Ein strategaeth a'n perfformiad
Mae ein trawsnewidiad yn ymwneud ag ailfeddwl yn radical sut rydym yn gweithio ac yn meddwl, er mwyn inni allu gweithio'n fwy clyfar yn hytrach na chaled. Yn ogystal â hyn, rydym yn cyhoeddi nifer o adroddiadau sy'n dangos sut rydym yn perfformio.
Fel rhan o'n rhaglen trawsnewid, byddwn yn:
- Dylunio ein gwasanaethau o amgylch ein defnyddwyr a bod yn gymesur – gwneud yr hyn sydd ei angen arnom i gyrraedd y canlyniad cywir a dim mwy.
- Clirio a symleiddio prosesau gwneud penderfyniadau a chymeradwyo – sicrhau bod ein pobl wedi'u grymuso a’u galluogi, ar bob lefel, i ddarparu gwasanaeth gwych.
- Safoni a gwella ein prosesau – integreiddio cymesuredd a rheolaeth ansawdd, cynyddu cysondeb a gwella ein gallu i wella'n barhaus.
- Ail-lunio profiad ein pobl – integreiddio EDI (cyfartaledd, amrywiaeth a chynhwysiant) a llesiant, ehangu'r cynnig i ddysgu a datblygu, a meithrin diwylliant cynhwysol ac ysbryd cymuned sy'n seiliedig ar dryloywder, cydweithio a chyfrifoldeb.
- Defnyddio technoleg yn effeithiol i wneud ein gwaith yn haws – lleihau amser a dreulir ar dasgau gweinyddol gyda AI ac awtomeiddio, a chynyddu cyfleoedd ar gyfer cydweithio a rhannu gwybodaeth.