Diweddariad ar ymchwiliad i farwolaeth Mohamud Mohamed Hassan – hysbysiadau camymddwyn ychwanegol wedi cael eu cyflwyno

Published: 16 Mar 2021
News

Fel rhan o ymchwiliad parhaus Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) i gyswllt yr heddlu â Mohamud Mohamed Hassan cyn ei farwolaeth, mae hysbysiadau ymchwilio wedi cael eu cyflwyno’n ddiweddar i dri swyddog arall o Heddlu De Cymru ac un swyddog canolfan cadw'r carchar. Yn ogystal, mae'r swyddog heddlu y cyflwynwyd iddo'n flaenorol wedi derbyn hysbysiad camymddwyn wedi'i ddiweddaru.

Mae tri o'r hysbysiadau yn ymwneud â'r adeg pan oedd Mr Hassan yn y ddalfa yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd, ac mae dau yn ymwneud â gweithredoedd swyddogion a aeth i gyfeiriad Heol Casnewydd ar y noson cafodd Mr Hassan ei arestio.

O ran cyfnod Mr Hassan yn y carchar, rydym wedi darparu:

  • hysbysiad ar lefel camymddwyn difrifol ar swyddog heddlu y gall fod wedi torri safonau proffesiynol yr heddlu o ddyletswyddau a chyfrifoldebau, ac onestrwydd a chywirdeb. Rydym yn archwilio digonolrwydd y gwiriadau lles a gynhaliwyd ac os oedd y rhain yn unol â'r safonau gofynnol, a chofnodion a wnaed gan y swyddog ar gofnod y ddalfa;
  • hysbysiad ar lefel camymddwyn ar swyddog heddlu ynglŷn â'i ddefnydd o rym tra'n hebrwng Mr Hassan yn fuan ar ôl iddo gyrraedd ystafell y ddalfa; rydym yn archwilio a oedd y defnydd o rym yn angenrheidiol, cymesur a rhesymol yn yr amgylchiadau;
  • hysbysiad ar lefel camymddwyn ar swyddog cadw'n y ddalfa y gall fod wedi torri safonau heddlu proffesiynol o ddyletswyddau a chyfrifoldebau ynglŷn a digonolrwydd gwiradau lles a gyflawnwyd, ac a oedd y rhain yn unol â safonau gofynnol.

O ran noson arestiad Mr Hassan am doriad honedig o'r heddwch, rydym wedi cyflwyno hysbysiadau ar lefel camymddwyn ar ddau swyddog heddlu ynglŷn â'u penderfyniadau ar ddefnydd o rym ar Mr Hassan pan oeddent yn y tŷ. Rydym yn ystyried os oedd y defnydd o rym yn angenrheidiol ac yn gymesur o dan yr amgylchiadau.

Nid yw cyflwyno hysbysiad o gamymddwyn yn golygu o reidrwydd bod swyddog wedi cyflawni unrhyw gamwedd. Ei ddiben yw hysbysu swyddog bod ei ymddygiad yn cael ei ymchwilio. Y gosb fwyaf difrifol y gellir ei rhoi os canfyddir wedyn bod swyddog wedi torri safonau proffesiynol ar lefel camymddwyn difrifol yw diswyddo, ac ar lefel camymddwyn yw rhybudd ysgrifenedig.

Mae'n hymchwiliad annibynnol i amgyclhiadau marwolaeth drasig Mr Hassan ar ddydd Sadwrn 9 Ionawr yn mynd rhagddo.

Dywedodd Cyfarwyddwr yr IOPC i Gymru, Catrin Evans: “Yn ystod ymchwiliad, lle mae arwydd yn codi y gallai swyddog fod wedi torri safonau proffesiynol a allai warantu cosb ddisgyblu, rydym yn cyflwyno hysbysiad disgyblu i’w hysbysu eu bod yn destun ymchwiliad. Rydym wedi diweddaru teulu Mr Hassan a Heddlu De Cymru am yr hysbysiadau camymddwyn ychwanegol. Rydym yn cadw hysbysiadau camymddwyn o dan adolygiad yn ystod cwrs ymchwiliad. Ar y casgliad mae’r IOPC yn penderfynu os oes gan unrhyw swyddog sydd dan rybudd achos disgyblu i’w ateb. Fel rwyf wedi annog o'r blaen, mae ymchwiliad fel hwn yn cymryd amser a byddem yn gofyn i bobl fod yn amyneddgar tra bod yr ymchwiliad yn rhedeg ei gwrs.”

**Diweddariad ar 29 Ebrill – Rydym bellach wedi cyflwyno hysbysiad ar lefel camymddwyn i sarsiant y ddalfa a oedd ar ddyletswydd yn ystod cyfnod cadw Mr Hassan. Mae'r hysbysiad hwn yn ymwneud ag ansawdd yr asesiad risg a gynhaliwyd ar Mr Hassan pan oedd yn y ddalfa. Cyflwynwyd hysbysiadau'n flaenorol ar bedwar swyddog arall o'r heddlu ac un swyddog cadw'n y ddalfa fel rhan o'n hymchwiliad parhaus. Mae un o'r hysbysiadau ar gyfer swyddog o'r heddlu ar lefel camymddwyn difrifol, mae'r gweddill ar lefel camymddwyn. Nid yw cyflwyno hysbysiad camymddwyn yn golygu o reidrwydd bod swyddog wedi cyflawni unrhyw gamwedd. Ei ddiben yw hysbysu swyddog bod ei ymddygiad yn cael ei ymchwilio.

Tags
  • Heddlu De Cymru
  • Caethiwed a charchariad
  • Marwolaeth ac anafiadau difrifol