Adolygiadau ac apeliadau
Mae'r penderfyniad os caiff eich cais ei drin fel adolygiad neu apêl yn dibynnu ar y dyddiad y gwnaethoch eich cwyn. Mae hyn oherwydd o 1 Chwefror 2020, daeth deddfau newydd i rym yn disodli’r hawl flaenorol i apêl â hawl newydd i adolygiad.
Ni all y corff adolygu perthnasol ailymchwilio i'ch cwyn. Gall asesu a oedd y ffordd yr ymdriniwyd â'ch cwyn neu ganlyniad terfynol eich cwyn yn rhesymol a chymesur yn unig.
Cwestiynau cyffredin - Adolygiadau
Os gwnaed eich cwyn ar neu ar ôl 1 Chwefror 2020, mae gennych hawl i adolygiad. Gallwch wneud cais am adolygiad os ydych yn anhapus â'r ffordd yr ymdriniwyd â'ch cwyn, neu â'r canlyniad terfynol. Bydd y corff adolygu perthnasol yn edrych i weld a oedd y ffordd yr ymdriniwyd â'ch cwyn neu ganlyniad eich cwyn yn rhesymol a chymesur.
Dylai'r sefydliad y gwnaethoch gwyno iddo fod wedi anfon llythyr atoch sy'n dweud wrthych os oes gennych hawl i adolygiad. Os oes gennych yr hawl hon, bydd y llythyr hefyd yn dweud wrthych pa sefydliad fydd yn ymdrin â'ch adolygiad.
Mae'n bwysig eich bod yn anfon eich adolygiad at y sefydliad cywir - weithiau, cyfeirir at hwn fel y corff adolygu perthnasol. Os ydych yn ansicr, cysylltwch â'r sefydliad a ddeliodd â'ch cwyn.
Cwblhewch ein ffurflen adolygu a’i hanfon at y sefydliad y dywedwyd wrthych am gysylltu ag ef. Byddant yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch i sicrhau bod y broses gywir yn cael ei dilyn. Gallwch hefyd gyflwyno adolygiad yn ysgrifenedig, gan ddefnyddio ein ffurflen argraffadwy.
Mae gennych 28 diwrnod i wneud cais am adolygiad. Er enghraifft, os yw eich llythyr yn ddyddiedig 1 Ebrill, mae'n rhaid i chi sicrhau bod y corff adolygu perthnasol yn derbyn eich adolygiad neu apêl erbyn 29 Ebrill.
Pan fydd yr heddlu neu’r IOPC yn derbyn eich ffurflen adolygu, byddant yn gwirio ai dyma’r sefydliad cywir i ymdrin â’ch adolygiad. Os nad yw, bydd yn anfon eich adolygiad ymlaen at y corff perthnasol ac yn eich hysbysu ei fod wedi gwneud hynny.
Bydd y corff adolygu perthnasol yn anfon llythyr atoch i gydnabod eich adolygiad. Byddant yn dweud wrthych faint o amser y mae’n debygol o’i gymryd i ystyried eich adolygiad. Bydd y corff adolygu perthnasol yn hysbysu’r sefydliad y gwnaethoch gwyno amdano eich bod wedi gwneud cais am adolygiad. Byddant hefyd yn hysbysu'r person y cwynir amdano ac unrhyw bobl eraill sydd â diddordeb.
Bydd y corff adolygu perthnasol yn gofyn i'r sefydliad y gwnaethoch gwyno amdano i roi unrhyw wybodaeth sydd ganddynt am eich cwyn a sut y gwnaethant ymdrin â hi.
Pan fydd yr holl wybodaeth wedi'i darparu, bydd y corff adolygu perthnasol yn asesu eich adolygiad ac yn gwneud ei benderfyniad. Byddwch yn cael gwybod am y penderfyniad hwn yn ysgrifenedig. Byddwch yn cael esboniad clir am sut y daethpwyd i'r penderfyniad hwn.
O'r dyddiad y byddwn yn derbyn eich cais am adolygiad, gall gymryd hyd at 47 wythnos i ddyrannu adolygiadau ymchwiliad, a hyd at 52 wythnos ar gyfer adolygiadau trin eraill. Mae hyn oherwydd swm eithriadol o uchel o waith a dderbyniwyd yn ystod y 24 mis diwethaf.
Ar hyn o bryd rydym yn dyrannu adolygiadau o ymchwiliadau a dderbyniwyd ym mis Ionawr 2023, ac adolygiadau trin eraill a dderbyniwyd ym mis Rhagfyr 2023. Rydym yn gweithio'n galed i leihau'r oedi hwn a byddwn yn diweddaru'r dudalen hon yn rheolaidd â'r amseroedd dyrannu presennol.
Mae adolygiadau ymchwiliad yn adolygiad yn dilyn ymchwiliad lleol a gynhaliwyd gan yr heddlu perthnasol. Mae adolygiadau trin eraill yn adolygiad ar ôl ymdrin â chwyn ac eithrio drwy ymchwiliad - mae hyn yn cynnwys pan fydd penderfyniad wedi'i wneud i beidio â chymryd camau pellach.
Beth yw gwaith achos?
Cwestiynau cyffredin - Apeliadau
Os gwnaed eich cwyn cyn 1 Chwefror 2020, mae gennych hawl i apêl. Mae chwe math gwahanol o apêl:
- gallwch apelio yn erbyn ymchwiliad yr heddlu neu sefydliad arall i mewn i'ch cwyn.
- gallwch apelio os na chofnodwyd cwyn.
- gallwch apelio yn erbyn penderfyniad i ddatgymhwyso.
- gallwch apelio yn erbyn canlyniad y penderfyniad lleol.
- gallwch apelio yn erbyn canlyniad cwyn ar ôl y penderfyniad i ddatgymhwyso.
- gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad i derfynu ymchwiliad.
Apêl yn erbyn ymchwiliad i gŵyn a wnaed i’r heddlu neu sefydliad arall
Mae’n bosibl y gallwch apelio os deliwyd â’ch cwyn drwy ymchwiliad lleol neu dan oruchwyliaeth.
Gallwch apelio os:
- Na chawsoch ddigon o wybodaeth i'ch galluogi i ddeall pam y daeth yr heddlu neu sefydliad arall i'w penderfyniad.
- Rydych yn anghytuno â chanfyddiadau ymchwiliad i'ch cwyn. Gallech deimlo na chyfwelwyd â’r tystion cywir, neu fod eich cwyn wedi’i chamddeall, neu na wnaeth y sefydliad y gwnaethoch y gŵyn iddo wneud y penderfyniad cywir ar sail yr holl dystiolaeth.
- Rydych yn anghytuno â'r camau y mae'r heddlu'n bwriadu eu cymryd ar ôl ymchwilio i'ch cwyn.
- Nid ydych yn meddwl bod yr heddlu wedi gwneud y penderfyniad cywir ynghylch a oes gan swyddog y gwnaethoch gŵyn amdano achos i'w ateb am gamymddwyn, camymddwyn difrifol, neu os oedd ei berfformiad yn anfoddhaol.
- Rydych yn anghytuno â’r penderfyniad i beidio â chyfeirio ymddygiad y swyddog at y CPS am benderfyniad ynghylch a ddylid dwyn cyhuddiadau troseddol.
Ni allwch apelio os yw eich cwyn yn ymwneud â mater cyfarwyddyd a rheolaeth (nid yw hyn yn berthnasol os yw eich cwyn yn ymwneud â chontractwr).
Apêl yn erbyn peidio â chofnodi eich cwyn
Gallwch apelio os:
- Na wnaeth yr heddlu neu'r corff plismona lleol gofnodi'ch cwyn. Mae cyrff plismona yn cynnwys Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, Cyngor Cyffredin Dinas Llundain, neu Swyddfa'r Maer ar gyfer Plismona a Throsedd. Mae rhai adegau pan nad oes angen iddynt gofnodi cwyn, ond dylid dweud wrthych pam. Gallwch ddod o hyd i restr o amgylchiadau lle nad oes angen cofnodi cwynion yn ein canllawiau statudol.
- Fe wnaethoch chi gwyno i heddlu heblaw'r un oedd yn ymwneud â'ch cwyn. Ni wnaeth yr heddlu a dderbyniodd eich cwyn ei throsglwyddo i'r heddlu perthnasol.
- Mae'r heddlu neu gorff plismona lleol yn methu â phenderfynu a ddylid cofnodi eich cwyn ac nad ydych yn clywed oddi wrthynt o fewn 15 diwrnod gwaith.
Ni allwch apelio os oedd eich cwyn:
- Yn ymwneud â mater cyfarwyddyd a rheolaeth a bod y corff plismona lleol wedi penderfynu peidio â'i chofnodi. Fodd bynnag, gallwch apelio os gwnaed y penderfyniad i beidio â chofnodi gan yr heddlu.
- Heb ei chofnodi oherwydd iddi gael ei thynnu'n ôl.
- Heb ei chofnodi oherwydd ei bod wedi cael ei thrin, neu'n cael ei thrin, trwy gamau disgyblu neu droseddol.
Apelio yn erbyn penderfyniad i ddatgymhwyso
Mae’n bosibl y gallwch apelio os daeth y broses gwyno i ben cyn i ymchwiliad i’ch cwyn ddechrau. Mae’r sefyllfa hon yn digwydd pan fydd yr heddlu dan sylw yn gwneud ‘penderfyniad i ddatgymhwyso’.
Gallwch apelio os credwch na ddylai'r heddlu fod wedi penderfynu datgymhwyso.
Ni allwch apelio os yw eich cwyn yn ymwneud â mater cyfarwyddyd a rheolaeth (nid yw hyn yn berthnasol os yw eich cwyn yn ymwneud â chontractwr), neu os rhoddodd yr IOPC ganiatâd i’r heddlu ddatgymhwyso.
Apêl yn erbyn canlyniad y penderfyniad lleol
Efallai y gallwch apelio os deliwyd â'ch cwyn gan ddefnyddio'r broses datrysiad lleol.
Pan ysgrifennodd yr heddlu atoch ynglŷn â chanlyniad eich cwyn, fe wnaethant hefyd ddweud wrthych at bwy i apelio. Mewn llawer o achosion, hwn fydd prif swyddog yr heddlu. Mewn achosion eraill, yr IOPC fydd hwn.
Gallwch apelio os:
- Ydych yn meddwl nad oedd canlyniad y datrysiad lleol i'ch cwyn yn un cywir. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, eich bod yn credu nad oedd y canlyniad yn briodol i’r gŵyn, neu nad oedd y canlyniad yn adlewyrchu’r dystiolaeth sydd ar gael.
Ni allwch apelio os yw eich cwyn yn ymwneud â mater cyfarwyddyd a rheolaeth (nid yw hyn yn berthnasol os yw eich cwyn yn ymwneud â chontractwr).
Apelio yn erbyn canlyniad cwyn ar ôl y penderfyniad i ddatgymhwyso
Efallai y gallwch apelio os daeth y broses o ymchwilio i'ch cwyn i ben cyn iddi gael ei hymchwilio. Pan fydd heddlu yn gwneud penderfyniad i roi’r gorau i ddelio â chwyn cyn ymchwilio iddi, gelwir hyn yn ‘benderfyniad i ddatgymhwyso’.
Gallwch apelio os:
- Nad ydych yn fodlon ar y camau a gymerwyd ar ôl y penderfyniad i ddatgymhwyso.
- Ydych yn anhapus na chymerwyd unrhyw gamau ar ôl y penderfyniad i ddatgymhwyso.
- Nad ydych yn cytuno â chanlyniad eich cwyn ar ôl y penderfyniad i ddatgymhwyso.
- Nad ydych yn meddwl bod canlyniad eich cwyn ar ôl y penderfyniad i ddatgymhwyso yn ddigonol. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, eich bod yn credu nad oedd y canlyniad yn ddigonol ar gyfer natur y gŵyn, neu nad oedd y canlyniad yn adlewyrchu’r dystiolaeth oedd ar gael.
Ni allwch apelio os yw eich cwyn yn ymwneud â mater cyfarwyddyd a rheolaeth (nid yw hyn yn berthnasol os yw eich cwyn yn ymwneud â chontractwr).
Apêl yn erbyn y penderfyniad i derfynu ymchwiliad
Mae’n bosibl y gallwch apelio os bydd heddlu’n penderfynu dod â’r ymchwiliad y mae’n ei gynnal i’ch cwyn i ben.
Gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad hwn os nad ydych yn credu y dylai'r heddlu fod wedi terfynu'r ymchwiliad.
Sylwch, ni allwch apelio pan mae'r gŵyn yn ymwneud â mater cyfarwyddyd a rheolaeth (nid yw hyn yn berthnasol os yw’ch cwyn yn ymwneud â chontractwr), neu os rhoddodd yr IOPC ganiatâd i’r heddlu ddatgymhwyso.
Pan fydd yr IOPC neu’r heddlu yn derbyn eich cais am apêl, bydd yn gwirio os dyma’r sefydliad cywir i drin eich cais. Os nad yw, bydd yn anfon eich apêl ymlaen at y corff apêl perthnasol ac yn eich hysbysu ei fod wedi gwneud hynny.
Bydd y corff apêl perthnasol yn anfon llythyr atoch i gydnabod eich apêl. Byddant yn dweud wrthych faint o amser y mae'n debygol o'i gymryd i ystyried eich apêl.
Bydd y corff apêl perthnasol yn hysbysu’r sefydliad y gwnaethoch gwyno amdano eich bod wedi gwneud cais am apêl. Byddant hefyd yn hysbysu'r person y cwynir amdano ac unrhyw bobl eraill sydd â diddordeb.
Bydd y corff apêl perthnasol yn gofyn i'r sefydliad y gwnaethoch gwyno amdano i roi unrhyw wybodaeth sydd ganddynt am eich cwyn a sut y gwnaethant ymdrin â hi.
Pan fydd yr holl wybodaeth wedi’i ddarparu, bydd y corff perthnasol yn asesu eich apêl ac yn gwneud ei benderfyniad. Byddwch yn cael gwybod am y penderfyniad hwn yn ysgrifenedig. Byddwch hefyd yn cael esboniad clir am sut y daethpwyd i'r penderfyniad hwn.