Dedfryd i swyddog o Heddlu Manceinion Fwyaf am achosi anaf difrifol trwy yrru peryglus

Published: 01 Oct 2026
News

Mae swyddog o Heddlu Manceinion Fwyaf (GMP) a darodd gerddwr gan ei anafu'n ddifrifol yn dilyn dilyniad o yrrwr a oedd fan amheuaeth o yrru dan ddylanwad alcohol, wedi derbyn dedfryd carchar wedi'i ohirio am achosi anaf difrifol trwy yrru peryglus.

Plediodd PC Sam Lockley, 35 oed, yn euog ym mis Ionawr 2026 yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) i ddigwyddiad a ddigwyddodd yn Rochdale ym mis Tachwedd 2023.

Gwnaethom ddechrau ein ymchwiliad ar ôl i ni dderbyn atgyfeiriad gorfodol gan yr heddlu mewn perthynas â'r gwrthdrawiad, pan gafodd cerddwr anafiadau difrifol.

Mewn gwrandawiad ym mis Chwefror, dedfrydwyd PC Lockley i ddwy flynedd o garchar wedi'i ohirio a gorchmynnwyd iddo gyflawni 15 diwrnod o wasanaeth cymunedol. Cafodd hefyd waharddiad gyrru am ddwy flynedd, ac ar ddiwedd y cyfnod hwnnw bydd yn rhaid iddo sefyll prawf gyrru estynedig.

Roedd cyfyngiadau adrodd a osodwyd ar y pryd yn ein atal rhag cyhoeddi unrhyw fanylion am y ddedfryd neu ganfyddiadau ein ymchwiliad oherwydd y treial troseddol cyfochrog ar gyfer gyrrwr y car a gafodd ei ddilyn, wedi iddo hefyd gael ei gyhuddo o achosi anaf difrifol trwy yrru peryglus. Plediodd y gyrrwr yn euog ddoe (30 Medi) a disgwylir iddo gael ei ddedfrydu'r mis nesaf.

Ffeindiodd ein ymchwiliad fod PC Lockley, yn oriau mân bore 19 Tachwedd 2023, yn gyrru cerbyd heddlu wedi'i farcio gyda'i oleuadau a'i seirenau ymlaen, ac wedi ceisio atal gyrrwr a oedd dan amheuaeth o fod yn feddw ar Drake Street. Dechreuodd ddilyniad byr a barodd tua un munud, ac am oddeutu 3.30yb gwrthdarodd y cerbyd heddlu â cherddwr ar y palmant ar Rochdale Road.

Pan ddechreuodd PC Lockley yr erlid, adroddodd dros y radio fod ei gyflymder yn 73 milltir yr awr mewn parth 30 milltir yr awr. Dangosodd y dystiolaeth a gasglwyd ei fod wedi methu ag arafu wrth nesáu at gyffordd Kingsway a gyrru trwy'r goleuadau traffig coch, gan deithio ar gyflymder o 96 milltir yr awr.

Digwyddodd y gwrthdrawiad pan fethodd y cerbyd heddlu roedd PC Lockley yn ei yrru â chymryd tro i'r dde yn ddiogel, gan achosi i'r car adael y ffordd ar yr ochr chwith a mynd ar y palmant. O ganlyniad i'r gwrthdrawiad, cafodd y cerddwr anafiadau difrifol a derbyniodd driniaeth feddygol helaeth wedyn.

Comisiynodd IOPC adroddiad gan arbenigwr gyrru ac adroddiad fforensig ar y gwrthdrawiad er mwyn cynorthwyo ein ymchwiliad ac unrhyw gasgliadau ynghylch dull gyrru PC Lockley.

Yn ôl yr adroddiad fforensig ar y gwrthdrawiad, roedd y cerbyd heddlu yn teithio ar gyflymder o oddeutu 80 milltir yr awr ac yn brecio'n drwm wrth fynd i mewn i'r tro, ac ar gyflymder o tua 60 milltir yr awr pan darodd y cerddwr.

Nododd adroddiad arbenigol nad oedd PC Lockley wedi ymateb i'r peryglon cyn y gwrthdrawiad, a oedd yn cynnwys: rhybudd am bont grwm, rhybudd am gyffordd, arwydd "Arafwch Nawr", llethr yn y ffordd, diffyg gwelededd y tu hwnt i'r bont, a llinell adeiladau a oedd yn dangos bod tro i'r dde yn debygol. Daeth yr adroddiad i'r casgliad nad oedd PC Lockley wedi gyrru yn unol â'i hyfforddiant a'i fod yn gyrru ar gyflymder rhy uchel.

Dywedodd Amanda Rowe, Cyfarwyddwr IOPC:

"Mae fy nghydymdeimlad yn parhau i fod gyda'r dyn a gafodd anafiadau difrifol, a phawb arall yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad.

"Roedd hwn yn ymchwiliad cymhleth a oedd yn dibynnu ar lawer iawn o ddata a dadansoddiad arbenigol, a dangosodd y dystiolaeth fod PC Lockley wedi gyrru ar gyflymderau rhy uchel yn ystod y nos. Er yr oedd e’n ymateb i adroddiad am yrrwr a oedd dan amheuaeth o fod dan ddylanwad alcohol, nid yw hynny'n esgusodi ei ddull gyrru.

"Cyfaddefodd PC Lockley iddo yrru mewn modd peryglus pan fethodd ag ymateb i beryglon neu rybuddion yn ystod y dilyniad, ac yn y pen draw, erbyn iddo weld y cerddwr, roedd yn teithio'n rhy gyflym i osgoi gwrthdrawiad. Mae ei weithredoedd y diwrnod hwnnw wedi cael canlyniadau hirdymor, ac mae bellach wedi cael ei ddwyn i gyfrif."

Fel rhan o'n ymchwiliad, gwnaethom adolygu datganiadau gan PC Lockley a swyddog arall oedd yn y car, archwilio deunydd CCTV o'r gwrthdrawiad, arsylwi ar lawrlwytho cofnodion data'r car heddlu ac ymweld â safle'r digwyddiad. Dadansoddodd ymchwilwyr IOPC hefyd gyfathrebiadau radio'r heddlu a fideo a recordiwyd gan gamerâu corff-wisgedig, cyfweld â'r swyddogion dan sylw, comisiynu adroddiad gan arbenigwr ar safonau gyrru'r heddlu, ac adolygu adroddiad fforensig GMP ar y gwrthdrawiad mewn cysylltiad â pholisïau a gweithdrefnau'r heddlu.

Ar ôl derbyn yr adroddiadau a gomisiynwyd, cwblhawyd yr ymchwiliad ac fe atgyfeiriwyd ffeil o dystiolaeth at Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) ym mis Mawrth 2025. Penderfynodd y CPS wedyn ddwyn cyhuddiad ym mis Gorffennaf 2025.

Yn dilyn ein ymchwiliad, gwnaethom hefyd benderfynu y dylai'r swyddog wynebu gwrandawiad camymddwyn difrifol mewn perthynas â honiadau bod ei ddull gyrru wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol yr heddlu. Rydym yn parhau i gynnal trafodaeth gyda'r heddlu ynghylch y gweithdrefnau disgyblu.

Tags
  • Greater Manchester Police
  • Digwyddiadau traffig ffyrdd