Mae ymchwiliad yn digwydd ar hyn o bryd i farwolaeth dyn yng Nghasnewydd ar ôl cyswllt â swyddogion Heddlu Gwent

Published: 18 Feb 2021
News

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu(IOPC) yn ymchwilio'n annibynnol i farwolaeth dyn yn dilyn cysylltiad â'r heddlu yng Nghasnewydd bore ddoe, dydd Mercher 17 Chwefror 2021.

Yn anffodus, cyhoeddwyd bod Moyied Bashir, 29, wedi marw yn yr ysbyty tua 11.40 am ddydd Mercher ar ôl cael ei gludo yno mewn ambiwlans o gyfeiriad yng Nghilgant Maesglas.

Ar ôl cael ein hysbysu gan Heddlu Gwent tua hanner dydd ar ddydd Mercher anfonwyd ymchwilwyr i'r tŷ ac i'r gweithdrefnau ar ôl digwyddiad lle mae'r swyddogion dan sylw wedi darparu eu hadroddiadau cychwynnol o'u rhyngweithiad â Mr Bashir.

Rydym wedi sefydlu bod swyddogion Heddlu Gwent wedi cael eu galw i’r tŷ ychydig cyn 9am ddoe yn dilyn adroddiad o bryder am les Mr Bashir. Yn fuan ar ôl cyrraedd, galwodd plismyn am ambiwlans gan fod pryder am ymddygiad Mr Bashir.

Rydym yn ymwybodol bod Mr Bashir, na chafodd ei arestio, wedi cael ei roi mewn gefynnau i ddechrau, a bod ataliadau coes wedi cael eu gosod yn yr eiddo tra'n aros am ambiwlans. Yn ystod eu rhyngweithiad â Mr Bashir nodwyd bod ei gyflwr wedi gwaethygu. Cyrhaeddodd parafeddygon a rhoddon nhw driniaeth feddygol yn y tŷ cyn ei symud i ambiwlans a oedd yn aros.

Rydym wedi sefydlu bod nifer o gerbydau heddlu wedi cyrraedd erbyn i’r ambiwlans gyrraedd a bod naw heddwas wedi ymateb i’r digwyddiad.

Rydym wedi siarad â theulu Mr Bashir i fynegi ein cydymdeimlad ac egluro ein rôl. Mae’r Crwner wedi cael ei hysbysu ac mae post mortem yn cael ei gynnal y prynhawn yma.

Byddwn yn casglu adroddiadau manylach gan y swyddogion dan sylw, ac rydym yn sicrhau ac yn dadansoddi fideos a wisgir ar y corff ynghyd â throsglwyddiadau radio'r heddlu a chofnidion galwadau.

Mae ein hymchwiliad i natur y cyswllt a gafodd swyddogion yr heddlu â'r dyn yn ei gamau cynnar iawn.

Dywedodd Cyfarwyddwr IOPC Cymru, Catrin Evans: “Rwy’n cydymdeimlo â theulu a ffrindiau Mr Bashir, ac i bawb yr effeithiwyd arnynt gan ei farwolaeth drasig. Rydym wedi siarad ag aelodau o'r teulu i egluro ein rôl a sut y bydd yr ymchwiliad yn datblygu. Mae’n briodol o dan amgylchiadau marwolaeth yn dilyn cyswllt â’r heddlu ein bod yn ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd, a hoffwn roi sicrwydd i bobl y byddwn yn gwneud hynny’n drylwyr ac yn annibynnol. Byddwn yn archwilio’n ofalus i'r rhyngweithiad a gafodd swyddogion heddlu â Mr Bashir ac os oedd eu gweithredoedd yn gymesur ac yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.”

Tags
  • Heddlu Gwent
  • Caethiwed a charchariad
  • Marwolaeth ac anafiadau difrifol
  • Lles a phobl sy'n agored i niwed