Charing Cross: 15 o swyddogion wedi cyflawni camymddwyn difrifol, a 15 arall yn dal o dan ymchwiliad
Mae swyddog o’r Heddlu Metropolitanaidd, a ddywedodd wrth gydweithiwr benywaidd ei fod yn gobeithio bydd hi’n cael ei threisio ar ei ffordd adref ar ôl noson allan, wedi dod yn bymthegfed swyddog i gael ei ganfod yn euog o gamymddwyn difrifol, fel rhan o’n ymchwiliadau parhaus i swyddogion oedd wedi’u lleoli yng ngorsaf heddlu Charing Cross yng nghanol Llundain.
Mewn gwrandawiad camymddwyn carlam, sef proses ddisgyblu gyflym a ddefnyddir pan fydd y dystiolaeth yn ddiamheuol, cafodd PC Mason O’Connor ei ddiswyddo heb rybudd a’i wahardd rhag gweithio ym maes plismona yn y dyfodol.
Ffeindiodd panel disgyblu heddiw ei fod wedi torri safonau proffesiynol yr heddlu mewn perthynas ag ymddygiad sy’n dwyn anfri, cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac awdurdod, parch a chwrteisi. Mae wedi’i ddiswyddo heb rybudd a chael roi ar restr waharddedig yr heddlu.
Daeth yr honiadau yn erbyn swyddogion Charing Cross i’r amlwg gyntaf mewn rhaglen ddogfen BBC Panorama a ddarlledwyd ym mis Hydref. Mae pob un ac eithrio un o’r 15 swyddog, cyn-Gwnstabl Heddlu (PC), wedi cael eu gwahardd rhag plismona.*
Mae ymchwiliadau yn parhau i ymddygiad 15 o swyddogion neu aelodau staff heddlu eraill.
Gwnaethom nodi camymddwyn gan nifer o swyddogion ychwanegol ar ôl i’r BBC ddarparu mwy o ffilmiau oedd heb eu cynnwys yn y rhaglen ddogfen.
Lansiwyd apêl am dystion hefyd, a arweiniodd at fwy o honiadau yn dod i’n sylw gan aelodau’r cyhoedd a staff oedd wedi gweithio yng ngorsaf Charing Cross. Roedd un o’r materion hyn yn ymwneud â PC O’Connor ac yn gysylltiedig â digwyddiad oddi ar ddyletswydd ym mis Hydref 2024.
Dywedodd Amanda Rowe, Cyfarwyddwr Ymgysylltu’r IOPC:
“Roedden ni gyd yn hynod o bryderus ac wedi ein syfrdanu gan rai o’r ymddygiadau ffiaidd a ddangoswyd yn rhaglen ddogfen y BBC, yn enwedig yng ngoleuni ein ymchwiliad blaenorol i honiadau tebyg yn yr un orsaf heddlu.
“Byddai’r cyhoedd yn disgwyl i’r rhai sy’n gyfrifol gael eu darganfod a’u dwyn i gyfrif yn gyflym, ac o fewn dyddiau i’r darllediad gwnaethom benderfynu fod tystiolaeth ddiamheuol o gamymddwyn difrifol ac y dylai’r swyddogion wynebu achosion carlam er mwyn galluogi’r Met i’w diswyddo.
“Mae’r swyddogion hynny, sy’n cynnwys tri oedd yn dal rolau goruchwylio fel rhingylliaid, wedi’u gwahardd rhag gweithio ym maes plismona eto.
“Ond nid dyna ddiwedd ein ymchwiliad.
“Ers hynny, mae tîm pwrpasol o ymchwilwyr wedi gweithio trwy swm sylweddol o ffilmiau ychwanegol, yn ogystal â gwybodaeth newydd a ddaeth i’r arwyneb yn sgil apeliadau, er mwyn sicrhau bod ein ymchwiliad mor drylwyr a chadarn â phosib, ac y cymerir camau cyflym i ddwyn y rhai dan sylw i gyfrif.
“Mae hyn wedi arwain at ymchwiliadau i 30 o swyddogion heddlu ac aelodau staff. Mae pymtheg eisoes wedi wynebu gwrandawiadau camymddwyn carlam, gyda phob un ac eithrio un wedi’u gwahardd rhag plismona.
“Dyma un o’n ymchwiliadau mwyaf erioed o ran nifer y swyddogion sy’n cael eu hymchwilio, ac mae’r nifer sylweddol o achosion disgyblu cyflym yn dangos pa mor ddifrifol y mae’r IOPC a’r Met, a gynhaliodd y gwrandawiadau camymddwyn, yn trin y mater hwn.”
Mae wyth ymchwiliad gweithredol yn parhau, gan gynnwys dau swyddog sy’n destun ymchwiliad troseddol. Mae un yn ymwneud â honiadau o wyrdroi cwrs cyfiawnder, ac mae’r llall yn ymwneud â honiadau o ddefnyddio grym gormodol.
Yn ddiweddar, cwblhawyd ymchwiliad troseddol i drydydd swyddog a allai fod wedi ceisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder, a phenderfynwyd peidio â chyfeirio’r mater at Wasanaeth Erlyn y Goron ar gyfer penderfyniad ynghylch cyhuddo. Mae’r un swyddog eisoes wedi’i ddiswyddo a’i roi ar y rhestr waharddedig fel rhan o’n ymchwiliad Charing Cross, a oedd yn ymwneud â sylwadau gwahaniaethol ac Islamoffobig a recordiwyd.
Ochr yn ochr â’r materion troseddol, mae ymchwiliadau’n parhau i ymddygiad 15 o swyddogion neu aelodau staff heddlu. Mae pob un ac eithrio un, sef cwnstabl gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain, yn gweithio i’r Met.
Mae un o’r rhain, sef swyddog dalfa dynodedig sy’n gweithio yng nghanolfan gadw Charing Cross, i fod i wynebu gwrandawiad camymddwyn difrifol ar 25 Medi dros sylwadau a recordiwyd ynghylch triniaeth pobl a gedwir yn y ddalfa.
*Dyma’r 15 swyddog sydd wedi wynebu achosion camymddwyn carlam. Ffeindiwyd bod pob un o’r swyddogion canlynol wedi cyflawni camymddwyn difrifol, ac mae pob un ac eithrio un, cyn-Gwnstabl Sharkey, wedi’u rhoi ar restr waharddedig yr heddlu:
- PS Joe McIlvenny – 23 Hydref
- PC Martin Borg – 23 Hydref
- PC Phil Neilson – 23 Hydref
- PS Clayton Robinson – 24 Hydref
- PC Jason Sinclair-Birt – 24 Hydref
- PS Lawrence Hume – 7 Tachwedd
- PC Sean Park – 25 Tachwedd
- Cyn-PC Peter Greaves (a gyflogir gan Heddlu Swydd Gaerloyw) – 9 Ionawr
- Cyn-PC Brian Sharkey – 13 Chwefror
- PC Charlie Cano – 10 Ebrill
- PC Kheava Gould-Ryan – 23 Mehefin
- PC Fernando Santos Dos Santos – 24 Mehefin
- PC Charlie Marus – 4 Awst
- PC Lloyd Hunter – 26 Awst
- PC Mason O’Connor – 15 Medi