch am ein gwaith ar Drais yn Erbyn Menywod a Merched
Trais yn erbyn Menywod a Merched