Datganiad hygyrchedd

Mae’r wefan hon yn cael ei redeg gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC). Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i'r testun arllwys oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS ac NVDA).

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w ddefnyddio os oes gennych anabledd.

Hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • Darperir y rhan fwyaf o'n harweiniad a'n cyhoeddiadau ar ffurf PDF yn unig ar hyn o bryd. Nid yw'r PDFs hyn yn gwbl hygyrch
  • Nid yw llawer o ddogfennau PDF a Word hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
  • Nid yw holl destun ein gwefan wedi’i ysgrifennu mewn iaith glir, er enghraifft i Safon Saesneg Plaen y Comisiwn Iaith Glir, felly nid yw mor syml i’w ddeall ag y gallai fod.

Rydym yn gweithio i wneud ein cynnwys yn gwbl hygyrch. Yn y cyfamser, cysylltwch â ni os oes angen yr wybodaeth hon arnoch mewn fformat hygyrch.

Beth i'w wneud os na allwch gael mynediad i rannau o'r wefan hon

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd i'w ddarllen, recordiad sain neu braille:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn tri diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd â'r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â ni.

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os nad ydych yn hapus â’n hymateb, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae’r IOPC wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 AA safonol, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

Sut rydym wedi gwella a phrofi'r wefan hon

Rydym wedi ailddatblygu ein gwefan i'w wneud yn fwy hygyrch i bob defnyddiwr. Lansiwyd y wefan ar ei newydd wedd ar 26 Gorffennaf 2023.

Mae ein gwefan wedi'i hadeiladu ar Drupal, system rheoli cynnwys. Defnyddir sawl math o gynnwys o fewn y wefan sy'n diffinio'r math o dudalen. Cynhaliwyd profion ar bob math o gynnwys, ar ddetholiad o dudalennau; gellir gweld enghreifftiau ohonynt isod.

Fe wnaethon ni brofi ein hen wefan a'r ffurflenni cwynion, adolygu ac apeliadau ar-lein a oedd yn cael eu cynnal ar blatfform Egress. Gwnaethom ddefnyddio Lighthouse i archwilio pob tudalen am faterion hygyrchedd. Gwnaethom ddefnyddio Wave i brofi'n awtomatig am faterion hygyrchedd ar dudalennau nad oes angen i ddefnyddwyr fewngofnodi.

Ymhlith y materion a ddarganfuwyd ac a gafodd eu datrys drwy adeiladu gwefan newydd roedd:

  • Templedi PHP Drupal
  • Newidiadau arddull CSS
  • Newidiadau cod HTML
  • sicrhau bod safonau cyferbyniad lliw yn cael eu bodloni
  • ychwanegu labeli ARIA at yr elfennau gofynnol
  • sicrhau bod modd gweld y wefan yn raddadwy
  • dileu priodoleddau dyblyg o'r cod templed PHP ar bob math o gynnwys
  • ychwanegu elfennau ffurflen
  • ychwanegu lang="en" i dempled html
  • cywiro testun alt a materion teitl/pennawd
  • ychwanegu enwau hygyrch at fotymau ac elfennau ffurf
  • gwirio am ddolenni sydd wedi torri
  • gwella ein ffurflenni cwynion, apeliadau ac adolygu

Problemau â PDFau a dogfennau eraill

Nid yw llawer o'n dogfennau PDF a Word hŷn yn bodloni safonau hygyrchedd yn llawn - er enghraifft, efallai na fyddant wedi'u marcio fel eu bod yn hygyrch i ddarllenydd sgrin.

Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ddogfennau canllaw wedi'u cyhoeddi fel dogfennau PDF a Word.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei wneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Problemau â iaith glir

Nid yw ein holl destun neu gyhoeddiadau gwefan yn bodloni safonau iaith glir yn llawn, felly nid ydynt mor syml i'w deall ag y gallent fod. Mae llawer o’r tudalennau neu’r cyhoeddiadau hyn wedi’u bwriadu ar gyfer cynulleidfa broffesiynol, felly maen nhw’n cynnwys termau a thalfyriadau y mae’n bosibl na fydd aelodau’r cyhoedd yn eu deall.


Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei wneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Cynnwys trydydd parti

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei wneud yn ofynnol i ni drwsio cynnwys trydydd parti nad yw’n cael ei ariannu, ei ddatblygu nac o dan reolaeth y corff sector cyhoeddus. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys adroddiadau neu ddogfennau rydym yn eu cyhoeddi gan drwyddedeion.

Cyhoeddwyd y datganiad hwn ar 26 Gorffennaf 2023.