Dysgu
Rydym am wella plismona trwy adnabod a rhannu'r hyn a ddysgwyd o'n gwaith.
Pan fyddwn yn cwblhau ein hymchwiliadau a'n hadolygiadau, rydym yn edrych am gyfleoedd i nodi potensial ar gyfer dysgu, i wella plismona ar lefel leol a chenedlaethol. Rydym hefyd yn cynnal ymchwil annibynnol ac yn casglu data ystadegol sy'n ein helpu i adnabod materion sy’n achosi pryder yn gynnar a gwneud argymhellion ymarferol i ddylanwadu ar newid.
Rydym yn ymateb yn rheolaidd i ymgynghoriadau am blismona a meysydd cysylltiedig, ac yn defnyddio ein mewnwelediadau i ddylanwadu ar newid cadarnhaol.
Yn ein strategaeth ddiweddaraf adeiladu ymddiriedaeth a hyder mewn plismona rydym wedi ymrwymo i:
- byddwn yn defnyddio ein hannibyniaeth a’n tystiolaeth o’n gwaith i fod yn llais awdurdodol y gellir ymddiried ynddo wrth alw am newid i wella plismona, yn enwedig mewn meysydd sy’n effeithio ar hyder y cyhoedd.
- byddwn yn gweithio gyda’r rhai sy’n darparu plismona i wneud yr achos dros y gwelliannau hynny – gan arwain, cynnull a pherswadio fel bod ein hargymhellion yn arwain at newid diriaethol.
- Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid ym maes plismona er mwyn dangos i’r cyhoedd ymateb system i'r materion sy'n effeithio ar eu hyder mewn plismona.