Safonau’r Iaith Gymraeg

Creodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ddyletswydd ar sefydliadau sector cyhoeddus sy’n gweithredu yng Nghymru i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

O’r ddyletswydd hon i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, crëwyd Safonau’r Gymraeg. Mae’r Safonau’n nodi’n benodol beth sy’n rhaid i’r IOPC ei wneud i gydymffurfio â’r gyfraith mewn perthynas â thrin y Gymraeg heb fod yn llai ffafriol na’r Saesneg.

I'r rhai sy'n dymuno cysylltu â ni, beth mae hyn yn ei olygu yw bod croeso i chi gysylltu â ni yn y Gymraeg a byddwn yn ymateb i chi yn y Gymraeg. Yn ogystal, bydd unrhyw wybodaeth a gynhyrchwn sy’n berthnasol i randdeiliaid yng Nghymru ar gael yn y Gymraeg.

Mae’r rhestr lawn o Safonau y mae’n rhaid i ni gydymffurfio â nhw i’w gweld yn ein hysbysiad cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg.  

Adroddiad monitro blynyddol Safonau’r Iaith Gymraeg

Mae Safonau’r Iaith Gymraeg yn ei wneud yn ofynnol i ni lunio adroddiad blynyddol i egluro sut rydym wedi cydymffurfio â’r canlynol:  

  • safonau darparu gwasanaeth
  • safonau llunio polisi
  • safonau gweithredu

Gallwch ddarllen ein hadroddiad blynyddol diweddaraf ar sut rydym wedi cydymffurfio â'r safonau.

Adborth am ein cydymffurfiaeth â Safonau’r Iaith Gymraeg

Os teimlwch nad ydym wedi bodloni ein dyletswydd gyfreithiol i gydymffurfio ag unrhyw un o Safonau’r Iaith Gymraeg sy’n berthnasol i ni, rhowch wybod i ni drwy roi eich adborth i ni.

Gallwch hefyd adrodd cwynion i Gomisiynydd y Gymraeg