Meysydd gwaith allweddol
Ein gwaith thematig
Rydym yn gorff hollol annibynnol, ac rydym yn cyfarfod ag amrywiaeth o achosion sy'n cwmpasu amrediad eang o faterion. Rydym yn monitro pob agwedd o'n gwaith yn agos i'n helpu i adnabod patrymau neu dueddiadau y gall fod angen ymchwilio ychwanegol iddynt. Gall materion godi hefyd o sgyrsiau a gawn â'n rhanddeiliaid. Rydym yn gweithio'n agos gyda chymunedau amrywiol i sicrhau ein bod yn cymryd ymagwedd gytbwys a gwybodus at ein gwaith.
Gall materion godi hefyd o sgyrsiau a gawn â'n rhanddeiliaid. Rydym yn gweithio'n agos gyda chymunedau amrywiol i sicrhau ein bod yn cymryd ymagwedd gytbwys a gwybodus at ein gwaith.
Pan adnabyddir maes pryder, rydym yn neilltuo adnoddau ac arbenigedd ychwanegol i edrych i mewn i'r mater yn ddyfnach. Mae'r ymagwedd hon â ffocws yn ein helpu i wella plismona a'n gwaith ein hunain trwy adnabod dysgu sy'n ysgogi newid gwirioneddol. Ein gwaith "thematig" rydym yn galw hyn.
Ein meysydd ffocws presennol yw Trais yn Erbyn Menywod a Merched a Gwahaniaethu ar sail Hil.
Darllenwch am ein gwaith ar Drais yn erbyn Menywod a Merched
Dysgwch fwy am ein gwaith thematig ar Wahaniaethu ar sail HilDysgwch fwy am ein gwaith thematig ar Wahaniaethu ar sail Hil
Gwahaniaethu ar sail HilBeth yw gwaith thematig?
Ein meysydd gwaith allweddol eraill:
Cyflawnir pob ymchwiliad CSA yn sensitif. Rydym yn anelu bob amser at roi anghenion goroeswyr yn gyntaf ac mae gennym staff wedi'u hyfforddi'n arbennig i helpu goroeswyr trwy'r broses anodd o ddarparu datganiadau i ni.
Gall ymchwiliadau i gam-drin plant yn rhywiol gymryd mwy o amser i'w cwblhau nac ymchwiliadau eraill. Mae hyn oherwydd y sensitifrwydd ynghlwm â nhw, ac oherwydd eu bod yn aml yn cynnwys camdriniaeth sydd wedi digwydd sawl blwyddyn yn gynharach. Yn aml, mae ymchwiliadau troseddol i gam-drin rhywiol yn rhedeg yn gyfochrog â'n hymchwiliad ni. Gallwch ddarllen mwy am ein hymagwedd yn rhifyn 39 Dysgu'r Gwersi.
Ym Mehefin 2022 fe wnaethom gyhoeddi ein canfyddiadau o Ymgyrch Linden ein hymchwiliad mwyaf o'r math hwn. Edrychodd Ymgyrch Linden i mewn i gwynion a materion ymddygiad mewn perthynas â’r modd yr ymdriniodd Heddlu De Swydd Efrog ag adroddiadau am gam-drin a chamfanteisio’n rhywiol ar blant nad oedd yn ddiweddar yn Rotherham, De Swydd Efrog, rhwng 1997 a 2013.
Mae'n rhaid i'r heddlu atgyfeirio honiadau o lygredd difrifol atom ni. Cam-drin pŵer at ddiben rhywiol yw'r math unigol mwyaf o lygredd heddlu rydym yn delio ag ef.
Mae gofyniad mewn cyfraith fod rhaid i heddluoedd atgyfeirio honiadau fod rhywun wedi cam-drin ei safle at ddiben rhywiol, neu i ddilyn perthynas emosiynol amhriodol atom ni.
Pan fydd swyddogion neu staff heddlu yn cam-drin eu safle at ddiben rhywiol neu i ddilyn perthynas emosiynol amhriodol, mae hyn yn llygredd difrifol. Nid oes ganddo le mewn plismona.
Mae nifer o ymchwiliadau diweddar wedi arwain at swyddogion yn cael eu diswyddo, neu eu heuogfarnu o gamwedd troseddol. Mae ein hargymhellion i heddluoedd hefyd yn helpu mynd i'r afael a phroblemau gwaelodol ym maes APSP. Mae Dysgu'r Gwersi - rhifyn 40 yn cymryd golwg fanwl ar y maes pryder hwn.
Mae'r amgylchedd caethiwed yn cyflwyno amrediad o heriau i wasanaeth yr heddlu - yn enwedig pan fydd angen iddynt gadw pobl sy'n agored i niwed. Mae'n hanfodol fod asesiadau risg trwyadl yn cael eu cyflawni pan gymerir pobl i'r ddalfa, i sicrhau eu bod yn cael eu trin yn briodol ac yn derbyn unrhyw gymorth sydd ei angen arnynt.
I sicrhau bod gwersi yn cael eu dysgu, rydym yn monitro'r maes hwn yn rheolaidd, ac yn gwneud argymhellion lle canfyddwn y dylai lluoedd wneud pethau'n wahanol.
Mae astudiaethau achos a ganfuwyd yn ein cylchgrawn Dysgu'r Gwersi yn amlygu'r problemau sy'n gallu codi yn y ddalfa, a sut mae staff heddlu a gwneuthurwyr polisi yn gallu dysgu o'r hyn aeth o'i le.
Pan fydd rhywun yn marw yn dilyn cysylltiad â'r heddlu, mae'n rhaid i'r llu dan sylw atgyfeirio'r mater atom ni - er mwyn i ni asesu os dylem ymchwilio i'r hyn a ddigwyddodd.
Mae pob marwolaeth yn drychineb - gydag effaith sylweddol ar deuluoedd a ffrindiau yr anwyliaid a gollir - a hyder ac ymddiriedaeth gyhoeddus mewn plismona. Ein rôl yw ceisio atebion am yr hyn a ddigwyddodd a rhannu unrhyw ddysgu sy'n codi o'n hymchwiliad, i helpu gwella plismona.
Mae'r daflen hon yn cael ei ddarparu i deulu a ffrindiau rhywun sydd wedi marw yn dilyn cysylltiad â'r heddlu. Mae'n esbonio pam mae'n rhaid i ni ymchwilio i'r wybodaeth rydym yn ei hystyried, a sut rydym yn cadw mewn cysylltiad â theuluoedd.
Pob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi adroddiad i farwolaethau yn ystod neu'n dilyn cysylltiad â'r heddlu. Mae'n cyflwyno data am natur ac amgylchiadau'r marwolaethau hynny. Mae'r data a gasglwn yn helpu i wella ymarfer a gwneud gwelliannau i blismona lle mae ei angen.d.
As part of our role to set the standards that police should follow, we provide regular technical guidance on how allegations of discrimination should be investigated, even if the discrimination isn’t obvious.
The definition of discrimination is "the unjust or prejudicial treatment of different categories of people, especially on the grounds of ethnicity, age, sex, or disability."
Mae'n groes i'r gyfraith i wahaniaethu yn erbyn unrhyw un oherwydd:
- oedran
- ailddynodi rhywedd
- bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil
- bod yn feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth
- anabledd
- hil, gan gynnwys lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol
- crefydd neu gred
- rhyw
Mae ein canllawiau yn helpu heddlu i ymdrin â honiadau o wahaniaethu. Cafodd y canllawiau eu datblygu'n wreiddiol gan yr IPPC (Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu) ac maen nhw wedi cael eu mabwysiadu gan SAYH. Gallwch hefyd ddarllen y ddogfen grynodeb.
Mae angen gwyliadwraeth barhaus ar y maes hwn o blismona, mae gan gam-drin domestig nifer o nodweddion a dynameg. Mae'n rhaid fod gan ddioddefwyr hyder, wrth ddod ymlaen, y bydd eu honiadau yn cael eu credu ac y rhoddir blaenoriaeth uchel iddynt.
Yn y pen draw y tramgwyddwr yn unig sy'n gyfrifol am unrhyw gamdriniaeth a ddioddefwyd gan ddioddefwyr cam-drin domestig fodd bynnag rydym wedi canfod ar nifer o achlysuron y gallai heddluoedd fod wedi perfformio'n well pan mae dioddefwyr yn gofyn am gymorth. Rydym yn gwneud argymhellion yn rheolaidd yn dilyn ein hymchwiliadau cam-drin domestig i helpu gwella ymarfer, diweddaru polisi a gwneud newidiadau i hyfforddiant.
Ym mis Ebrill 2019, lansiwyd ein hymgyrch "Make Yourself Heard" i godi ymwybyddiaeth o’r system Ateb Tawel sy’n helpu pobl ag angen gwirioneddol, i rybuddio’r heddlu eu bod mewn perygl pan na allant siarad a chwalu’r myth y bydd galwad tawel ar ei phen ei hun yn awtomatig yn dod â help. Roedd hyn yn dilyn ein hymchwiliad i gyswllt blaenorol yr heddlu â Kerry Power, a gafodd ei llofruddio gan ei chyn-bartner.
Yn ystod pandemig COVID-19, mae heddluoedd ac elusennau cam-drin domestig wedi adrodd am gynnydd yn nifer y galwadau sy’n ymwneud â cham-drin domestig ac ym mis Ebrill 2020, lansiodd y Swyddfa Gartref yr ymgyrch #youarenotalone. Fe wnaethom adnewyddu ein deunyddiau ymgyrchu a gweithio gyda’r NPCC (Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu), Cymorth i Fenywod a Chymorth i Fenywod Cymru i godi ymwybyddiaeth unwaith eto o’r offeryn hanfodol hwn.
Edrychodd rhifyn 32 o Dysgu'r Gwersi ar gam-drin domestig a diogelu pobl agored i niwed.
Mae'r heddlu yn chwarae rôl hanfodol mewn diogelu pobl sy'n agored i niwed, gan sicrhau bod y rheini sy'n profi problemau iechyd meddwl ac yn dod i gysylltiad â'r heddlu yn derbyn y gofal priodol.
Rydym wedi datblygu datganiad safbwynt ar Gofal Cywir Person Cywir (RCRP) - cynllun cenedlaethol a arweinir gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu i sicrhau bod pobl mewn angen yn derbyn y gofal cywir, o'r asiantaeth â'r sgiliau mwyaf priodol.
II grynhoi rydym yn:
- cytuno â'r egwyddorion ac yn croesawyu cynllun sy'n sicrhau bod pobl mewn trallod yn derbyn y gwasanaeth cywir, gan yr asiantaeth gywir
- cydnabod nad yw gwasanaeth yr heddlu wedi'i gynllunio i ddarparu gofal arbenigol i bobl sy'n agored i niwed mewn argyfwng a bod gweithio ar y cyd â phartneriaid iechyd yn hanfodol i ganlyniadau effeithiol
- annog yr heddlu i adeiladu a sefydlu cytundebau partneriaeth cryf lleol i sicrhau bod asiantaethau yn gweithio'n effeithlon ac effeithiol gyda'i gilydd.
Yn 2024, mae heddluoedd ledled Lloegr a Chymru yn myfyrio ar eu hymagwedd at ddigwyddiadau sy'n ymwneud ag iechyd meddwl i sicrhau pan fydd rhywun yn profi salwch meddwl, mae person â'r sgiliau, hyfforddiant a phrofiad cywir yn cyfarfod ag ef/hi i ateb ei anghenion/hanghenion orau. Mae rhifyn 43 o'n cylchgrawn Dysgu'r Gwersi yn edrych ar hyn yn fanwl i archwilio'r berthynas rhwng iechyd meddwl a phlismona. Mae'r rhifyn wedi'i gynllunio i annog trafodaeth a meddwl myfyriol, ac i sicrhau pan ddaw pobl sy'n agored i niwed i gysylltiad â'r heddlu, maen nhw'n derbyn ymateb urddasol a thrugarog.
Yn 2018, fe wnaethom gomisiynu adroddiad i archwilio os oes gan bobl â phryderon iechyd meddwl hyder yn system gwynion yr heddlu – a’u tebygolrwydd o ymgysylltu â hi, a’u gallu i wneud hynny.
Ym Medi 2017, fe wnaethom gyhoeddi adroddiad oedd yn cynnwys argymhellion cenedlaethol ar gyfer yr heddlu wrth ymateb i bobl â phryderon iechyd meddwl. Mae Six Missed Chances yn adrodd stori James herbert a fu farw yn 25 oed ar 10 Mehefin 2010 tra yn nalfa heddlu Avon a Gwlad yr Haf.
Lle mae marwolaeth neu anaf ddifrifol yn cael ei hachosi gan ddigwyddiad traffig ffordd yn ymwneud a'r heddlu (RTI) - megis yr heddlu'n dilyn, neu gerbyd heddlu yn ymateb i alwad brys - mae'n rhaid i'r heddlu (trwy gyfraith) atgyfeirio'r achos atom ni.
Ymchwilir i'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau traffig ffordd sy'n ymwneud â'r heddlu gan yr heddlu, yn hytrach nag yn annibynnol gennym ni, fodd bynnag rydym yn ymchwilio i'r achosion mwyaf difrifol.
Mae ein hymchwiliadau yn chwarae rôl hanfodol mewn sefydlu beth ddigwyddodd, er mwyn adnabod unrhyw ddysgu a all helpu gwasanaeth yr heddlu i ddatblygu a gwella. Yn flaenorol, fe wnaethom argymell bod lluoedd yn gosod cyfarpar yn eu ceir sy'n cofnodi data perthnasol sy'n ein helpu ni, a'r cyhoedd, i ddeall yn union beth ddigwyddodd.
Pob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi ystadegau ar y nifer o farwolaethau sy'n codi o Ddigwyddiadau Traffig Ffordd. Yn 2021/22, roedd 32 Digwyddiad Traffig Ffordd marwol, gan arwain at 39 o farwolaethau. Mae rhifyn 38 Dysgu'r Gwersi yn cymryd golwg fanwl ar fater plismona ffyrdd.
Mae cod ymarfer presennol y Swyddfa Gartref yn anelu at wella hyder cyhoeddus a sicrhau bod dilyn gan yr heddlu yn cael ei gyflawni mewn ffordd gymesur i atal troseddu.
Ym Mai 2019 cyhoeddodd y llywodraeth ei hymateb i ymgynghoriad cyhoeddus ar y Gyfraith Canllawiau a Hyfforddiant Sy'n Llywodraethu Dilyn gan yr Heddlu. Fe wnaethom ddarparu ymateb manwl i'r ymgynghoriad.
Yn Lloegr a Chymru, rydym yn cyfeirio'n aml at fodel "plismona trwy gydsyniad". Mae hyn yn golygu, er mwyn i blismona fod yn effeithiol - mae'n rhaid iddo gael ei gynnal a chydsyniad y cymunedau mae'n eu gwasanaethu.
Mae gan y cyhoedd yr hawl i ddisgwyl i swyddogion heddlu fod yn atebol pan ddefnyddiant rym, yn enwedig os yw'n arwain at farwolaeth neu anaf ddifrifol. Rydym yn ymchwilio i ddigwyddiadau ynghylch defnydd heddlu o rym - os yw rhywun yn marw - mae'n rhaid i luoedd wneud atgyfeiriad atom ni (trwy gyfraith).
Yn 2021, adolygodd y SAYH 101 o ymchwiliadau roedd wedi eu cynnal rhwng 2015 a 2020 yn cynnwys y defnydd o Taser. Mae'r adolygiad yn gwneud nifer o argymhellion yn ymwneud â chanllawiau cenedlaethol ac hyfforddiant; craffu ar a monitro'r defnydd o Taser; a data ac ymchwil i helpu mynd i'r afael â phryderon y cyhoedd.
Fel rhan o'n gwaith ar Wahaniaethau ar sail Hil – yn Ebrill 2022, fe wnaethom gyhoeddi 18 argymhelliad dysgu cenedlaethol i wella'r defnydd o stopio a chwilio. Anelodd y gwaith hwn at wella'r defnydd o stopio a chwilio fel tacteg plismona. Ffocws sylweddol o'r gwaith hwn oedd atal defnyddio cyffion dwylo fel mater o drefn, a/neu rym lle nad yw'n angenrheidiol.
Mae gwasanaeth yr heddlu yn chwarae rôl hanfodol mewn diogelu pobl sy'n agored i niwed a sicrhau bod y rheini mewn perygl o gamdriniaeth a'r rheini sydd wedi cael eu cam-drin, yn derbyn y gofal, gwarchodaeth a chyngor priodol.
Mae llawer o'n hymchwiliadau wedi canfod materion ailadroddol ag ymdrin a galwadau ac asesiadau risg. Mae methiannau yn y meysydd hyn yn gallu gadael pobl yn anniogel a gall y canlyniadau fod yn gatastroffig.
Rydym yn archwilio sut y gall gweithdrefnau heddlu gael eu haddasu i wella asesiadau risg a gwrachod:
- pobl ifanc
- unigolion ar goll
- y rheini â phroblemau iechyd
- pobl sy'n gaeth i alcohol a chyffuriau
- pobl sy'n adrodd am drais domestig
Dysgwch fwy am sut mae'r Cod Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Trosedd yn gymwys i bob asiantaeth cyfiawnder troseddol, gan gynnwys yr heddlu.
Mae rhifyn 36 Dysgu'r Gwersi yn archwilio heriau pobl ar goll.