Cyn brif gwnstabl Scott Chilton wedi’i wahardd rhag plismona yn dilyn ymchwiliad i berthnasau rhywiol yn y gweithle

Published: 08 Oct 2026
News

Byddai cyn brif gwnstabl heddlu, a gamddefnyddiodd ei swydd uwch trwy gael perthnasau rhywiol yn y gweithle ac a fethodd hefyd â’u datgan, wedi cael ei ddiswyddo pe na bai wedi ymddeol tra oedd dan ymchwiliad.

Mae panel disgyblu’r heddlu wedi canfod bod camymddwyn difrifol wedi’i brofi yn erbyn y cyn Brif Gwnstabl Heddlu Hampshire ac Ynys Wyth (HIOW), Scott Chilton, a ymddeolodd ym mis Ebrill 2025 tra roedd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn ymchwilio i honiadau yn ymwneud â dwy berthynas rywiol yn y gweithle.

Canfuwyd bod Mr Chilton wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol yr heddlu mewn perthynas â gonestrwydd ac uniondeb, gorchmynion a chyfarwyddiadau, ymddygiad sy’n dwyn anfri, ac awdurdod, parch a chwrteisi. Bydd ei enw’n cael ei ychwanegu at restr waharddedig y Coleg Plismona, sy’n golygu na fydd yn gallu gweithio ym maes plismona yn y dyfodol.

Digwyddodd un o’r perthnasau rhywiol rhwng 2008 a 2012, tra oedd Mr Chilton yn dal swydd rheng prif arolygydd neu uwch-arolygydd, ac roedd yn cynnwys swyddog iau. Ar rai achlysuron, roeddent yn cael rhyw tra ar ddyletswydd.

Methodd â datgan y berthynas yn ystod y broses o ymgeisio am swydd y prif gwnstabl ac wedyn bu’n anonest drwy wadu’r berthynas dro ar ôl tro pan ofynnwyd iddo amdani ar sawl achlysur gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu (PCC) Hampshire ac Ynys Wyth, prif weithredwr y PCC, a’i ddirprwy brif gwnstabl. Ceisiodd Mr Chilton hefyd osgoi atgyfeirio’r mater at IOPC mewn perthynas â’r berthynas hon yn gynnar yn 2025.

Fe wnaeth Mr Chilton gamddefnyddio ei swydd at ddiben rhywiol drwy fynd ar drywydd perthynas rywiol â swyddog iau yn fuan ar ôl iddo ddod yn brif gwnstabl yn 2023. Methodd dro ar ôl tro â datgelu’r berthynas hon, yn groes i bolisïau lleol a chenedlaethol, a phwysodd hefyd ar y fenyw i “ddileu ei negeseuon” a chadw eu perthynas yn gyfrinach.

Dywedodd Derrick Campbell, Cyfarwyddwr Ymgysylltu’r IOPC:

“Fel y prif gwnstabl a oedd yn arwain Heddlu Hampshire ac Ynys Wyth, roedd disgwyl i Scott Chilton weithredu â’r safonau uchaf posibl o onestrwydd ac uniondeb.

“Trwy fethu â datgan y perthnasau rhywiol hyn yn y gweithle, yn groes i’r polisi, gweithredodd yn anonest ac yna bu’n dweud celwydd dro ar ôl tro pan gafodd ei holi, trwy wadu un o’r perthnasau.

“Mae ei weithredoedd yn dangos diffyg amlwg o ran uniondeb, a chamddefnyddiodd ei safle uwch at ddiben rhywiol drwy fynd ar drywydd perthynas â chydweithiwr iau. Rhoddodd bwysau hefyd ar un o’r menywod i ddileu’r negeseuon a anfonodd ati. Hoffwn gydnabod eu dewrder wrth godi llais ynghylch y mater hwn mewn amgylchiadau a oedd yn sicr wedi bod yn anodd o ystyried statws uwch Mr Chilton.

“Mae wedi siomi ei gydweithwyr ym maes plismona, ac mae ei weithredoedd wedi niweidio nid yn unig hyder y cyhoedd yn yr heddlu, ond hefyd hyder mewn arweinwyr yr heddlu i ymddwyn gydag onestrwydd ac uniondeb.

“Mae achosion fel hyn, yn anffodus, yn tanlinellu bod angen gwneud mwy o waith i sicrhau safonau uchel a chyson o arweinyddiaeth ar draws heddluoedd, ac mae IOPC yn croesawu ac yn cefnogi gwaith Comisiwn Arweinyddiaeth yr Heddlu, sydd â’r potensial i sicrhau newid parhaol yn arweinyddiaeth yr heddlu.”

Dechreuodd ein hymchwiliad yn dilyn atgyfeiriad ymddygiad gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Hampshire ac Ynys Wyth ym mis Chwefror 2025. Ar ddiwedd ein ymchwiliad ym mis Medi 2025, daethom i’r casgliad y dylai’r cyn brif gwnstabl wynebu gwrandawiad camymddwyn difrifol.

Tags
  • Hampshire Constabulary
  • Llygredd a cham-drin pŵer