Learning the Lessons – Gwneud y cylchgrawn

Published: 25 Jul 2023
Blog

Mae Megan Oliver, Arweinydd Dysgu a Gwella yn y SAYH, yn ateb cwestiynau am y cylchgrawn Learning the Lessons, gan gynnwys sut mae'n cael ei wneud, pwy sy'n cymryd rhan, a chynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Dewch i ni ddechrau â'r hanfodion, Beth yw Learning the Lessons?

Mae Learning the Lessons yn gylchgrawn a gynhyrchir gan y SAYH rydym yn ei ddefnyddio i ddylanwadu ar welliannau mewn polisi ac ymarfer heddlu. 

Mae pob rhifyn o'r cylchgrawn yn canolbwyntio ar thema neilltuol, er enghraifft, dalfa'r heddlu, neu ymdrin â galwadau. Mae'r cylchgrawn yn cynnwys astudiaethau achos wedi'u hanonymeiddio o ymchwiliadau ac adolygiadau go iawn rydym wedi eu cwblhau, i faterion cwynion ac ymddygiad. Maen nhw wedi'u cynllunio i amlygu prif faterion mewn plismona rydym yn ceisio gweithio trwyddynt.

Sut ydych chi'n penderfynu ar themâu ar gyfer rhifynnau sydd i ddod?

Rydym yn ystyried amrediad o fewnwelediadau i ffurfio ein penderfyniad am ba thema i ganolbwyntio arni. Mae hyn yn cynnwys:

  • y meysydd ffocws a amlinellir yn ein Cynllun Strategol
  • adborth gan gydweithwyr sy'n adnabod meysydd o bryder cynyddol
  • arolygon darllenwyr i weld beth hoffai pobl weld yn cael ei gwmpasu 
  • meysydd plismona a effeithir gan newid arwyddocaol

Oherwydd natur plismona, mae pob rhifyn o Learning the Lessons fel arfer yn cwmpasu nifer o is-themâu. Er enghraifft, gall rhifyn wedi'i ganolbwyntio ar ddalfa'r heddlu gwmpasu materion allweddol ynghylch iechyd meddwl, pobl ifanc, a'r defnydd o rym.  
Weithiau rydym yn rhoi sylw i bwnc am y tro cyntaf, ac weithiau byddwn yn ailymweld â thema flaenorol lle mae newid arwyddocaol wedi bod, neu rydym yn gweld meysydd pryder newydd.

Pwy sy'n cymryd rhan mewn cynhyrchu'r cylchgrawn?

Mae Learning the Lessons yn cael ei gynhyrchu â chymorth amryw o bobl sydd wedi ymrwymo i wella plismona.

The magazine is produced by my team with the support of other specialist teams from across the IOPC. Each issue has an ‘editorial group’ – which is completely unique in its make-up for each issue. This group contains people with specialist knowledge in the relevant topic, experience working in a relevant role, or even lived experience they wish to share. 

The editorial group helps us to understand key issues, identify case studies, quality assure content being developed, put us in touch with external contacts, and helps share the magazine externally with their networks.

Mae'r cylchgrawn yn cael ei gynhyrchu gan fy nhîm a chymorth timau arbenigol eraill ar draws y SAYH. Mae gan bob rhifyn 'grŵp golygyddol' - sy'n hollol unigryw yn ei gyfansoddiad ar gyfer pob rhifyn. Mae'r grŵp hwn yn cynnwys pobl sydd â gwybodaeth arbenigol yn y pwnc perthnasol, profiad yn gweithio mewn rôl berthnasol, neu hyd yn oed brofiad byw maen nhw'n dymuno rhannu. 

Dyma rai yn unig o'r sefydliadau sy'n helpu datblygu'r cylchgrawn yn rheolaidd:

The referenced media source is missing and needs to be re-embedded.

 

Sut mae Learning the Lessons yn gwella plismona?

Ar ôl pob rhifyn o'r cylchgrawn, rydym yn rhedeg arolwg i ofyn i ddarllenwyr ddweud wrthym am yr effaith mae wedi'i gael. Rydym hefyd yn annog rhanddeiliaid i gysylltu â ni i rannu adborth yn uniongyrchol.
 

Mae arolygon adborth diweddar yn canolbwyntio ar gam-drin swydd at ddiben rhywiol, ac ymdrin â galwadau wedi bod yn gadarnhaol iawn:

  • Teimlai 98% o’r ymatebwyr fod y cylchgronau yn offeryn buddiol i wella plismona, a darparodd y cylchgronau wybodaeth ddefnyddiol iddynt i ategu’r wybodaeth a gafwyd o hyfforddiant, sesiynau briffio neu brofiad ymarferol. 
  • Dywedodd 100% o’r ymatebwyr sy'n gweithio mewn rolau polisi heddlu y byddent yn ystyried gwneud newidiadau i bolisi, canllawiau neu hyfforddiant y maent yn gyfrifol amdanynt er mwyn adlewyrchu’r hyn a ddysgwyd o’r cylchgrawn.
     

Ochr yn ochr â pharhau i gynhyrchu Learning the Lessons a gwella'r cylchgrawn yn barhaus yn unol ag adborth, rydym wedi ychwanegu ychydig feysydd ffocws pwysig ychwanegol:

  1. I ehangu cyrhaeddiad Learning the Lessons, i'w helpu i ddylanwadu ar welliannau i bolisi ac ymarfer heddlu ar raddfa fwy.
  2. I archwilio cyfleoedd i rannu dysgu rhwng rhifynnau newydd o'r cylchgrawn, i ddarparu cynnwys rheolaidd sy'n ddefnyddiol i'n cynulleidfa.
  3. I barhau i ehangu ar bwy rydym yn gweithio gyda nhw trwy adeiladu ar gysylltiadau mewn rolau plismona a rhai sydd ddim mewn rolau plismona.
  4. I barhau i geisio adborth, i barhau i wella cynnwys ac effaith y cylchgrawn.
     

Sut mae'r dyfodol yn edrych?

Ochr yn ochr â pharhau i gynhyrchu Learning the Lessons a gwella'r cylchgrawn yn barhaus yn unol ag adborth, rydym wedi ychwanegu ychydig feysydd ffocws pwysig ychwanegol:

  1. I ehangu cyrhaeddiad Learning the Lessons, i'w helpu i ddylanwadu ar welliannau i bolisi ac ymarfer heddlu ar raddfa fwy.
  2. I archwilio cyfleoedd i rannu dysgu rhwng rhifynnau newydd o'r cylchgrawn, i ddarparu cynnwys rheolaidd sy'n ddefnyddiol i'n cynulleidfa.
  3. I barhau i ehangu ar bwy rydym yn gweithio gyda nhw trwy adeiladu ar gysylltiadau mewn rolau plismona a rhai sydd ddim mewn rolau plismona.
  4. I barhau i geisio adborth, i barhau i wella cynnwys ac effaith y cylchgrawn.

Sut allaf i gymryd rhan?

Rydym am i Learning the Lessons gyrraedd mwy o fewn plismona – yn enwedig y rheini sy'n defnyddio'r dysgu mae'n ei gynnwys. Os ydych yn gweithio mewn plismona ac yn gallu helpu gyda hyn, cysylltwch . Gallwn gynnig copïau caled o'r cylchgrawn i'w postio allan i luoedd i'w rhannu â swyddogion a staff.

Os hoffech gymryd rhan yn natblygiad y cylchgrawn, gallwch gwblhau ein ffurflen mynegiant o ddiddordeb ar-lein i ymuno â'n Panel Datblygu. Gwahoddir aelodau panel ag arbenigedd perthnasol i adolygu a darparu adborth ar gynnwys tua chwech wythnos cyn cyhoeddi pob rhifyn o'r cylchgrawn.

Neu darllenwch rifynnau blaenorol o Learning the Lessons.