Ymchwiliad IOPC yn dechrau yn dilyn marwolaeth dyn yn Bolton
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn cynnal ymchwiliad yn dilyn marwolaeth dyn 43 oed yn Bolton, Manceinion Fwyaf.
Bu farw’r dyn yn yr ysbyty yn oriau mân y bore yma (8 Hydref) yn dilyn cyswllt â swyddogion Heddlu Manceinion Fwyaf (GMP) neithiwr.
Dywedodd Cyfarwyddwr Ymgysylltu’r IOPC, Amanda Rowe:
“Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau’r dyn, a phawb y mae ei farwolaeth wedi effeithio arnynt.
“Mae’n bwysig bod ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal pan fydd rhywun wedi marw yn dilyn rhyngweithio â swyddogion heddlu. Mae angen inni sefydlu’n annibynnol union amgylchiadau’r digwyddiad hwn, gweithredoedd y swyddogion dan sylw ac unrhyw gyswllt blaenorol cyn ei farwolaeth.
“Mae ein ymchwiliad yn ei gamau cynnar, ond mae ymchwilwyr wedi diogelu ffilm camera corff a fydd yn cael ei adolygu ochr yn ochr â’r datganiadau cychwynnol a gafwyd gan y swyddogion.”
Mae ein ymholiadau cychwynnol yn dangos bod y dyn yn dioddef argyfwng iechyd meddwl a bod yr heddlu wedi cael eu galw i’r eiddo ar achlysuron blaenorol cyn neithiwr.
Ar bob achlysur, gwrthododd y dyn roi mynediad i’r eiddo ac ni gyfathrebodd â’r swyddogion a oedd wedi mynychu.
Tua 11.10yh nos Fercher, aeth swyddogion GMP i’r eiddo a gorfodi mynediad ar ôl derbyn adroddiad bod y dyn yn bygwth niweidio ei hun.
Dangosodd adolygiad cychwynnol o ffilm camera corff fod swyddogion, ar ôl cael mynediad i’r eiddo, wedi dod o hyd i’r dyn wedi’i anafu ac yn ymddangos fel pe bai’n gwaedu’n drwm. Gwrthododd y dyn ollwng pâr o sisyrnau roedd e’n dal.
Ychydig amser yn ddiweddarach, defnyddiodd swyddog Taser ac fe gafodd y dyn ei atal. Ychydig cyn hanner nos, collodd y dyn ymwybyddiaeth a stopiodd anadlu, ac ar yr adeg honno dechreuodd swyddogion roi CPR iddo.
Aethpwyd â’r dyn i’r ysbyty ond, er gwaethaf triniaeth feddygol, cadarnhawyd ei farwolaeth am 3.01yb.
Ar ôl cael ein hysbysu gan yr heddlu, anfonwyd ymchwilwyr i’r lleoliad ac i’r weithdrefn ôl-ddigwyddiad er mwyn dechrau casglu gwybodaeth. Cyhoeddwyd ymchwiliad annibynnol am 3.07yb.