Cyflwynwch gŵyn
Ffurflen cwynion
Pan fyddwch yn gwneud cwyn trwy wefan IOPC, caiff y gŵyn hon ei hanfon yn uniongyrchol at yr heddlu neu’r sefydliad dan sylw, er mwyn iddynt ei ystyried. Gallwch hefyd gwyno'n uniongyrchol i'r heddlu/sefydliad. Byddant yn asesu eich cwyn ac yn cysylltu â chi ynghylch sut y caiff ei thrin.
Ni fydd IOPC yn cymryd rhan yn yr asesiad cychwynnol hwn o’ch cŵyn.
Sylwch, os ydych yn ceisio codi pryderon am rywbeth rydych wedi’i weld ar y cyfryngau cymdeithasol, yn y newyddion, neu wedi clywed amdano gan berson arall, efallai na fyddwch yn cael eich ystyried fel rhywun sydd wedi’i effeithio’n negyddol, sy’n golygu efallai na fydd eich cwyn yn cael ei phrosesu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am hyn yn ein Canllawiau Statudol ar y system cwyno am yr heddlu.
Os byddai'n well gennych anfon eich cwyn trwy e-bost neu'n ysgrifenedig, defnyddiwch y fersiwn word neu PDF o'n ffurflen gwyno.
Os ydych chi'n defnyddio cyfrifiadur a rennir, i amddiffyn eich preifatrwydd, cliriwch eich hanes pori, gan gynnwys eich storfa a holl ddata'r ffurflen awtolenwi, ar ôl cyflwyno'r ffurflen gwyno.
I wneud cwyn am Brif Gwnstabl, cysylltwch â’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu (PCC) cysylltiedig.