Ein gwaith
Mae'r wybodaeth yn yr adran hon hefyd ar gael mewn fformat 'hawdd i'w ddarllen'
Rydym yn goruchwylio system gwynion yr heddlu yng Nghymru a Lloegr, gan osod y safonau y dylai’r heddlu ymdrin â chwynion yn eu herbyn. Rydym yn ymchwilio i’r materion mwyaf difrifol, gan gynnwys honiadau o lygredd difrifol, ac achosion lle mae rhywun wedi marw neu wedi’i anafu’n ddifrifol yn dilyn cyswllt â’r heddlu. Rydym hefyd yn ystyried rhai mathau o adolygiadau gan bobl sy'n anhapus â'r ffordd yr ymdriniwyd â'u cwyn.
Rydym yn chwarae rôl hanfodol mewn gwella ymarfer yr heddlu trwy sicrhau bod yr heddlu yn atebol am eu gweithredoedd a bod gwersi’n cael eu dysgu. Gan weithio gyda’n partneriaid, defnyddwyr gwasanaeth a chymunedau, rydym yn defnyddio tystiolaeth o’n gwaith i ddylanwadu ar ac ysgogi newidiadau i blismona, yn enwedig ar faterion y gwyddom eu bod yn effeithio ar hyder y gymuned a’r cyhoedd. Un enghraifft o hyn yw ein ffocws ar wahaniaethu hiliol mewn plismona ac ar ymateb yr heddlu i drais yn erbyn menywod a merched.
Fel rhan o’n gwaith goruchwylio ehangach, rydym yn darparu canllawiau i helpu’r heddlu i ymdrin â chwynion ar lefel leol. Rydym hefyd yn monitro perfformiad adrannau safonau proffesiynol heddluoedd ac yn eu dwyn i gyfrif am eu perfformiad wrth ymdrin â chwynion.
Ynghyd ag Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS) a’r Coleg Plismona rydym yn asesu ac yn ymateb i uwch-gwynion. Gwneir uwch-gwynion gan amrywiaeth o sefydliadau am faterion eang neu systemig a allai effeithio ar hyder y cyhoedd mewn plismona.
Mae gennym hefyd bwerau mewn perthynas â nifer o sefydliadau eraill nad ydynt yn heddluoedd ond sydd â phwerau tebyg i’r heddlu, ac rydym yn ymchwilio i honiadau troseddol yn erbyn comisiynwyr heddlu a throseddu a’u dirprwyon.
Mae ein gwerthoedd yn adlewyrchu sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd i gyflawni ein gorchwyl
Rydym yn teimlo'n freintiedig i fod yn geidwaid system gwynion yr heddlu. Rydym yn gwerthfawrogi ymddiriedaeth y cyhoedd a’r heddlu ac yn ymrwymo i fod yn gyfiawn ac yn deg wrth ddatgelu’r gwirionedd. Rydym yn cydnabod bod canlyniad cyfiawn yn dibynnu ar fod yn ddiduedd ac yn dryloyw wrth gyrraedd y gwirionedd am yr hyn a ddigwyddodd.
Mae gennym ddiwylliant cynhwysol. Rydym yn deg ac yn ddiduedd wrth i ni drin pob unigolyn. Rydym yn gweithio ar draws ffiniau, yn fewnol yn ogystal ag yn allanol, yn cydweithio ac yn adeiladu perthnasoedd cryf.
Rydym yn credu y dylai pawb fod yn arweinydd ac â rhan mewn llunio cyfeiriad y sefydliad. Rydym yn darparu amgylchedd cefnogol a heriol lle gall pobl ffynnu a chyrraedd eu potensial. Rydym yn ymddiried yn ein pobl i wneud y pethau iawn. Rydym yn annog cymryd risgiau a fesurwyd a gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth. Pan wneir camgymeriadau, byddwn yn cynorthwyo pobl ac yn nodi cyfleoedd ar gyfer dysgu a gwella. Rydym yn sicrhau y gall pobl gyflwyno cwynion heb brofi triniaeth annheg.
Mae ein gwaith yn gofyn i ni fod yn feiddgar, yn wydn ac wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth i'r cyhoedd. Rydym yn ystyried ein dyletswyddau fel gweision cyhoeddus o ddifrif ac adlewyrchir ein hymrwymiad yn ein gwaith. Rydym yn cwrdd â'r heriau â dyfalbarhad i gyflawni nodau unigol a sefydliadol.
Diffinnir gwerth ein gwaith nid yn unig yn ôl maint, ond yn ôl yr effaith sydd gan ein gwaith ar blismona a hyder y cyhoedd. Rydym yn diffinio ansawdd yn ôl pa mor dda mae'n gwaith yn bodloni anghenion y defnyddwyr. Byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar feysydd fydd yn gwneud gwahaniaeth i'n cymunedau.