Ein perfformiad

Rydym yn monitro ein perfformiad yn rheolaidd i sicrhau ein bod yn cyflawni ein nodau fel yr amlinellir yn ein strategaeth: Adeiladu ymddiriedaeth a hyder yn yr heddlu.

Rydym yn mesur amrediad o ddangosyddion perfformiad gwahanol megis:

  • ymwybyddiaeth o'r SAYH 
  • amser a gymerir i gwblhau gweithgareddau megis ymchwiliadau, gwneud penderfyniadau ac adolygiadau
  • heddluoedd yn derbyn ein hargymhellion
  • canfyddiad o'n heffeithiolrwydd gan randdeiliaid allweddol
  • bodlonrwydd, trosiant ac amrywiaeth staff

Sut rydym yn perfformio

Mae'r dogfennau fframwaith perfformiad isod yn amlinellu sut rydym yn perfformio yn erbyn amrediad o dargedau allweddol a mesurau cynorthwyol, yn erbyn ein pedwar prif amcan:


1.    Mae pobl yn gwybod am y system gwynion ac yn hyderus i'w ddefnyddio
2.    Mae'r system gwynion yn darparu canlyniadau teg, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, sy’n dwyn yr heddlu i gyfrif
3.    Mae ein tystiolaeth a'n dylanwad yn gwella plismona

Rydym yn sefydliad sy'n cyflawni perfformiad uchel