Swyddogion Heddlu Gwent yn cael eu diswyddo oherwydd anonestrwydd am honiadau am chwilio eiddo mewn ymchwiliad i unigolion coll
Mae camymddwyn difrifol wedi'i brofi yn erbyn dau swyddog Heddlu Gwent yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) i weithredoedd yr heddlu pan gafodd grŵp o bobl ifanc eu riportio i fod ar goll a cafodd tri ohonynt eu darganfod yn farw mewn adfeilion car yn ddiweddarach.
Bu farw Evie Smith, Darcy Ross a Rafel Jeanne ac fe gafodd dau arall eu hanafu yn ddifrifol yn y ddamwain, lle credir ei fod wedi digwydd tua 2yb ar 4 Mawrth 2023. Cawsant eu ffeindio'n fuan wedi hanner nos ar 6 Mawrth, mewn ardal goediog oddi ar yr A48, yn St Mellons, Caerdydd. Daeth yr adroddiad cyntaf am unigolion coll i Heddlu Gwent ynghylch y grŵp am tua 7.30yh ar 4 Mawrth.
Ar ôl gwrandawiad disgyblu pum diwrnod, daeth panel i'r casgliad heddiw (20 Tachwedd) fod y Cwnstabl Richard Hardwick wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol yr heddlu mewn perthynas â gonestrwydd ac uniondeb, dyletswyddau a chyfrifoldebau, a gorchmynion a chyfarwyddiadau pan fethodd â chwilio cartrefi dwy o'r merched ifanc yr oedd eu teuluoedd wedi'u hadrodd i fod ar goll. Wedyn, rhoddodd gyfrif anonest drwy honni ei fod wedi cynnal y chwiliadau i'w oruchwyliwr ac i ymchwilwyr IOPC, a thrwy gofnodi gwybodaeth anghywir mewn cofnod heddlu.
Daeth y panel hefyd i'r casgliad fod y Cwnstabl Lauren Livingstone wedi cyflawni camymddwyn difrifol mewn perthynas â thorri safonau ymddygiad sy'n ymwneud â gonestrwydd ac uniondeb, dyletswyddau a chyfrifoldebau, a gorchmynion a chyfarwyddiadau. Mynychodd PC Livingstone gyfeiriadau'r menywod, ynghyd â PC Hardwick, ond clywodd y panel am sut wnaeth hi fethu chwilio â unrhyw le o fewn y cyfeiriadau hyn. Ychwanegodd hi fanylyn aneglur i'r cofnod heddlu ar bwrpas, gan ganiatáu'r awgrym bod y chwiliadau wedi cael eu gwneud, tra roedd hi'n gwybod bod nhw ddim. Canfuwyd hefyd bod PC Livingstone wedi bod yn anonest pan dywedodd hi wrth ei goruchwylydd bod chwiliadau wedi cael eu cwblhau.
Mae'r ddau swyddog wedi cael eu diswyddo o'r heddlu ar unwaith. Byddan nhw hefyd yn cael eu rhoi ar restr gwaharddedig y Coleg Plismona, a fydd yn gwahardd y naill swyddog rhag gweithio mewn plismona eto.
Dywedodd Cyfarwyddwr Ymgysylltu IOPC, Derrick Campbell: "Mae ein meddyliau a'n cydymdeimladau yn parhau i fod gyda theuluoedd a ffrindiau y bobl ifanc a gollodd eu bywydau, y rheiny a gafodd eu hanafu'n ddifrifol a phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad hwn.
"Roedd gweithredoedd PC Hardwick a PC Livingstone yn an-esgusadwy, gyda'r ddau yn methu o ran egwyddorion sylfaenol plismona; sef gweithredu yn onest a chyda uniondeb.
"Mae cynnal chwiliadau eiddo yn ran sylfaenol ond hanfodol yng nghamau cynnar ymchwiliad i unigolyn coll. Fodd bynnag, dywedodd PC Hardwick gelwydd ar bwrpas yn ystod yr ymchwiliad unigolion coll, gan honni ar gofnodion yr heddlu ac i’w oruchwylydd fod chwiliadau wedi cael eu cwblhau. Ac i ychwanegu at hyn, pan cafodd e'r cyfle i roi cyfrif onest, dywedodd e gelwydd wrth ymchwilwyr IOPC. Byddai PC Hardwick wedi gwybod ei fod yn darparu gwybodaeth anwir, ond dewisodd e wneud hynny beth bynnag.
"Roedd gan PC Livingstone gyfle helaeth i sôn wrth IOPC bod y chwiliadau gofynnol ddim wedi cael eu gwneud. Yn hytrach, ni roddodd hi unrhyw gyfrif a dywedodd nad oedd hi’n gallu cofio manylion penodol ei ymweliadau â chartrefi'r ddwy fenyw ifanc oedd wedi cael eu hadrodd i fod ar goll yn ystod ei chyfweliad gyda IOPC.”
Yn dilyn atgyfeiriad gorfodol ym mis Mawrth 2023, gwnaethon ni archwilio ymateb Heddlu Gwent i'r adroddiadau am unigolion coll a wnaed gan aelodau teuluol rhwng y 4ydd a 5ed o Fawrth 2023, gan gynnwys a oedden nhw wedi cael eu hasesu am risg, eu hadolygu, a'u hadnoddu yn briodol. Gwnaethon ni gwblhau ein hymchwiliad ym mis Tachwedd 2025. Gellir gweld darganfyddiadau llawn ein hymchwiliad yma.
Mae gwrandawiad camymddwyn difrifol dal yn aros i gael ei gynnal ar gyfer dau o swyddogion Heddlu Gwent ynglŷn â’r ffordd y gwnaethant ymdrin â'r adroddiadau am unigolion coll.