Swyddog Heddlu Sussex wedi’i gyhuddo o ymosodiad

Published: 15 Jun 2026
News

Mae swyddog o Heddlu Sussex i fod i ymddangos gerbron y llys wedi’i gyhuddo o ymosod ar blentyn, yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Mae PC Benedict Statton, 43 oed, i wynebu cyhuddiad o ymosodiad gan achosi gwir niwed corfforol yn Llys Ynadon Sevenoaks ar ddydd Mawrth 16 Mehefin.

Mae’r cyhuddiad yn ymwneud â digwyddiad lle defnyddiwyd grym yn ystod arestiad merch 16 oed yn Crawley.

Dechreuodd ein ymchwiliad ym mis Mehefin 2024 ac fe ddaeth i ben ym mis Medi 2025, ac ar ôl hynny anfonwyd ffeil o dystiolaeth at Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS). Gofynnodd y CPS i ni gwblhau rhai camau ymchwilio pellach cyn awdurdodi’r cyhuddiad ym mis Mai.

Tags
  • Sussex Police
  • Defnydd o rym a phlismona arfog