IOPC yn ymchwilio i bedwar swyddog dros farwolaeth dyn o Portsmouth a gafodd ei gadw
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn ymchwilio i weithredoedd pedwar swyddog Cwnstabliaeth Hampshire ac Ynys Wyth ar ôl i ddyn farw ar ôl iddo gael ei arestio yn Portsmouth.
Rydym wedi gweld fideo swyddogion o'r digwyddiad ac wedi sefydlu bod Nigel Lawrence, 23 oed ac o'r ddinas, wedi bod yn cerdded ar y ffordd yn Fratton Road ac ymhlith traffig prysur pan aeth e at gar heddlu gyda dau swyddog tu fewn, a oedd yn mynd â rhywun dan amheuaeth i'r ddalfa, ac agor drws cefn.
Roedd ganddo'r hyn a oedd yn ymddangos fel ewyn gwyn o amgylch ei geg, roedd yn siarad yn aneglur â'r swyddogion ac yn ymddangos i fod mewn trallod.
Rhoddodd y swyddogion gefynnau ar ei ddwylo, cynnal chwiliad, darganfod ei fod yn meddu ar gyffuriau a reolir yn anghyfreithlon a'i arestio.
Rhoddon nhw ef mewn fan heddlu ac, tra’n poeni am ei les, roeddent yn ei gludo i'r ysbyty, pan wnaethon nhw dynnu draw i roi cymorth cyntaf brys i Mr Lawrence, gyda pharafeddygon yn cyrraedd i gynorthwyo.
Yn anffodus, bu farw Mr Lawrence yn yr ysbyty y noson ganlynol.
Cynhaliwyd archwiliad post-mortem ar ddydd Mercher 1 Gorffennaf ac mae profion pellach yn cael eu cynnal.
Ar 23 Mehefin, dechreuom ymchwiliad annibynnol i'r cyswllt a gafodd swyddogion Cwnstabliaeth Hampshire ac Ynys Wyth gyda Mr Lawrence.
Mae ein ymchwiliad yn edrych ar benderfyniadau a gweithredoedd y pedwar swyddog a ryngweithiodd â Mr Lawrence yn ystod y digwyddiad hwn; y penderfyniad i'w chwilio, ei arestio, rhoi gefynnau ar ei ddwylo a’i gadw; a'r gofal a ddarparwyd iddo.
Rydym wedi cynghori'r swyddogion – pob cwnstabl heddlu – eu bod yn cael eu hymchwilio am gamymddwyn difrifol, sy'n ymwneud â thoriad posib o nifer o safonau ymddygiad proffesiynol yr heddlu.
Dywedodd Cyfarwyddwr Ymgysylltu IOPC, Derrick Campbell: "Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad yn mynd i deulu a ffrindiau Mr Lawrence, a phawb sydd wedi'u heffeithio gan ei farwolaeth.
"Gan ei fod wedi cael ei gadw gan yr heddlu ar yr adeg y daeth yn sâl a bu farw yn ddiweddarach, mae'n bwysig bod ymchwiliad trylwyr ac annibynnol yn cael ei gynnal i sefydlu'r amgylchiadau llawn sy'n ymwneud â'r digwyddiad hwn."
Nid yw cwest wedi'i agor eto.
Rydym wedi cwrdd â theulu Mr Lawrence i esbonio cwmpas ein hymchwiliad, sut y bydd e’n mynd yn ei flaen, ac fe fyddwn yn sicrhau eu bod yn cael eu diweddaru trwy ei gydol.
Mae pob parti wedi cael gwybod am y datblygiad diweddaraf yn ein ymchwiliad.
Nid yw cyflwyno hysbysiadau o reidrwydd yn golygu y bydd achos disgyblu yn digwydd. Ar ddiwedd ein ymchwiliad, byddwn yn penderfynu a ddylai unrhyw swyddogion wynebu achos disgyblu.