Gweithio gyda ni

Ymunwch â ni a byddwch yn cymryd rhan yn rhywfaint o’r gwaith mwyaf heriol a boddhaus i chi ddod ar ei draws erioed.

Rydym yn chwilio am bobl i gynnal ein gwerthoedd craidd, ac mewn cydnabyddiaeth byddwn yn rhoi amgylchedd gwaith cefnogol a chynhwysol i chi lle gallwch ffynnu.

Mae ein rolau'n amrywiol iawn. Gallech fod yn delio ag achosion cymhleth, sy'n aml yn uchel eu proffil, gan sicrhau bod gan ein gweithlu seilwaith digidol a data effeithlon, yn adrodd ar ddata allweddol, yn cyflwyno rhaglenni i gefnogi datblygiad cydweithwyr neu'n datblygu strategaeth.

Beth bynnag yw eich rôl, byddwch yn ein helpu i feithrin ymddiriedaeth a hyder mewn plismona.

Rydym wedi ymrwymo i:
• eich trin yn deg, ag urddas a heb wahaniaethu
• eich gwerthuso'n deg a gwobrwyo eich cyfraniad
• ddarparu amgylchedd gwaith iach a diogel
• roi cyfleoedd a chefnogaeth i chi gyflawni eich potensial
• eich helpu i gydbwyso eich bywyd cartref a gwaith

Porth Recriwtio

Ymwelwch â'n porth recriwtio i gael gwybod am ein swyddi gwag presennol Porth Recriwtio

Manteision o weithio gyda ni

Image

Eisiau dysgu rhagor am ein rolau ymchwiliadol?

Swyddi ymchwiliadol
Image
Man at a computer

Diddordeb mewn cyfleoedd eraill i weithio i ni?

Rolau eraill

Cwestiynau cyffredin

Dysgwch ragor am ymgeisio am rôl gyda ni a'r broses o ddethol.

Ein gwaith

Ein nod yw sicrhau bod gan bawb hyder ac ymddiriedaeth yn y system gwynion am yr heddlu. Mae ein gwaith yn gymhleth ac rydym yn gyfrifol am ymchwiliadau, atgyfeiriadau, adolygiadau a goruchwylio’r system gwynion am yr heddlu.

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth ym mhopeth rydym yn gwneud. Ein gweledigaeth yw bod, a chael ein gweld fel, arweinydd mewn cyflogaeth a gwasanaethau cynhwysol, gan ddangos yr ethos hwn ym mhopeth a wnawn.