Ymchwiliad i'r modd yr ymdriniodd yr heddlu ag adroddiadau person coll cyn canfod cerbyd a phreswylwyr yn Llaneirwg

Published: 07 Mar 2023
News

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi penderfynu ymchwilio i weithredoedd yr heddlu yn dilyn adroddiadau person coll yn ymwneud â phump o bobl a ddaeth o hyd iddynt wedi hynny gyda char oddi ar yr A48 yn ardal Llaneirwg, Caerdydd yn gynnar bore ddoe (dydd Llun).

Yn anffodus, bu farw Eve Smith, Darcy Ross, a Rafel Jeanne yn y digwyddiad. Mae dau arall yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol.

Dywedodd Cyfarwyddwr yr IOPC, David Ford:

“Mae fy meddyliau’n mynd allan i deuluoedd a ffrindiau’r rhai sydd wedi colli eu bywydau yn drasig, i’r rhai sydd wedi’u hanafu, ac yn wir i’r nifer fawr o bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad hwn. Ar ôl asesiad gofalus o atgyfeiriadau gan Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru, rydym wedi penderfynu ymchwilio’n annibynnol i’r modd yr ymatebodd yr heddlu i’r adroddiadau person coll.

“Byddwn yn archwilio pa wybodaeth oedd gan yr heddlu, y graddau a roddwyd i unrhyw asesiadau risg, a’r camau a gymerwyd gan yr heddlu i ddod o hyd i’r bobl goll cyn i’r Volkswagen Tiguan gael ei ddarganfod ychydig ar ôl hanner nos ar ddydd Llun. Byddwn hefyd yn ystyried pa gyfathrebu a ddigwyddodd rhwng y ddau heddlu, ac os oedd camau gweithredu'r heddlu yn briodol ac yn dilyn polisïau a gweithdrefnau perthnasol. Mae ein hymchwiliad yn y camau sylfaenol iawn.

“Byddwn yn cysylltu â’r teuluoedd dan sylw i fynegi ein cydymdeimlad, egluro ein rôl a nodi sut y bydd ein hymchwiliad yn digwydd. Rydym yn ymwybodol o’r pryder cymunedol sylweddol am y digwyddiadau trasig sydd wedi datblygu a hoffem sicrhau pawb y byddwn yn cynnal ymchwiliad trylwyr ac amserol .”

Tags
  • Heddlu Gwent
  • Heddlu De Cymru
  • Marwolaeth ac anafiadau difrifol