Dysgu'r Gwersi

Ein cylchgrawn i helpu gwella polisi ac arferion yr heddlu.

Mae Dysgu'r Gwersi yn anelu at wella polisi ac arferion yr heddlu. Mae'n cynorthwyo gwasanaeth yr heddlu i ddysgu o'n hymchwiliadau ac adolygiadau i gwynion a materion ymddygiad. Mae pob rhifyn o'r cylchgrawn yn canolbwyntio ar thema neilltuol ac yn dod â chyfres o astudiaethau achos ynghyd, gan gynnwys cwestiynau myfyriol ar gyfer y rheini sy'n gweithio mewn plismona. Mae Dysgu'r Gwersi ar gyfer swyddogion yn ogystal â staff rheng flaen, a'r rheini sy'n gweithio mewn rolau polisi, dysgu neu reoli mewn plismona.

Ochr yn ochr ag astudiaethau achos, mae'r cylchgrawn yn archwilio gwaith sy'n digwydd ar draws IOPC, mewn heddluoedd lleol, ac mewn sefydliadau cenedlaethol fel y Coleg Plismona a Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu. Mae'r cylchgrwan yn cael ei gefnogi gan:

Logos of organisations which support the Learning the Lessons magazine: College of policing, HMICFRS, Home Office, National Police Chiefs' Council, Police Federation, Police Superintendents' Association, Association of Police and Crime Commissioners

Defnyddiwch y tabl ffactor achos i ganfod erthyglau Learning the Lessons ar themâu penodol neu feysydd gweithredu. Mae ein log ymateb llu yn rhestru'r holl gwestiynau myfyriol rydym wedi eu gofyn ar draws holl rifynnau Dysgu'r Gwersi.

Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr e-bostio i dderbyn rhifyn diweddaraf ein cylchgrawn Dysgu'r Gwersi.

Cymerwch ran

Mae gennym banel rhithiol sy'n ein cynorthwyo yn natblygiad rhifynnau'r dyfodol. Mae aelodau'r panel yn cynrychioli plismona, y gymuned a'r sector wirfoddol, ac academia. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy, yna cysylltwch. E-bostiwch ni

Mae rhifynnau blaenorol o Dysgu'r Gwersi ar gael ar yr Archif Genedlaethol

Adborth

Oes gennych chi syniadau am beth yr hoffech chi weld yn rhifynnau'r dyfodol o Dysgu'r Gwersi? Neu adborth ar rifyn diweddar? Hoffem ei glywed.

Trosolwg

Dysgwch fwy am sut rydym yn dal heddluoedd i gyfrif am eu perfformiad mewn ymdrin â chwynion ac yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid plismona allanol i adnabod materion, gweithredu gwelliant ac ymarfer effeithiol, rhanadwy.

Ffocws

Mae Ffocws yn rhoi cyfarwyddyd ymarferol i adrannau safonau proffesiynol heddluoedd ynghylch ymdrin â chwynion, materion ymddygiad, ac achosion marwolaeth neu anafiadau difrifol.