Ein strategaeth a'n perfformiad

Mae ein trawsnewidiad yn ymwneud ag ailfeddwl yn radical sut rydym yn gweithio ac yn meddwl, er mwyn inni allu gweithio'n fwy clyfar yn hytrach na chaled. Yn ogystal â hyn, rydym yn cyhoeddi nifer o adroddiadau sy'n dangos sut rydym yn perfformio.
Two black men in discussion

Fel rhan o'n rhaglen trawsnewid, byddwn yn:

  • Dylunio ein gwasanaethau o amgylch ein defnyddwyr a bod yn gymesur – gwneud yr hyn sydd ei angen arnom i gyrraedd y canlyniad cywir a dim mwy.
  • Clirio a symleiddio prosesau gwneud penderfyniadau a chymeradwyo – sicrhau bod ein pobl wedi'u grymuso a’u galluogi, ar bob lefel, i ddarparu gwasanaeth gwych.
  • Safoni a gwella ein prosesau – integreiddio cymesuredd a rheolaeth ansawdd, cynyddu cysondeb a gwella ein gallu i wella'n barhaus.
  • Ail-lunio profiad ein pobl – integreiddio EDI (cyfartaledd, amrywiaeth a chynhwysiant) a llesiant, ehangu'r cynnig i ddysgu a datblygu, a meithrin diwylliant cynhwysol ac ysbryd cymuned sy'n seiliedig ar dryloywder, cydweithio a chyfrifoldeb.
  • Defnyddio technoleg yn effeithiol i wneud ein gwaith yn haws – lleihau amser a dreulir ar dasgau gweinyddol gyda AI ac awtomeiddio, a chynyddu cyfleoedd ar gyfer cydweithio a rhannu gwybodaeth.

Ein perfformiad

Dysgwch sut rydym yn mesur ein perfformiad fel sefydliad, a sut rydym yn cyflawni yn erbyn ein targedau. Ein perfformiad

Adroddiad Effaith

Pob blwyddyn rydym yn cyhoeddi adroddiad effaith sy'n amlinellu ein cyflawniadau a sut mae ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth.

Adroddiadau canlyniadau ymchwiliadau

Mae'r adroddiadau hyn yn disgrifio'r canlyniadau yn dilyn ein hymchwiliadau annibynnol. Mae hyn yn cynnwys penderfyniadau a wnaethom ar ôl ein hymchwiliadau, a chanlyniadau prosesau camymddwyn neu droseddol dilynol.

Data heddlu

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf sydd gennym am sut mae heddluoedd yn rheoli cwynion.

Cynllun busnes

Mae ein cynllun Busnes yn amlinellu'r gwaith y byddwn yn ei wneud bob blwyddyn i gyflawni ein strategaeth a sut y byddwn yn mesur ein cynnydd.

Adroddiad Blynyddol

Mae ein Hadroddiad Blynyddol yn disgrifio ein gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf, mewn ymateb i'n cynllun Busnes.