Cwynion

Rydym yn goruchwylio system gwynion yr heddlu yn Lloegr ac yng Nghymru. Mae'r rhan fwyaf o gwynion yn cael eu trin gan yr heddlu perthnasol. Mae gan bob heddlu adran sy'n sicrhau yr ymdrinnir yn briodol â chwynion, a gelwir y rhain fel arfer yn adrannau safonau proffesiynol.
Street full of people

Yn 2022/23, cofnododd heddluoedd a chyrff plismona lleol yn Lloegr a Chymru 81,142 o achosion o gwynion. 

Byddwn yn ymchwilio'n annibynnol i'r materion mwyaf difrifol a sensitif yn unig. Dyma’r math o faterion sydd â’r potensial i effeithio ar hyder y cyhoedd yn yr heddlu, megis marwolaethau ac anafiadau difrifol. 

Mae’r adran hon yn ymdrin â’r mathau o bethau y gallwch gwyno amdanynt, pwy y gallwch gwyno amdanynt, a beth sy’n digwydd pan fyddwch yn gwneud cwyn. 

Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad eich cwyn, neu’r ffordd yr ymdriniwyd â’ch cwyn, gallwch wneud cais am adolygiad neu apêl. 

Chwilio am ragor o wybodaeth am sut i wneud cwyn?

Canllaw i'r broses gwyno
Image

Ydych chi'n barod i gyflwyno cwyn?

Cyflwynwch gwyn
Image

Anhapus â chanlyniad eich cwyn?

Adolygiadau ac apeliadau

Gwybodaeth i'r heddlu

Os ydych yn gweithio i’r heddlu, neu sefydliad plismona, gallwch ddod o hyd i'r holl wybodaeth a chanllawiau sydd eu hangen arnoch am system gwynion yr heddlu yma.

Ystadegau cwynion

Dysgwch bopeth am gwynion y mae heddluoedd wedi'u cofnodi trwy ddarllen ein hystadegau cwynion heddlu blynyddol. Rydym hefyd yn cynhyrchu bwletinau chwarterol ar gyfer pob heddlu.

Uwch-gwynion

Dysgwch fwy am uwch-gwynion, a'r gwaith a wnawn gyda chyrff goruchwylio plismona eraill yn y maes hwn.