Gwybodaeth i'r heddlu
Pan fyddant yn cael eu trin yn briodol, gall cwynion arwain at well arferion a gwasanaethau'r heddlu. Mae hyn o fudd i gymunedau lleol a'r heddluoedd.
Ar y dudalen hon fe welwch yr holl offer ac arweiniad sydd eu hangen arnoch am y system gwyno. Rhennir gwybodaeth yn ganllawiau cyffredinol ar gyfer holl swyddogion a staff yr heddlu, a gwybodaeth sy'n bennaf ar gyfer adrannau safonau proffesiynol.
Gwybodaeth i swyddogion a staff yr heddlu
Ni yw corff gwarchod cwynion yr heddlu. Nid ni yw’r heddlu ac rydym yn gwbl annibynnol iddynt. Rydym yn gosod y safonau ar gyfer system gwynion yr heddlu. Rydym yn sicrhau bod yr heddlu yn ymchwilio i gwynion amdanynt yn briodol. Rydym hefyd yn ymchwilio i'r digwyddiadau mwyaf difrifol a sensitif yn ymwneud â'r heddlu ein hunain.
Mae heddluoedd yn delio'n uniongyrchol â'r mwyafrif o gwynion a materion ymddygiad sy'n ymwneud â'u swyddogion, staff, contractwyr a gwirfoddolwyr. Ymdrinnir â'r materion hyn gan adrannau safonau proffesiynol heddluoedd, neu adrannau adnoddau dynol. Fodd bynnag, mae'n ofynnol i heddluoedd atgyfeirio unrhyw farwolaeth neu anaf difrifol sy'n dilyn cyswllt uniongyrchol neu anuniongyrchol â swyddogion heddlu, staff, contractwyr a gwirfoddolwyr atom.
Trwy ein gwaith, rydym yn dal yr heddlu i gyfrif pan fydd pethau'n mynd o'u lle, yn argymell newidiadau i atal yr un camgymeriadau rhag ddigwydd eto ac yn hyrwyddo safonau uchel o blismona. Rydym yn defnyddio ein tystiolaeth i ysgogi gwelliannau yn arferion yr heddlu er budd y cyhoedd a’r heddlu. Bydd hyn yn helpu i gyflawni ein gweledigaeth i bawb allu cael ymddiriedaeth a hyder mewn plismona.
Rydym hefyd yn monitro’r ffordd y mae heddluoedd yn ymdrin â chwynion i sicrhau bod y gwersi a ddysgwyd o gwynion ac ymchwiliadau yn helpu i wella plismona. Darllenwch fwy am y broses gwyno, a sut a phryd rydym yn cynnal ymchwiliadau annibynnol.
Byddwn yn gweithredu’n gyflym, yn ddiduedd ac yn deg pan fydd honiad yn cael ei gyfeirio atom. Yn aml bydd rheolwyr lleol yn ymchwilio i gŵyn am aelod o staff yr heddlu neu gontractwr – gall hyn fod gan eich goruchwyliwr neu reolwr uniongyrchol. Gall adnoddau dynol a/neu PSD eich heddlu ymdrin â’r mater os oes angen ymchwilio i gŵyn.
Bydd eich heddlu yn dweud wrthych os ydych am gael eich cyfweld am ymchwiliad i gŵyn. Er enghraifft, efallai y byddwch yn derbyn llythyr gan y PSD am y gŵyn a’r penderfyniad i ymchwilio iddi. Fe'ch cynghorir yn gryf i gysylltu â'ch undeb llafur os bydd hyn yn digwydd. Byddant yn trefnu i'ch cynrychioli yn ôl yr angen.
Mae ymchwiliadau i faterion difrifol, megis marwolaethau yn y ddalfa, yn cael eu cynnal gan ein hymchwilwyr ein hunain. Mewn rhai amgylchiadau, mae gan ein hymchwilwyr bwerau heddlu llawn a hawliau mynediad i eiddo, dogfennau a thystiolaeth arall.
Mae ein canllaw manwl, yn amlinellu’r hyn y gall swyddogion heddlu a staff ei ddisgwyl os ydynt yn ymwneud ag ymchwiliad gan SAYH.
Credwn mai sicrhau bod adroddiad yr ymchwilydd ar gael yw’r ffordd fwyaf tryloyw o ddangos yr hyn y mae’r ymchwiliad wedi’i ganfod. Pan fydd yr ymchwiliad wedi’i gwblhau, mae’n bosibl y caiff yr adroddiad ei ddatgelu i achwynwyr, swyddogion heddlu, staff heddlu, contractwyr a gwirfoddolwyr (yn amodol ar brawf niwed). Defnyddir prawf niwed i benderfynu os oes gwybodaeth a fyddai’n achosi effeithiau andwyol pe bai’n cael ei ddatgelu, megis risgiau i ddiogelwch gwladol.
Efallai y gofynnir i chi ysgrifennu adroddiad am yr hyn a ddigwyddodd – nid yw cyfweliad bob amser yn angenrheidiol. Mae gennych yr hawl i ymgynghori â chynrychiolydd undeb llafur cyn anfon eich ymateb. Mae gennych hawl i gyfreithiwr os ydych yn mynd i gael eich cyfweld dan rybudd. Cysylltwch â'ch undeb llafur ar unwaith i drefnu hyn cyn y cyfweliad.
Mae ein canllawiau manwl ar gyfer swyddogion yn cynnwys rhagor o wybodaeth am yr hyn y gall swyddogion ei ddisgwyl pan ofynnir iddynt ddarparu adroddiad tyst; y wybodaeth y byddwn yn ei ddarparu iddynt; a sut y byddwn yn gwneud penderfyniadau ar y ffordd fwyaf priodol o ymgysylltu â'r swyddog.
Ar ôl i ymchwiliad ddod i ben, gallai fod nifer o ganlyniadau gwahanol i'r unigolion dan sylw, mae'r rhain wedi'u hamlinellu'n fanwl, yn ein canllaw manwl.
Os na chytunir ar unrhyw gamau pellach ni ellir cyfeirio at y mater mewn cynlluniau datblygu personol neu arfarniadau staff. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn cael hyfforddiant, cyngor neu gymorth arall o ganlyniad i gŵyn.
Mae nifer fach o gwynion yn arwain at gamau disgyblu neu gamymddwyn. Gall staff yr heddlu gael cymorth gan eu hundeb llafur, a all ddarparu cynrychiolaeth a chyngor ar bob mater disgyblu a chamymddwyn.
Bydd swyddogion heddlu, cwnstabliaid gwirfoddol a staff yn cael eu rhoi ar restr wahardd os ydynt yn cael eu canfod yn euog o gamymddwyn difrifol ac yn cael eu diswyddo neu y byddent wedi bod pe na baent wedi ymddeol neu wedi ymddiswyddo. Mae heddluoedd a chyrff plismona eraill, gan gynnwys y SAYH, yn cyfeirio at y rhestr hon cyn gwneud penodiadau ac maent wedi’u gwahardd gan y gyfraith rhag cyflogi unrhyw un ar y rhestr wahardd.
Mae swyddogion heddlu, cwnstabliaid gwirfoddol a staff sydd wedi ymddiswyddo neu wedi ymddeol yn ystod ymchwiliad a allai arwain at ddiswyddo, neu sy'n gadael cyn i honiad o'r fath ddod i'r amlwg, wedi'u cynnwys yn y rhestr gynghori. Wrth gynnal gwiriadau cyn-cyflogaeth, os yw ymgeisydd ar y rhestr gynghori, rhaid i'r sefydliad cyflogi ystyried y wybodaeth ynghylch y rhesymau pam fel rhan o'r broses wirio.
Pan fydd gweithdrefnau disgyblu wedi'u cwblhau, bydd y manylion naill ai'n cael eu hychwanegu at y rhestr waharddedig os byddai'r swyddog wedi'i ddiswyddo, neu ei dynnu os na chaiff yr achos ei brofi. Mae'r rhestr gynghori hefyd yn cynnwys gwirfoddolwyr dynodedig y mae eu statws dynodedig wedi'i dynnu'n ôl oherwydd materion ymddygiad neu berfformiad.
Mae'r Coleg Plismona yn gyfrifol am gadw y rhestrau gwahardd a chynghori.
Mae ein llinell adrodd yn bodoli er mwyn i swyddogion a staff yr heddlu adrodd am bryderon ynghylch camymddwyn bod trosedd wedi’i chyflawni, neu lle mae tystiolaeth o ymddygiad a fyddai’n cyfiawnhau achos disgyblu. Mae'r Swyddfa Gartref yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol am adrodd pryderon (pennod dau), tra bod GOV.UK yn cynnig gwybodaeth gyffredinol am broses chwythu'r chwiban.
Gellir defnyddio’r llinell adrodd i wneud datgeliadau er budd y cyhoedd i SAYH. Mae datgeliadau a wneir er budd y cyhoedd yn cael eu diogelu o dan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996. Mae SAYH yn berson rhagnodedig o dan y ddeddfwriaeth honno at ddibenion materion sy’n ymwneud ag ymddygiad person sy’n gwasanaethu gyda’r heddlu neu gorff gorfodi’r gyfraith arall o dan awdurdodaeth SAYH.
Rydym yn cofnodi adroddiadau a wneir i ni sy'n bodloni meini prawf Datgeliad er Lles y Cyhoedd gan ddefnyddio'r meini prawf yn y ddeddfwriaeth a Chanllawiau'r Swyddfa Gartref (Pennod 2).
Mae ein pwerau i weithredu ar ddatgeliadau budd y cyhoedd / adroddiadau chwythu'r chwiban a wneir i ni wedi'u pennu gan Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2002 (PRA). Ymdrinnir â materion chwythu'r chwiban yn wahanol i gwynion a wneir gan aelodau'r cyhoedd. O dan y PRA, ni fyddai gan berson sy’n gwasanaethu gyda’r heddlu ac sy’n dymuno gwneud cwyn hawliau achwynydd heblaw ei fod oddi ar ddyletswydd ar adeg yr ymddygiad honedig ac os yw’r gŵyn yn erbyn person sydd, ar adeg yr ymddygiad honedig, dan gyfarwyddyd a rheolaeth prif swyddog gwahanol.
Yn ogystal, mae materion sy’n ymwneud â chyfarwyddyd a rheolaeth heddlu yn parhau y tu allan i gylch gwaith SAYH. Mae hyn yn gyffredinol yn cynnwys materion achwyn fel pensiynau, dyrchafiad a disgyblaeth. Fodd bynnag, pan fydd y materion hynny'n codi, mae gan swyddogion heddlu ac aelodau staff fynediad at gynllun cwynion mewnol sydd â llwybrau apelio at staff uwch.
Rydym yn annog swyddogion a staff i ddilyn y llwybrau hyn, lle ei fod yn briodol, a cheisio cyngor cyfreithiol neu siarad â Ffederasiwn yr Heddlu, neu eu hundeb, am gyngor pellach mewn amgylchiadau o’r fath. Ni all SAYH roi cyngor arbenigol i unigolion ar eu hawliau ac ni allwn ymgymryd ag ymgyfreitha ar ran unigolyn.
Mae rhagor o wybodaeth am y broses llinell adrodd ar gael yn ein tudalen Cwestiynau Cyffredin. Mae llinell adrodd y SAYH yn cael ei weithredu a’i reoli gan ein canolfan cyswllt cwsmeriaid. Cysylltwch trwy e-bostio eu ffoniwch ni ar 08458 770061 (mae llinellau ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 9yb-5yh - gadewch neges llais ar ôl oriau).
Adrodd data ar faterion Llinell Adrodd
Creodd ein Panel Ieuenctid y poster defnyddiol hwn yn seiliedig ar eu hymchwil gydag 800 o bobl ifanc i helpu swyddogion heddlu wrth ddod i gysylltiad â phobl ifanc.
Gwybodaeth ar gyfer Adrannau Safonau Proffesiynol
Rydym wedi creu canllawiau manwl a phecyn cymorth cysylltiedig i gynorthwyo ymdrinwyr cwynion ac ymchwilwyr o fewn adrannau safonau proffesiynol ymdrin â chwynion am swyddogion heddlu.
Mae'r dogfennau'n arwain y rhai sy'n delio â chwynion drwy broses gwynion yr heddlu ac maent wedi'u cynllunio i gyflawni arfer gorau a mwy o gysondeb ar draws pob heddlu.
Mae canllawiau ar ddelio â honiadau o wahaniaethu yn cynnwys canllaw cryno gyda dolenni i ganllawiau manylach ac enghreifftiau achos
Mae ein canllaw statudol yn helpu heddluoedd a chyrff plismona lleol i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol wrth ymdrin â chwynion am swyddogion a staff yr heddlu. Mae'n amlinellu sut i gyrraedd safonau uchel wrth ymdrin â chwynion, materion ymddygiad a materion marwolaeth ac anafiadau difrifol (DSI).
Mae ein canllaw statudol yn helpu heddluoedd a chyrff plismona lleol i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol wrth ymdrin â chwynion am swyddogion a staff yr heddlu. Mae'n amlinellu sut i gyrraedd safonau uchel wrth ymdrin â chwynion, materion ymddygiad a materion marwolaeth ac anafiadau difrifol (DSI).
Mae ein canllawiau yn nodi’r egwyddorion sy’n sail i’r system gwynion, pryd y dylid cofnodi cwynion a gwahanol ffyrdd o ymdrin â chwynion, gan gynnwys cyfeirio at y SAYH ac ymchwiliad lleol gan yr heddlu. Mae hefyd yn ymdrin â chanlyniadau posibl a sut y gellir adolygu canlyniad cwyn.
Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i faterion sy’n dod i sylw heddluoedd, comisiynwyr heddlu a throseddu neu’r SAYH ar neu ar ôl 1 Chwefror 2020.
Nodwch: nid yw’r canllawiau hyn yn berthnasol i sefydliadau eraill o dan ein hawdurdodaeth sy’n cael eu llywodraethu gan ddeddfwriaeth wahanol. Lle ei fod yn briodol, mae'r sefydliadau hyn yn dilyn ysbryd y canllawiau wrth ymdrin â chwynion.
Ar gyfer materion a ddaeth i sylw heddluoedd, comisiynwyr heddlu a throseddu neu SAYH cyn 1 Chwefror 2020, cyfeiriwch at ein canllaw statudol blaenorol a nodyn cyngor gweithredol.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am ein canllawiau statudol cyn 2015 drwy’r Archif Genedlaethol.Mae’r dogfennau dyddiedig 2012 yn ymwneud â chwynion ac apeliadau a dderbyniwyd gan awdurdodau priodol rhwng 22 Tachwedd 2012 a Mai 2015. Mae’r dogfennau dyddiedig 2012 yn ymwneud â chwynion ac apeliadau a dderbyniwyd gan awdurdodau priodol rhwng 1 Ebrill 2010 a 22 Tachwedd 2012.
Mae ein canllawiau statudol ar sicrhau’r dystiolaeth orau mewn materion sy’n ymwneud â marwolaethau neu anafiadau difrifol yn helpu’r heddlu i gydymffurfio â’u dyletswyddau a’u cyfrifoldebau o’r eiliad y daw mater marwolaeth neu anaf difrifol (DSI) i’w sylw.
Nod y canllawiau yw ein helpu i sicrhau’r dystiolaeth orau i lywio ein hymchwiliadau, hybu hyder y cyhoedd yn uniondeb y broses a diogelu’r swyddogion dan sylw rhag cyhuddiadau o gydgynllwynio.
I gael rhagor o wybodaeth, mae'r Coleg Plismona wedi cyhoeddi canllawiau ar weithdrefnau ar ôl digwyddiad, rheolaeth, lles a materion cyfreithiol.
Mae’r canllaw hwn yn amlinellu’r wybodaeth y dylid ei ddarparu wrth wneud atgyfeiriad i SAYH Safonau gofynnol ar gyfer atgyfeiriadau.
Mae'r canllaw hwn yn cefnogi gwasanaeth yr heddlu i gasglu gwybodaeth gywir a chyson am gwynion y gellir ei ddefnyddio i nodi materion a thueddiadau, Gellir defnyddio'r wybodaeth hon i lywio datblygiad polisi ac arfer yn y dyfodol ar lefelau lleol a chenedlaethol. Mae'n berthnasol i gwynion a dderbyniwyd o 1 Chwefror 2020 Canllawiau ar gasglu data am gwynion yr heddlu.
Mae’r canllaw hwn yn rhoi dull teg a chyson i’r rhai sy’n ymdrin â chwynion o reoli ymddygiad annerbyniol neu afresymol gan achwynwyr. Mae hefyd yn sicrhau ein bod yn rhoi mynediad i system gwynion yr heddlu i bawb - Canllaw ar reoli ymddygiad annerbyniol ac afresymol gan achwynwyr
Mae’r nodyn cyngor hwn yn helpu heddluoedd i gydymffurfio â’r gofyniad statudol i ddarparu adroddiad pan fydd ymchwiliad lleol ar agor am fwy na 12 mis - Nodyn cyngor gweithredol ar adroddiadau amseroldeb 12 mis.
Ar gyfer cwynion a dderbyniwyd cyn 1 Chwefror 2020, gweler ein Canllawiau ar gofnodi cwynion o dan Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 (diweddarwyd Rhagfyr 2017).
Os yw eich heddlu am archebu copïau caled o'r daflen Canllaw i system gwynion yr heddlu, cwblhewch ac anfonwch Ffurflen cyhoeddi atom.
Gwybodaeth i gyrff eraill o dan ein hawdurdodaeth
Canllawiau i baneli heddlu a throseddu a chynulliad Llundain pwyllgor heddlu a throseddu eu gwneud yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau wrth ymdrin â chwynion a materion ymddygiad (wedi'u diweddaru Tachwedd 2022)