Adeiladu ymddiriedaeth a hyder mewn plismona

Mae ein cynllun strategol, Adeiladu ymddiriedaeth a hyder mewn plismona, yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a'r strategaeth i'w chyflawni hi. Mae’n egluro beth fydd ein blaenoriaethau a’r hyn y gobeithiwn ei gyflawni ym mhob un o’r meysydd hynny.  Hon fydd y ddogfen arweiniol ar gyfer ein holl waith hyd at 2027. 

O dan y strategaeth hon byddwn yn canolbwyntio ar bedwar maes gwaith i sicrhau bod:

  1. Pobl yn Lloegr a Chymru nid yn unig yn gwybod am y system gwynion a'u hawl i gwyno, ond hefyd yn teimlo'n hyderus i'w ddefnyddio.
  2. Y system gwynion yn darparu canlyniadau teg sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n dwyn yr heddlu i gyfrif.  Bydd hyn yn cynnwys dewis y cymysgedd cywir o waith er mwyn i ni fod yn hyderus ein bod yn creu'r effaith fwyaf, er enghraifft gweithio gyda heddluoedd i'w helpu i gael eu hymdrin â chwynion yn gywir y tro cyntaf
  3. Ein hannibyniaeth, ein tystiolaeth a'n dylanwad yn gwella plismona.

Ni yn sefydliad sy'n cyflawni perfformiad uchel trwy recriwtio a chadw'r bobl orau ac yn buddsoddi ynddynt i gyflawni ein gwaith pwysig. 
 

Ein gorchwyl yw gwella plismona trwy oruchwyliaeth annibynnol o gwynion yr heddlu, dwyn yr heddlu i gyfrif a sicrhau bod dysgu yn creu newid.

Ein gweledigaeth yw bod pawb yn gallu bod â ffydd a hyder yn yr heddlu.
Tom Whiting, Cyfarwyddwr Cyffredinol dros dro

Ein strategaeth

Gwyliwch ein fideo i ddysgu popeth am ein strategaeth bum mlynedd - 'Adeiladu ymddiriedaeth a hyder mewn plismona'. Mae'n amlinellu ein hymagwedd at gyflawni ein gweledigaeth trwy ganolbwyntio ar gasglu, blaenoriaethu a gweithredu dysgu.
Fideo cynllun strategol

Ein perfformiad

Dysgwch sut rydym yn mesur ein perfformiad fel sefydliad, a sut rydym yn cyflawni yn erbyn ein targedau. Ein perfformiad