Ymchwiliadau
Mae'n rhaid i heddluoedd gyfeirio'r digwyddiadau mwyaf difrifol atom ni; os yw rhywun wedi gwneud cwyn neu peidio. Er enghraifft, os yw gweithredu gan yr heddlu yn arwain at aelod o’r cyhoedd yn cael ei anafu’n ddifrifol neu’n marw:
- tra yn y ddalfa
- ar ôl iddynt ddod i gysylltiad â’r heddlu
- o ganlyniad i saethu gan yr heddlu
- mewn damwain ffordd yn ymwneud â’r heddlu
Gall yr heddlu hefyd gyfeirio digwyddiadau atom ni os oes ganddynt bryderon am ymddygiad eu swyddogion neu staff. Weithiau rydym yn cysylltu â heddluoedd yn uniongyrchol i ofyn iddynt atgyfeirio mater atom ni.
Yn 2023/24 cawsom fwy na 7,000 o gyfeiriadau gan yr heddlu, ond nid ydym yn ymchwilio’n annibynnol i’r mwyafrif ohonynt.
Canllaw i'n hymchwiliadau
Mae ein cylch gwaith yn cwmpasu pob heddlu yn Lloegr a Chymru, ond mae hefyd yn ymestyn i:
- gomisiynwyr heddlu a throseddu a’u dirprwyon
- Swyddfa Maer Llundain dros Blismona a Throseddu, a’i ddirprwy.
- rai heddluoedd arbenigol (gan gynnwys Heddlu Trafnidiaeth Prydain, Heddlu’r Weinyddiaeth Amddiffyn a’r Gwnstabliaeth Niwclear Sifil)
- Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC)
- staff sy’n cyflawni rhai swyddogaethau ffiniau a mewnfudo sydd bellach yn gweithio o fewn Llu Ffiniau’r DU a’r Swyddfa Gartref
- Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol (NCA)
- swyddogion sy’n cyflawni rhai swyddogaethau yn yr Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Llafur (GLAA)
- Comisiwn Annibynnol ar gyfer Cymodi ac Adfer Gwybodaeth (ICRIR)
Pan dderbyniwn atgyfeiriad, rydym yn ei asesu i ystyried os yw ymchwiliad yn angenrheidiol. Nid yw dau atgyfeiriad yr un peth yn union. Mae'r holl atgyfeiriadau yn cael eu hasesu ar eu gwerth eu hunain gan ein huned asesu arbenigol.
Os byddwn yn penderfynu bod angen ymchwilio, mae tair ffurf o ymchwiliad y gallwn ddewis ohonynt:
- Ymchwiliad lleol: mae adran safonau proffesiynol (PSD) yr heddlu ei hun yn ymchwilio. Mae'r PSD yn adran ar wahân o fewn yr heddlu sy'n gyfrifol am gwynion a chamymddwyn, gwrth-lygredd, fetio a llywodraethant.
- Ymchwiliad annibynnol: rydym yn ymchwilio gan ddefnyddio ein hymchwilwyr ein hunain
- Ymchwiliad wedi'i gyfarwyddo: rydym yn cyfarwyddo ac yn rheoli'r ymchwiliad gan ddefnyddio adnoddau'r heddlu
Rydym yn gwneud penderfyniadau anodd bob dydd am yr hyn rydym yn ymchwilio iddo'n annibynnol yn erbyn yr hyn rydym yn gofyn i adran safonau proffesiynol heddlu ei hun ymchwilio iddo.
Rydym yn canolbwyntio ein gwaith ar feysydd lle bydd ymchwiliad annibynnol yn cael yr effaith fwyaf ar gynnal hyder cyhoeddus mewn plismona.
Mae ein gwaith craidd yn cynnwys:
- lle mae Erthygl 2 (Hawl i fywyd) neu Erthygl 3 (Gwahardd artaith, triniaeth annynol neu ddiraddiol) o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn cael ei ddefnyddio.
- materion sy'n cynnwys prif swyddogion heddlu, neu gomisiynwyr heddlu a throseddu (lle mae meini prawf penodol yn gymwys fel y diffinnir gan ein Canllaw Statudol)
Mae ein gwaith thematig yn cynnwys:
Fodd bynnag, dim ond oherwydd bod atgyfeiriad yn cynnwys elfennau o'n gwaith craidd neu faes thematig, nid yw'n golygu'n awtomatig yr ymchwilir iddo'n annibynnol. Rydym hefyd yn ystyried difrifoldeb y mater a diddordeb cyhoeddus pan benderfynwn gynnal ymchwiliad annibynnol neu beidio.
Rydym o dan ddyletswydd statudol i sicrhau a chynnal hyder y cyhoedd yn y system gwynion. Mae cyflawni ymchwiliadau annibynnol yn rhan yn unig o sut rydym yn cyflawni hyn. Rydym yn cyfarwyddo rhai ymchwiliadau a hefyd yn cadw rôl mewn ymchwiliadau cwynion lleol ac ymchwiliadau sydd wedi cynnwys marwolaeth neu anaf ddifrifol.
Mae gan ein gwaith goruchwylio, dysgu a gwella hefyd rôl sylweddol i'w chwarae ac mae ein strategaeth wedi'i chanolbwyntio ar gael y cydbwysedd yn gywir.
Nid yw dau atgyfeiriad yr un peth yn union. Mae'r holl atgyfeiriadau yn cael eu hasesu ar eu gwerth eu hunain gan ein huned asesu arbenigol.
Yn ogystal ag ystyried os yw mater yn syrthio o fewn un o'n meysydd craidd neu thematig, mae nifer o ffactorau perthnasol posibl a all gael eu cymryd i ystyriaeth, gan gynnwys:
- graddau'r niwed a all fod wedi cael ei achosi neu wedi cyfrannu at
- natur agored i niwed yr achwynydd neu berson/au a effeithir
- os oes tystiolaeth i ddangos tramgwyddo posibl, a graddau a natur y tramgwyddo posibl hwnnw
- rheng uchel neu lefel cyfrifoldeb y rheini sy'n cymryd rhan ac a all y mater gynnwys camddefnydd pŵer
- os yw'r rheini sy'n cymryd rhan yn gwasanaethu â'r heddlu o hyd
- sylw sylweddol gan y cyfryngau, budd a/neu densiwn cymunedol
- rhan mater o bryder a gafodd ei adnabod mewn un unrhyw ardal llu arbennig
- os yw'r mater yn gysylltiedig ag ymchwiliad parhaus
- cam unrhyw ymchwiliad lleol sydd wedi cael ei gychwyn eisoes
- unrhyw ystyriaethau adnoddau arbenigol (gall hyn gynnwys adnoddau ymchwiliadol a/neu adnoddau i sicrhau diogelu / rheoli risg priodol)
- os gweithdrefnau cwyno yw'r ffordd fwyaf priodol i fater symud ymlaen drwyddi
- os yw opsiynau amgen yn ddigonol i sicrhau annibyniaeth, neu oruchwyliaeth annibynnol (er enghraifft, cynnwys heddlu annibynnol, neu'r hawl o adolygiad i ni adolygu casgliad ymchwiliad lleol i gŵyn)
Gallwn ni hefyd ystyried:
- Asesiadau llu HMICFRS
- Ymarfer Proffesiynol Wedi'i Gymeradwyo Gan y Coleg Plismona
- Polisïau a gweithdrefnau yr heddlu perthnasol
- Gwybodaeth
- Argymhellion dysgu blaenorol
Ar ddechrau pob ymchwiliad, byddwn yn amlinellu pa rannau o’r digwyddiad y byddwn yn ymchwilio iddynt. Gelwir hyn yn ‘gylch gorchwyl’.
Yna mae ein hymchwilwyr yn casglu tystiolaeth i sefydlu amgylchiadau'r hyn sydd wedi digwydd. Gall hyn gynnwys:
- cymryd datganiadau tyst
- cyfweld swyddogion heddlu neu aelodau o staff yr heddlu
- dadansoddi lluniau CCTV neu gamerâu a wisgir gan swyddogion yr heddlu (fideo a wisgir ar y corff)
- cael dogfennau a chofnodion eraill, megis cofnodion ffôn
- adolygu polisïau sy’n berthnasol i’r hyn sydd wedi digwydd
- dadansoddiad fforensig a chyngor annibynnol gan arbenigwyr
Ar ddiwedd ein hymchwiliad, rydym yn cynhyrchu adroddiad sy’n nodi:
- beth ddigwyddodd
- beth a sut gwnaethom ymchwilio
- pa dystiolaeth y daeth ein hymchwilwyr o hyd iddi
- ein dadansoddiad o'r dystiolaeth
Rydym yn anfon yr adroddiad at yr heddlu. Rydym hefyd yn penderfynu beth ddylai ddigwydd i’r rhai sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad – er enghraifft, efallai y bydd angen rhagor o hyfforddiant arnynt neu gallent wynebu cyfarfod camymddwyn neu wrandawiad camymddwyn difrifol.
Yna gall yr heddlu ddarparu ei sylwadau am yr hyn a ddylai ddigwydd. Tra byddwn yn ystyried y safbwyntiau hynny, byddwn yn gwneud y penderfyniad terfynol ar yr hyn sy'n digwydd o ganlyniad i'n hymchwiliad
Yr heddlu sy'n cyflawni unrhyw gamau disgyblu. Gallant gynnal gwrandawiadau disgyblu (am gamymddwyn difrifol) neu gyfarfodydd (am gamymddwyn).
Mae’r camau disgyblu posibl y gall yr heddlu eu cymryd yn cynnwys:
- rhybudd ysgrifenedig
- rhybudd ysgrifenedig terfynol
- gostyngiad statws
- diswyddo heb rybudd
Gall yr heddlu hefyd gymryd camau di-ddisgyblaethol ar gyfer materion lefel isel o gamymddwyn neu berfformiad, megis ‘arfer y mae angen ei wella’. Gall swyddogion goruchwylio hefyd gynnig cyngor anffurfiol i'w staff, nodi unrhyw anghenion hyfforddi a threfnu i'r rhain gael eu diwallu.
Os bydd ein hymchwiliadau yn canfod meysydd i'w gwella neu gyfleoedd dysgu, gallwn wneud argymhellion i'r heddlu dan sylw - neu i bob heddlu, os yw'n briodol.
Rydym yn darparu copi o’n hadroddiad ymchwiliad i’r heddlu perthnasol ac hefyd:
- i'r person a gwynodd neu a anafwyd
- mewn achosion sy'n ymwneud â marwolaeth, teulu'r person a fu farw
- Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) – ond dim ond mewn achosion lle credwn y gallai heddwas neu aelod o staff fod wedi cyflawni trosedd. Bydd y CPS wedyn yn penderfynu os dylid erlyn
- y Crwner – ond dim ond mewn achosion lle mae rhywun wedi marw. Os bydd cwest yn cael ei gynnal, bydd yn ystyried ein tystiolaeth
Ar gyfer y rhan fwyaf o'r achosion rydym yn ymchwilio iddynt, rydym yn cyhoeddi crynodebau dienw o'n hadroddiadau.Mae'r rhain yn nodi crynodeb o'r amgylchiadau a ysgogodd yr ymchwiliad, y dystiolaeth a gasglwyd a'n casgliadau. Maent hefyd yn esbonio unrhyw ganlyniadau i'r rhai dan sylw - er enghraifft, beth ddigwyddodd os oedd gwrandawiad camymddwyn
Rydym yn cyhoeddi adroddiadau ymchwiliad llawn ar gyfer y digwyddiadau mwyaf difrifol a phroffil uchel. Weithiau bydd adroddiadau'n cael eu golygu i ddileu gwybodaeth sensitif neu breifat. Ni fydd rhai adroddiadau a chrynodebau yn cael eu cyhoeddi oherwydd natur digwyddiadau yr ymchwiliwyd iddynt – er enghraifft, troseddau rhywiol.
Rydym yn tynnu adroddiadau ymchwiliad oddi ar ein gwefan chwe mis ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi. Mae crynodebau yn aros ar ein gwefan am bum mlynedd. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data a’n polisi cyhoeddi.
Os na allwch ddod o hyd i'r ymchwiliad rydych yn chwilio amdano, efallai y bydd ar gael ar ein gwefan Archif Genedlaethol.