Cyflwyniad

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno ffigurau ar gwynion am yr heddlu yng Nghymru a Lloegr ar gyfer 2025/26. Mae’r cwynion hyn yn cael eu gwneud gan aelodau o’r cyhoedd ynghylch y gwasanaeth y maent wedi’i gael gan heddlu. Ymdrinnir â hwy o dan Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002, fel y’i diwygiwyd gan y Ddeddf Plismona a Throseddu 2017.

Gwnaeth Deddf Plismona a Throseddu 2017 a’r rheoliadau ategol newidiadau sylweddol i systemau cwynion a disgyblu yr heddlu. Cynlluniwyd y newidiadau hyn i sicrhau system gwynion symlach, fwy cymesur ac sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, gyda ffocws ar ddysgu a gwelliant. Rhoddwyd y newidiadau ar waith ar 1 Chwefror 2020, gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn dod o dan y ddeddfwriaeth newydd o 4 Ionawr 2021.

Mae cwyn am yr heddlu yn fynegiant o anfodlonrwydd gan aelod o’r cyhoedd ynghylch y gwasanaeth y mae wedi’i gael gan heddlu. Yr heddluoedd a’r cyrff plismona lleol sy’n delio â’r mwyafrif o’r cwynion eu hunain. Mae IOPC yn pennu’r safonau ar gyfer ymdrin â chwynion trwy ei Ganllawiau Statudol 2020.

Mae’r Canllawiau Statudol yn helpu cyrff plismona lleol a heddluoedd i gyflawni safonau uchel wrth ymdrin â chwynion am yr heddlu. Mae hefyd yn eu helpu i gydymffurfio â’u rhwymedigaethau cyfreithiol. Mae IOPC yn goruchwylio’r system gwynion ac yn ymchwilio i’r achosion mwyaf difrifol a sensitif. Mae hefyd yn cynnal adolygiadau o rai cwynion.

Cam cyntaf y broses o ymdrin â chwynion yw i’r heddlu neu’r corff plismona lleol perthnasol benderfynu sut y bydd yn ymdrin â’r gŵyn. Mae’r ddeddfwriaeth yn caniatáu datrys rhai mathau o gwynion yn anffurfiol, gan roi mwy o hyblygrwydd wrth ymdrin â chwynion yn ffurfiol. Mae hyn yn galluogi’r heddlu i fodloni anghenion yr achwynydd yn well a gwneud gwelliannau’n gyflym ar sail y cwynion mae nhw’n eu trin.

Gall unigolyn ofyn am adolygiad os yw’n anfodlon am ganlyniad ei gŵyn neu am y ffordd y cafodd ei gŵyn ei drin.Mewn rhai achosion, bydd yr adolygiad hwn yn cael ei gynnal gan IOPC. Caiff adolygiadau eraill eu cynnal gan gyrff plismona lleol (Comisiynwyr Heddlu a Throseddu neu Maeriaid).

Fel y nodwyd yn ystod blynyddoedd blaenorol, cofnodwyd y rhan fwyaf o’r data y cyfeirir ato yn yr adroddiad hwn ar systemau TG lluoedd heddlu a’i gasglu gan IOPC. Er bod y data wedi bod trwy wiriadau sicrhau ansawdd, mae’r ystadegau yn parhau i gael eu gwerthuso hyd nes y bydd eu cywirdeb, eu dibynadwyedd a’u gwerth wedi’u sefydlu a’u cadarnhau. Felly, dylid eu dehongli gyda thipyn o ofal gan fod gwerthusiad pellach yn dal i fynd yn ei flaen. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn disgrifio ystadegau arbrofol fel ‘cyfres o ystadegau sydd mewn cyfnod profi ac heb eu datblygu’n llawn eto.’

Rydym wedi darparu canllawiau i heddluoedd sy’n nodi sut rydym yn disgwyl iddynt gofnodi’r data rydym yn casglu. Felly, mae cysondeb y data rydym yn ei adrodd yn dibynnu ar heddluoedd yn cymhwyso ein canllawiau’n gywir wrth gofnodi data.

Mae ein canllawiau ar sut y dylai heddluoedd gofnodi data am gwynion o dan Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Plismona a Throseddu 2017, ar gael ar ein gwefan.