Ymchwiliad SAYH yn canfod dim tystiolaeth fod gweithredoedd Heddlu De Cymru wedi cyfrannu at farwolaeth Mohamud Hassan

Published: 02 May 2024
News

Ni chanfu ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (SAYH) i weithredoedd heddlu De Cymru yn ystod arestio a chadw Mohamud Mohamed Hassan dystiolaeth fod swyddogion wedi achosi neu gyfrannu at ei farwolaeth.

Yn dilyn cwest tair wythnos ym Mhontypridd, mae'r rheithgor heddiw (2 Mai) wedi dychwelyd canlyniad agored. Rhoddwyd achos marwolaeth Mr Hassan fel amhrofedig. 

Dilynodd ein hymchwiliad atgyfeiriad gorfodol gan Heddlu De Cymru yn Ionawr 2021. Gwnaethom ymchwilio i'rcyswllt a gafodd yr heddlu â Mr Hassan, gan gynnwys os oedd unrhyw rym a ddefnyddiwyd yn ystod ei arestio a'i gadw yn rhesymol, angenrheidiol a chymesur yn yr amgylchiadau. Fe wnaethom hefyd archwilio'r lefel o ofal a ddarparwyd i Mr Hassam yn ystod ei amser yn y ddalfa. Mae cyhoeddi ein canfyddiadau o'r ymchwiliad wedi aros am ddiwedd y cwest.

Cafodd heddlu eu galw tua 9.30pm ar 8 Ionawr 2021, i adroddiad o aflonyddwch mewn fflat ar Heol Casnewydd yng Nghaerdydd. Datganodd y galwr fod pump dyn Du wedi torri i mewn i'r tŷ ac wedi dechrau ymladd. Am 9.40pm, roedd un ar ddeg o swyddogion Heddlu De Cymru yn bresennol. Cafodd Mr Hassan, oedd yr unig ddyn yn bresennol, ei ddal yn ôl a'i arestio am dorri'r heddwch. Cafodd ei yrru mewn fan heddlu i orsaf heddlu Bae Caerdydd a chyrhaeddodd ychydig ar ôl 10pm. Cafodd Mr Hassan ei ddal yn ôl gan swyddogion yn ystafell y ddalfa, cyn cael ei gario i gell a'i archwilio. Arhosodd yn y gell dros nos a chafodd ei ryddhau wedyn heb gyhuddiad am tua 8.20am ar 9 Ionawr. Dychwelodd Mr Hassan i'r fflat ar Heol Casnewydd. Am 10.22pm yr un diwrnod, gwnaeth aelod o'r teulu alwad brys gan ddatgan ei fod wedi cael ei ganfod yn anymatebol. Am 10.29pm, cyrhaeddodd parafeddygon i'r tŷ ac, yn fuan wedyn, gwnaethant gadarnhau bod Mr Hassan wedi marw.

Dangosodd archwiliad post-mortem nad oedd anaf corfforol wedi ei ddioddef gan Mr Hassan i esbonio achos marwolaeth. Datganodd tystiolaeth y post-mortem hefyd nad oedd awgrym o ddefnydd o Taser, nac o arfau fel batonau. Rhoddwyd achos marwolaeth Mr Hassan fel 'amhrofedig'.

Dywedodd Cyfarwyddwr SAYH David Ford: “Mae fy meddyliau a fy nghydymdeimlad â theulu Mr Hassan, a phawb sydd wedi’u heffeithio gan ei farwolaeth. Ein rôl oedd archwilio ymddygiad y swyddogion heddlu dan sylw, gyda'r cwest i bennu yn hollol sut y bu farw Mr Hassan. Ar ôl y drychineb, roedd pryder cyhoeddus dealladwy, ac fe wnaethom archwilio'n fanwl i beth ddigwyddodd yn ystod rhyngweithiadau Heddlu De Cymru â Mr Hassan. 

"Roedd hwn yn ymchwiliad cymhleth, yn archwilio ymddygiad yr heddlu dros gyfnod estynedig. Fe wnaethom adolygu swm mawr o dystiolaeth gan gynnwys adroddiadau manwl gan nifer sylweddol o swyddogion oedd yn gysylltiedig, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, â Mr Hassan, adroddiadau gan aelodau'r teulu, fideo wedi'i wisgo ar gorff heddlu, ffilm CCTV, ffotograffau, trosglwyddiadau radio'r heddlu a chofnodion galwadau. Archwiliodd ymchwilwyr gell yr heddlu y cafodd Mr Hassan ei gadw ynddi ac ymwelasant â'r tŷ ar Heol Casnewydd, i weld man ei arestio a sicrhau tystiolaeth berthnasol.

"Er i ni adnabod rhai meysydd o ddysgu i Heddlu De Cymru ac i unigolion yn codi o'r digwyddiadau, ac achos i'w ateb i un swyddog am ddefnyddio grym, ni wnaethom ganfod tystiolaeth bod gweithredoedd yr heddlu wedi cyfrannau at farwolaeth drist Mr Hassan. 

“Ar ôl i'n hymchwiliad gael ei gwblhau, fe wnaethom ddarparu manylion ein canfyddiadau i deulu Mr Hassan a chyflwyno ein hadroddiad i'r crwner i gynorthwyo â'r cwest.” 

“Yn dilyn diwedd ein hymchwiliad yng Ngorffennaf 2022, fe wnaethom benderfynu bod gan ringyll heddlu achos disgyblu i'w ateb am gamymddwyn difrifol dros y grym a ddefnyddiwydyn ystafell y ddalfa ym Mae Caerdydd. Cafodd yr honiad ei ganfod heb ei brofi mewn gwrandawiad disgyblu yn Nhachwedd llynedd, a gafodd ei arwain gan gadeirydd Annibynnol Wedi'i Gymhwyso'n Gyfreithiol. 

Mewn perthynas â swyddogion eraill roeddem wedi cyflwyno rhybuddion iddynt yn ystod ein hymchwiliad, canfuomfod gan un cwnstabl heddlu achos i'w ateb am gamymddwyn dros wybodaeth berthnasol i les Mr Hassan o bosibl heb gael ei gyfathrebu i staff y ddalfa. Mewn cyfarfod camymddwyn yn Rhagfyr 2023, rhoddwyd rhybudd ysgrifenedig 18 mis i'r swyddog. Ni wnaethom ganfod unrhyw achos i'w ateb ar gyfer unrhyw swyddogion eraill dan sylw, ond argymhellwyd bod angen i swyddog y ddalfa a chwnstabl heddlu gymryd rhan yn y broses adolygu arfer myfyriol. Roedd hyn er mwyn myfyrio ar ba mor ddigonol oedd y gwiriadau lles a gynhaliwyd ganddynt tra roedd Mr Hassan yn y ddalfa.

Ystyriodd ein hymchwiliad hefyd gŵyn oddi wrth deulu Mr Hassan am os oedd ei ethnigrwydd wedi effeithio ar sut y cafodd ei drin gan swyddogion. Roedd tystiolaeth y gall fod Mr Hassan wedi teimlo y gwahaniaethwyd yn ei erbyn, ac iddo leisio'r gred honno tra yn y ddalfa. Honnodd yn ddiweddarach i aelodau'r teulu fod swyddogion wedi ymosod arno. Craffodd ymchwilwyr ar fideo a wisgir ar y corff, ffilm y ddalfa, CCTV cyhoeddus a phreifat, ac adolygwyd recordiadau sain. Fe wnaethom hefyd gymryd datganiadau tystion gan swyddogion heddlu a'r cyhoedd i wirio am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod wedi awgrymu gwahaniaethu uniongyrchol neu anuniongyrchol neu duedd anymwybodol tuag at Mr Hassan gan Heddlu De Cymru. 

Nid oedd y dystiolaeth yn cefnogi'r honiad bod Mr Hassan wedi cael ei drin yn llai ffarfriol gan swyddogion oherwydd ei hil, na'i fod wedi dioddef ymosodiad gan swyddogion. Fodd bynnag, fe wnaethom bederfynu bod diffyg parch a gofal cyffredinol yn y ffordd y triniodd rhai swyddogion Mr Hassan yn ystod ei arestio, cludo a chadw. Fe wnaethom argymell y dylai'r llu fyfyrio ar bob cam o ryngweithiad yr heddlu â Mr Hassan, o'r pwynt cyswllt cyntaf hyd at ei ryddhau o'r ddalfa, ac effaith gronnol rhyngweithiad pob swyddog ag ef.

Roedd meysydd dysgu a gafodd eu hadnabod i Heddlu De Cymru yn cynnwys: 

  • Rheolaeth ddiogel o rai â'r posibilrwydd o fod yn agored i niwed yn y ddalfa - datgelodd amser Mr Hassan o'i arestio, ei gludo i'r ddalfa, ei arhosiad yn y ddalfa a'i fonitro yn y gell, hyd at ei ryddhau fod nifer fawr o unigolion wedi cael cyswllt â Mr Hassan ac amrywiodd y gwasanaeth a ddarparwydd iddo yn sylweddol. Mewn rhai enghreifftiau, syrthiodd o dan y safon ofynnol. Gallai hyn arwain at bryder cyhoeddus ynglŷn a'r ffordd mae dynion ifanc Du yn cael eu trin yn y ddalfa gan y llu. 
  • Hyfforddiant gwell ar gyfer Swyddogion Cadw'r Ddalfa (CDO) - Nid oedd y CDO a gwblhaodd yr ymweliadau â’r gell â Mr Hassan bob amser yn mynd i mewn i’r gell yn unol â’r gofynion ar gyfer cynhyrfu carcharorion a allai fod dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol. Fe wnaethom argymell y dylai rhagor o fanylion gael eu darparu mewn deunyddiau hyfforddiant ar gyfer CDO i sicrhau bod yr ymarfer cywir o gyflawni ymweliadau â chelloedd yn cael ei ddilyn. 
  • Cynnal a chadw cyfarpar CCTV y ddalfa a sicrhau pob ffilm CCTV perthnasol - Roedd rhan o'r cyfarpar CCTV yn ystafell y ddalfa wedi torri a all fod wedi arwain at golled bosibl o dystiolaeth.  Yn ogystal, ni chafodd ffilm o'r swyddogion arestio yn siarad â'r rhingyll wrth ddesg y ddalfa ar ôl i Mr Hassan gael ei gymryd i'w gell ei sicrhau. Gallai hyn hefyd fod wedi achosi beth allai fod wedi bod yn dystiolaeth arwyddocaol i gael ei cholli. 

Ers hynny mae Heddlu De Cymru wedi rhoi gwybod i ni bod ein hargymhellion dysgu wedi cael eu derbyn a'u gweithredu yn llawn gan y llu. 

Tags
  • Heddlu De Cymru
  • Marwolaeth ac anafiadau difrifol