Dysgu'r Gwersi
Mae Dysgu'r Gwersi yn anelu at wella polisi ac arferion yr heddlu. Mae'n cynorthwyo gwasanaeth yr heddlu i ddysgu o'n hymchwiliadau ac adolygiadau i gwynion a materion ymddygiad. Mae pob rhifyn o'r cylchgrawn yn canolbwyntio ar thema neilltuol ac yn dod â chyfres o astudiaethau achos ynghyd, gan gynnwys cwestiynau myfyriol ar gyfer y rheini sy'n gweithio mewn plismona. Mae Dysgu'r Gwersi ar gyfer swyddogion yn ogystal â staff rheng flaen, a'r rheini sy'n gweithio mewn rolau polisi, dysgu neu reoli mewn plismona.
Ochr yn ochr ag astudiaethau achos, mae'r cylchgrawn yn archwilio gwaith sy'n digwydd ar draws IOPC, mewn heddluoedd lleol, ac mewn sefydliadau cenedlaethol fel y Coleg Plismona a Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu. Mae'r cylchgrwan yn cael ei gefnogi gan:
Defnyddiwch y tabl ffactor achos i ganfod erthyglau Learning the Lessons ar themâu penodol neu feysydd gweithredu. Mae ein log ymateb llu yn rhestru'r holl gwestiynau myfyriol rydym wedi eu gofyn ar draws holl rifynnau Dysgu'r Gwersi.
Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr e-bostio i dderbyn rhifyn diweddaraf ein cylchgrawn Dysgu'r Gwersi.
Darllenwch y rhifyn diweddaraf
Mae rhifyn 46 o Dysgu’r Gwersi yn canolbwyntio ar blismona rheng flaen. Mae plismona rheng flaen yn cyfeirio at y rheiny sydd mewn cysylltiad dyddiol â'r cyhoedd ac mae’n adlewyrchu amrywiaeth o sefyllfaoedd gall swyddogion a staff heddlu eu hwynebu. Mae'r rhifyn hwn yn codi ymwybyddiaeth o faterion allweddol rydym yn gweld trwy ein gwaith. Hefyd mae'n tynnu sylw at gyfleoedd dysgu gweledol i wella ymatebion yr heddlu i digwyddiadau tebyg a helpu i adeiladu ymddiriedaeth a hyder mewn plismona.Mae’r themâu allweddol yn cynnwys trin galwadau, defnyddio grym, fideos corff-wisgedig, plant a phobl ifanc, plismona'r ffyrdd, defnyddio offer, stopio a chwilio, cymorth cyntaf, a mwy.
Mae rhifynnau blaenorol o Dysgu'r Gwersi ar gael ar yr Archif Genedlaethol