Ymchwiliad i farwolaeth dyn a gafodd ei gadw ar hediad ym Maes Awyr Manceinion

Published: 25 Jun 2026
News

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi dechrau ymchwiliad yn dilyn marwolaeth dyn a ddaeth yn an-ymatebol ar hediad oedd yn cyrraedd Maes Awyr Manceinion.

Cawsom atgyfeiriad gan Heddlu Manceinion Fwyaf (GMP) oherwydd y ffaith bod swyddogion heddlu wedi cadw'r dyn am ychydig - a fe gafodd ei atal yn gynharach gan aelodau'r cyhoedd ar y daith - cyn iddo ddod yn amlwg ei fod wedi dod yn an-ymatebol. Mae'r heddlu wedi enwi'r dyn fel Callum Kerr.

Bydd ein ymchwiliad yn edrych ar weithredoedd a phenderfyniadau’r swyddogion dan sylw er mwyn deall y digwyddiadau o gwmpas marwolaeth y dyn.

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymgysylltu IOPC, Amanda Rowe:

“Mae ein meddyliau gyda theulu ac anwyliaid Mr Kerr, yn ogystal â phawb a effeithir arnynt gan ei farwolaeth.

“Rwyf am sicrhau pobl y bydd ein ymchwiliad yn drylwyr, ac yn annibynnol o’r heddlu, er mwyn sicrhau ein bod yn deall yn union beth sydd wedi digwydd. Bydd hyn yn canolbwyntio ar weithredoedd yr heddlu, tra bod ymchwiliad GMP ar wahân yn ystyried gweithredoedd aelodau'r cyhoedd dan sylw.

“Rydym wedi bod mewn cysylltiad â theulu Mr Kerr er mwyn eu gwneud yn ymwybodol o'n rôl a byddwn yn eu diweddaru, a GMP, wrth i'n ymchwiliad fynd yn ei flaen.”

Rydym wedi dechrau casglu ac adolygu'r dystiolaeth sydd ar gael, gan gynnwys fideos corff-wisgedig o'r digwyddiad. Rydym hefyd wedi cael datganiadau cychwynnol gan y swyddogion dan sylw.

Yn seiliedig ar ein hadolygiad cychwynnol o'r ffilm sydd ar gael, rydym wedi cadarnhau bod y swyddogion yn cael eu trin fel tystion i'r ymchwiliad, yn hytrach na chael eu hymchwilio am eu hymddygiad.

Ar hyn o bryd, rydym wedi sefydlu bod Mr Kerr, 35, wedi cael ei atal gan aelodau o'r cyhoedd ar yr hediad o Gyprus pan daeth pum swyddog heddlu ymlaen i’r awyren ym Maes Awyr Manceinion yn oriau mân dydd Llun (22 Mehefin).

Ar ôl cyrraedd, rhoddodd un o'r swyddogion gefynnau arno a dechrau cynnal gwiriadau. Daeth yn amlwg yn gyflym ei fod yn an-ymatebol a munud yn ddiweddarach dechreuodd swyddogion CPR.

Cafodd parafeddygon eu galw a chafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty lle bu farw ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Tags
  • Greater Manchester Police
  • Marwolaeth ac anafiadau difrifol