IOPC yn ymchwilio i ymddygiad dau swyddog yn achos Henry Nowak
Mae ymchwiliad cyfredol Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) i weithredoedd swyddogion Heddlu Hampshire ac Ynys Wyth (HIOWC) a ddeliodd â Henry Nowak cyn ei farwolaeth drasig wedi datblygu mewn i gyfnod newydd.
Yn dilyn diwedd yr achos, a welodd Vickrum Digwa yn cael ei ddyfarnu'n euog o lofruddio Henry, rydym wedi asesu'r dystiolaeth a gawsom ac wedi ystyried sylwadau gan deulu Henry, wrth i ni adolygu pob agwedd ar yr ymchwiliad.
Rydym bellach wedi hysbysu dau swyddog HIOWC eu bod dan ymchwiliad am gamymddwyn difrifol posib. Mae'r dystiolaeth yn dangos y gallai'r ddau swyddog – sef y cyntaf i gyrraedd y lleoliad yn hwyr gyda'r nos ar 3 Rhagfyr 2025 – fod wedi torri'r safonau ymddygiad proffesiynol o ran dyletswyddau a chyfrifoldebau, defnyddio grym, ac ymddygiad diystyriol.
Mae'r rhain yn ymwneud â methiannau posib gan y swyddogion i gydnabod bod angen sylw meddygol brys ar Henry, i weithredu ar unwaith ar ôl iddo ddweud ei fod wedi cael ei drywanu ac na allai anadlu, a'r penderfyniad i arestio a rhoi gefynnau ar Henry yn hytrach na darparu cymorth cyntaf ar unwaith.
Mae yna arwydd hefyd y gallai un o'r swyddogion fod wedi torri'r safon yn ymwneud ag awdurdod, parch a chwrteisi, am ymddangos ei fod yn diystyru Henry yn dweud ei fod wedi cael ei drywanu.
Mae teulu Henry wedi cael gwybod am ein penderfyniad.
Dywedodd Cyfarwyddwr Ymgysylltu IOPC, Derrick Campbell: “Rydym yn parhau i estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau Henry.
“Gwnaeth ein ymchwilwyr gwrdd â theulu Henry yn gynharach y mis hwn lle roeddem yn gallu trafod ein ymchwiliad gyda nhw’n fanwl, nawr bod yr achos troseddol wedi dod i ben.
“Mae’n rhaid i ni adolygu’r dystiolaeth a geir drwy gydol ein ymchwiliadau’n gyson ac asesu unrhyw arwyddion o gamymddwyn posib gan y swyddogion dan sylw. O ganlyniad, bydd dau swyddog nawr yn wynebu ymchwiliadau i gamymddwyn difrifol.
“Mae tystiolaeth glir y gallai hyder y cyhoedd yn yr heddlu fod wedi’i niweidio’n ddifrifol gan y digwyddiad hwn, ac mae hynny’n ffactor y mae’n rhaid i ni ei ystyried wrth asesu’r dystiolaeth.
“Nid yw cyflwyno hysbysiadau camymddwyn difrifol o reidrwydd yn golygu y bydd achos disgyblu yn dilyn. Ar ddiwedd ein ymchwiliad, byddwn yn penderfynu a ddylai unrhyw swyddogion wynebu achos disgyblu.”
Rydym wedi ehangu ein ymchwiliad annibynnol yn dilyn trafodaethau diweddar gyda theulu Henry, sydd wedi gwneud cwynion ffurfiol am yr heddlu.
Rydym yn parhau i archwilio gweithredoedd y swyddogion yn y fan a'r lle, gan gynnwys y penderfyniad i arestio Henry a rhoi gefynnau arno ynghyd â'r cymorth cyntaf a ddarparwyd, a phenderfyniadau a gweithredoedd staff ystafell reoli HIOWC. Mae hyn yn cynnwys ymdrin â galwadau sy'n ymwneud â'r digwyddiad a gwybodaeth a drosglwyddir i'r swyddogion a oedd yn bresennol a'r gwasanaeth ambiwlans.
Rydym yn ymchwilio i weld a oedd hil neu grefydd Henry neu deulu Digwa wedi effeithio ar weithredoedd a phenderfyniadau'r swyddogion, a oedd penderfyniadau swyddogion wedi'u dylanwadu gan dybiaethau neu ragfarn yn ymwneud â thensiynau cymunedol ar y pryd, a chwynion a wnaed gan deulu Henry am wahaniaethau yn y ffordd y cafodd Henry ei drin gan swyddogion o'i gymharu â sut y cafodd Digwa ac aelodau o'i deulu eu trin ar ôl cael eu harestio.
Dywedodd Mr Campbell: “Mae hefyd yn rhan bwysig o’n rôl i nodi a oes angen unrhyw newidiadau i bolisïau neu weithdrefnau cenedlaethol neu heddluoedd, er mwyn gwella arferion yr heddlu.”
Ar ddiwedd ein ymchwiliad, byddwn yn rhannu ein darpar-benderfyniadau ynghylch materion disgyblu gyda'r heddlu a theulu Henry i gael eu barn, a byddwn yn ystyried hyn cyn gwneud ein penderfyniadau terfynol. Byddwn yn cyhoeddi hyn unwaith bydd y partïon dan sylw wedi cael gwybod.