Adroddiad Effaith

Mae ein pumed adroddiad effaith blynyddol yn canolbwyntio ar astudiaethau achos am bobl go iawn a'r effaith rydym wedi'i chael ar y cyhoedd a phlismona.  Mae’r adroddiad hwn yn arddangos storïau o flwyddyn gyntaf ein strategaeth bum mlynedd newydd: Meithrin ymddiriedaeth a hyder mewn plismona.

Gallwch ddarllen enghreifftiau o sut rydym wedi gwella plismona ac ymdrin â chwynion yr heddlu, ein ffocws ar feysydd sy'n peri pryder i'r cyhoedd a sut y gwnaethom gefnogi defnyddwyr gwasanaeth a gwella mynediad at y system gwynion.

Dengys astudiaethau achos:

  • sut y gwnaethom ymdrin ag achos dyn trawsryweddol a oedd yn teimlo nad oedd ei adroddiadau o droseddau casineb wedi cael eu cymryd o ddifrif
  • sut y daethom â phobl leol a’u heddlu ynghyd, ar ôl i farwolaeth dyn godi pryderon yn y gymuned leol
  • sut mae ein rheolwyr ymgysylltu â goroeswyr yn camu i mewn i gefnogi achwynwyr sy’n agored i niwed neu wedi’u trawmateiddio
  • sut mae ein Panel Ieuenctid wedi bod yn adeiladu pontydd drwy annog deialog rhwng pobl ifanc a’r heddlu ar Lannau Merswy
  • sut rydym yn chwarae ein rhan i gael gwared â swyddogion nad ydynt yn ffit i wasanaethu

Ffeithiau allweddol o'r adroddiad Effaith

Gwyliwch ein fideo am rai ystadegau a gwybodaeth allweddol o'r adroddiad, a lawrlwythwch gopi i ddarllen y straeon bywyd go iawn.
Fideo adroddiad effaith 2022/23