Datganiad gan IOPC ynglŷn ag ymchwiliad Henry Nowak

Published: 06 Nov 2026
News

Rhoddwyd y datganiad isod i ITV mewn ymateb i'w rhaglen ddogfen "Dear Henry: Our Fight for Justice":

“Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad yn parhau gyda theulu a ffrindiau Henry yn dilyn eu colled trychinebus.

“Mae IOPC wedi ymrwymo i sefydlu holl amgylchiadau'r achos hwn, gan gynnwys a ddylai unrhyw un o'r swyddogion dan sylw wynebu achos disgyblu, a darparu atebion i deulu Henry i'r cwestiynau cwbl briodol sydd ganddynt ynghylch sut a pham y cafodd Henry ei drin gan yr heddlu yn y modd y cafodd ar y noson erchyll honno.

“Mae ein ymchwilwyr yn parhau i fod mewn cysylltiad rheolaidd â theulu Henry. Ers i Vickrum Digwa gael ei ddyfarnu'n euog o'i lofruddiaeth, maent wedi cyfarfod ag aelodau o deulu Henry ar nifer o achlysuron i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt ac i archwilio eu pryderon ynghylch gweithredoedd yr heddlu a'n ymchwiliad yn fwy manwl.

“Rydym yn gweithio'n galed i gwblhau ein ymchwiliad annibynnol cyn gynted â phosib, gan sicrhau ar yr un pryd ein bod wedi ymchwilio'n drylwyr i bob trywydd ymholi.”

Tags
  • Hampshire Constabulary
  • Marwolaeth ac anafiadau difrifol