Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae ein nod i wella hyder y cyhoedd yn yr heddlu yn golygu rhoi pobl o gefndiroedd, diwylliannau a phrofiadau gwahanol yng nganol popeth yr ydym yn gwneud.
Two young women talking in an office

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, eu cynorthwyo, ac yn cael eu grymuso i fod yn eu gwir hunain. Yn ein rôl o oruchwylio system cwynion am yr heddlu ac fel cyflogwr, rydym yn ymdrechu i sicrhau triniaeth deg i bawb, gan groesawu cyfoeth o hunaniaethau, cefndiroedd, a phrofiadau bywyd gwahanol.

Eich cefnogi chi i ddefnyddio ein gwasanaethau

Rydym yn frwd dros greu profiad cynhwysol a pharchus i unrhyw un sy'n rhyngweithio gyda ni. Mae ein safonau gwasanaeth yn amlinellu beth y gallwch ddisgwyl gan ein sefydliad wrth gysylltu â ni. Pan yn darparu ein gwasanaeth i chi, gallwch ddisgwyl i ni: 

  1. Eich trin chi bob amser gyda pharch a chwrteisi
  2. Wneud addasiadau rhesymol i gwrdd â'ch anghenion unigol
  3. Ddilyn i fyny ar unrhyw sylwadau neu bryderon rydych yn codi am y gwasanaeth rydyn yn darparu
  4. Ystyried effaith ein strategaethau a'n polisïau ar y bobl a effeithir ganddynt a chamau rhesymol i’w cynnwys yn y broses o ddatblygu ac ymgynhori

Safonau’r Iaith Gymraeg

Dysgwch ragor am ein hymrwymiad i ateb Safonau'r iaith Gymraeg.

Gofyn am wybodaeth

Dysgwch am sut y gallwch ofyn am wybodaeth am ein gwaith, yn ogystal â manylion ar sut rydym yn rheoli data personol.

Addasiadau rhesymol

Darllenwch ein polisi addasiadau rhesymol ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth.

Ein staff

Gall ein gweithwyr ddisgwyl i gael eu trin yn deg a heb wahaniaethu. Rydym yn trin ein gilydd ag urddas a pharch mewn dull teg a chyson, ac nid yw ymddygiad amhriodol yn cael ei oddef.  

Yn yr adrannau isod, gallwch ddarllen am ein hadroddiadau ethnigrwydd a bwlch cyflog rhwng rhywiau a dysgu rhagor am amrywiaeth staff, ein rhwydweithiau staff a gwasanaethau cymorth.

Cysylltwch â'r tîm

Am ragor o wybodaeth am gydraddoldeb ac amrywiaeth e-bostiwch ein tîm ymholiadau.

Ein strategaeth a'n perfformiad

Dysgwch am ein cynllun strategol, ein perfformiad a sut rydym yn mesur llwyddiant.

Y gyfraith, adrodd a monitro

Dysgwch am ein holl ddyletswyddau cydraddoldeb sector cyhoeddus yn ogystal a'n gofynion adrodd a monitro.