Polisi IOPC ar y diwygiad i’r safon defnyddio grym mewn achosion camymddwyn cyfredol

Published: 08 Jul 2026
News

Mae IOPC wedi cadarnhau ei safiad ar gymhwyso'r newid diwygiedig cyfreithiol i’r safon ymddygiad proffesiynol o ddefnyddio grym ar gyfer achosion camymddwyn cyfredol.

Ym mis Hydref 2025, datganodd yr Ysgrifennydd Cartref fod y llywodraeth wedi derbyn argymhelliad i newid y prawf ar gyfer defnyddio grym mewn achosion camymddwyn heddlu o'r prawf cyfraith sifil i'r prawf cyfraith droseddol, a fyddai'n gofyn am ddiwygiadau i ddeddfwriaeth.

Ar 9 Mehefin, cawsom eiriad y newid deddfwriaeth, a oedd yn glir y bydd y prawf ar gyfer defnyddio grym mewn achosion camymddwyn yr heddlu yn newid o'r dyddiad y daeth y newid i'r gyfraith i rym – sef 30 Mehefin. Nid yw'r newid yn y gyfraith yn cael ei gymhwyso'n ôl-weithredol i benderfyniadau achos i ateb a wnaed yn flaenorol gan ddefnyddio'r prawf cyfraith sifil.

O dan ddeddfwriaeth cwynion yr heddlu, mae proses dau gam ar gyfer penderfynu a ddylai achos camymddwyn fynd yn ei flaen: rhaid i ni ystyried yn gyntaf a oes achos i'w ateb ac yna penderfynu a yw camau a gweithdrefnau disgyblu yn cael eu cyfiawnhau.

Rydym wedi ystyried y newid deddfwriaeth yn ofalus ac, er mwyn cymhwyso'r gyfraith yn y ffordd fwyaf teg a chymesur, rydym wedi penderfynu nad yw camau disgyblu bellach yn cael eu cyfiawnhau ac y dylid tynnu unrhyw achosion yn ôl. Mae hyn yn atal unrhyw annhegwch a fyddai'n digwydd pe bai swyddogion yn wynebu diswyddiad posib am gamymddwyn, lle, pe byddai’n digwydd nawr, ni fyddai'n gyfystyr â chamymddwyn o dan y gyfraith newydd.

Bydd hyn yn cael ei gymhwyso i bob achos perthnasol oni bai bod amgylchiadau eithriadol, lle bydd angen rhesymeg glir.

Mae'n bwysig bod dull teg a chyson yn cael ei gymryd ar draws achosion a lluoedd IOPC ledled Cymru a Lloegr ar gyfer achosion camymddwyn perthnasol, sydd eto i'w cynnal, sy'n disgyn i'r 'cyfnod pontio' hwn. Am y rheswm hyn, rydym wedi rhannu ein safbwynt gyda Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu.

Dywedodd Cyfarwyddwr Strategaeth a Pholisi IOPC, Andrew Johnson: "Fe wnaethom ystyried y newid i’r gyfraith yn ofalus a'i fwriad datganedig i fynd i'r afael â'r annhegwch canfyddedig a diffyg cymesuredd y prawf cyfraith sifil.

"Rydym yn credu bod y sefyllfa hon yn darparu cysondeb ar draws achosion sy’n cael eu heffeithio ac yn deg i swyddogion sy'n wynebu diswyddiad posib am gamymddwyn, lle pe bai'n digwydd nawr, ni fyddai'n gyfystyr â chamymddwyn o dan y gyfraith newydd. Rydym yn disgwyl i nifer yr achosion perthnasol sy'n cael eu heffeithio gan y newid hwn fod yn gymharol fach."

Rydym wedi ysgrifennu at y partïon sy'n ymwneud â'r ymchwiliad i saethiad marwol Chris Kaba i'w hysbysu o'n safbwynt polisi a'u gwahodd i wneud sylwadau ynghylch a oes ffactorau eithriadol dros beidio â dilyn ein polisi yn yr achos hwn. Byddwn yn ystyried eu hymateb cyn gwneud penderfyniad ynghylch a yw gweithdrefnau camymddwyn yn parhau i fod yn gyfiawn.  

Tags
  • Metropolitan Police Service
  • Defnydd o rym a phlismona arfog