Swyddogion Heddlu Gwent i wynebu achos disgyblu oherwydd y ffordd iddynt ymdrin ag adroddiadau am unigolion coll cyn darganfod cerbyd a'r unigolion yng Nghaerdydd

Published: 07 Nov 2025
News

Bydd chwe swyddog o Heddlu Gwent yn mynd drwy'r broses camymddwyn yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) i weithredoedd yr heddlu pan adroddwyd bod criw o bobl ifanc ar goll. Daethpwyd o hyd i'r criw yn ddiweddarach mewn car a oedd wedi bod mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd.

Yn anffodus, bu farw Eve Smith, Darcy Ross a Rafel Jeanne a chafodd dau arall eu hanafu'n ddifrifol yn y gwrthdrawiad y credir iddo ddigwydd tua 2am ar 4 Mawrth 2023. Daethpwyd o hyd iddynt bron i ddau ddiwrnod yn ddiweddarach, ychydig ar ôl hanner nos ar 6 Mawrth, mewn ardal goediog oddi ar yr A48, yn Llaneirwg. Daeth yr adroddiad cyntaf am unigolyn coll mewn perthynas â'r criw i law Heddlu Gwent tua 7.30pm ar 4 Mawrth.

Yn dilyn atgyfeiriad gorfodol, gwnaethom archwilio ymateb Heddlu Gwent i'r adroddiadau am unigolion coll a wnaed gan aelodau o'r teuluoedd rhwng 4 a 5 Mawrth, gan gynnwys a gynhaliwyd asesiad risg priodol, a gafodd yr adroddiadau eu hadolygu ac a neilltuwyd adnoddau priodol ar eu cyfer.

Rydym bellach wedi penderfynu y dylai chwe swyddog wynebu achos disgyblu:

·       mae gan ringyll yr heddlu a oedd yn gyfrifol am oruchwylio ac arolygu’r  ymchwiliad i unigolion coll yn ystod 5 Mawrth achos i'w ateb am gamymddwyn difrifol yn ymwneud â'r ffordd yr aeth ati i oruchwylio'r ymchwiliad i’r unigolion coll

·       mae gan gwnstabl yr heddlu achos i'w ateb am gamymddwyn difrifol yn ymwneud â honiad ynghylch methiant i gynnal ymholiadau sylfaenol, gan gynnwys methu â chofnodi a rhannu gwybodaeth gyda'i oruchwyliwr. Honnir hefyd fod y cwnstabl wedi methu â chyfathrebu'n briodol ag aelodau o'r teuluoedd a oedd wedi adrodd bod eu hanwyliaid ar goll

·       mae gan ddau gwnstabl yr heddlu achos i'w ateb am gamymddwyn difrifol yn ymwneud â honiad iddynt fethu â chynnal chwiliadau o dai yn unol â pholisi Heddlu Gwent ac yna eu bod wedi rhoi cyfrif anonest i'w goruchwyliwr ac ymchwilwyr IOPC am hyn. Bu un o'r swyddogion yn destun ymchwiliad troseddol hefyd am droseddau o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus ac am wyrdroi cwrs cyfiawnder. Ni ddaethom o hyd i ddigon o dystiolaeth i wneud atgyfeiriad i Wasanaeth Erlyn y Goron

·       mae gan gwnstabl yr heddlu achos i'w ateb am gamymddwyn yn ymwneud â honiad iddo fethu â chynnal chwiliadau digonol o dai yn unol â pholisi Heddlu Gwent

·       mae gan ringyll yr heddlu achos i'w ateb am gamymddwyn yn ymwneud â honiadau iddo fethu ag adolygu'r holl wybodaeth a oedd ar gael wrth gynnal asesiad risg ar gyfer y menywod coll

Dywedodd Derrick Campbell, Cyfarwyddwr IOPC: “Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad yn dal i fod gyda'r bobl ifanc a gollodd eu bywydau, y rhai a gafodd eu hanafu'n ddifrifol a phawb yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad hwn.

“Mae'r ymchwiliad hwn wedi bod yn un cymhleth a dwys o ran adnoddau, ond mae'n bwysig i hyder y cyhoedd mewn plismona bod y digwyddiad trasig hwn yn destun gwaith craffu trylwyr ac annibynnol. Cyfrifoldeb panel disgyblu'r heddlu, wedi'i drefnu gan Heddlu Gwent, fydd ystyried y dystiolaeth a dod i benderfyniad yn seiliedig ar yr holl wybodaeth sydd ar gael.”

Gwnaethom hefyd archwilio mwy na deg ar hugain o gwynion gan deuluoedd y bobl ifanc dan sylw ynglŷn â'r camau a'r penderfyniadau a wnaed gan Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru. Roedd y cwynion yn cynnwys y ffordd y gwnaeth y ddau heddlu gyfathrebu â'r teuluoedd drwy gydol yr ymchwiliad i’r unigolion coll, eu methiant  i fynd ar drywydd gwybodaeth a roddwyd i'r heddlu gan berthnasau a methiant y cyfathrebu rhwng Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru  wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo. Gwnaethom benderfynu yn achos dros hanner y cwynion bod y gwasanaeth a ddarparwyd yn annerbyniol, gydag argymhellion i sawl swyddog ac aelod o staff gymryd rhan yn y broses adolygu ymarfer myfyriol (RPRP).

Nodiadau i olygyddion:

Rydym hefyd yn argymell y dylai Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru  gyflwyno'r meysydd dysgu canlynol:

·       ystyried protocol rhwng Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru i'w galluogi i fod â chydberchnogaeth o ymchwiliad unigolion coll 

·       dogfen bolisi ffurfiol a hyfforddiant i staff yr ystafell reoli ar ba wybodaeth y dylid ei throsglwyddo'n awtomatig i ba bynnag heddlu sy'n berchen ar ymchwiliad i unigolion coll   

·       hyfforddiant ychwanegol mewn cyfathrebu a blaenoriaethu cymorth i deuluoedd pan fyddant mewn lleoliad digwyddiad traffig ffyrdd. 

Yn ogystal, gwnaethom argymell y dylai dau swyddog Heddlu Gwent, a oedd yn wynebu honiadau o gamymddwyn yn wreiddiol, ymgymryd â'r RPRP, am sylwadau a wnaethant yn lleoliad y gwrthdrawiad.

Tags
  • Heddlu Gwent
  • Heddlu De Cymru
  • Lles a phobl sy'n agored i niwed