IOPC yn ymateb i ddyfarniad Ofcom ar gwynion am raglen ddogfen Panorama 'The Chris Kaba shooting'

Published: 11 May 2026
News

Wrth ymateb i ddyfarniad Ofcom, a gyhoeddwyd heddiw, ar gwynion y gwnaethom am y rhaglen ddogfen BBC 'The Chris Kaba shooting', dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol IOPC Rachel Watson:

"Rydym yn falch bod Ofcom wedi cadarnhau dau o'n cwynion ynglŷn â'r rhaglen ddogfen BBC Panorama am saethu marwol Chris Kaba, a ddarlledwyd ym mis Tachwedd 2024.

"Cytunodd bod IOPC wedi cael ei drin yn annheg gan y BBC pan ni gawsom unrhyw hawl i ateb i feirniadaethau niweidiol a wnaethpwyd amdanom o fewn y rhaglen ac am beidio cynnwys datganiad gwnaethom ddarparu cyn ei ddarllediad. Roedd y beirniadaethau hynny yn peri pryder dwfn gan yr oeddent yn cwestiynu ein annibyniaeth a'n gallu i wneud penderfyniadau yn uniongyrchol.

"Roeddem yn teimlo nad oedd gennym ddewis ond uwchgyfeirio ein cwynion at Ofcom ar ôl cyrraedd diwedd gweithdrefnau cwyno y BBC. Er cyfaddefodd y BBC o'r diwedd eu bod wedi torri eu safonau golygyddol eu hunain, gwnaethon nhw wrthod gwneud ymddiheuriad cyhoeddus, er gwaetha IOPC yn darparu tystiolaeth i ddangos y difrod difrifol i'n henw da fel sefydliad o ganlyniad i'r rhaglen.

"Tra nad oes modd dad-wneud y difrod a achoswyd gan y rhaglen rydym yn croesawi dyfarniad Ofcom bod IOPC wedi cael ei drin yn annheg ac rydym yn falch bod y BBC wedi cael eu dal i gyfri."

Tags
  • Metropolitan Police Service
  • Defnydd o rym a phlismona arfog