Camymddwyn difrifol wedi'i gadarnhau yn erbyn swyddog cadw Heddlu Manceinion Fwyaf a anfonodd negeseuon amhriodol at fenyw
Mae swyddog cadw (CDO) Heddlu Manceinion Fwyaf (GMP) a anfonodd ffotograffau, fideos a negeseuon amhriodol rhywiol digymell at fenyw wedi cael ei ddiswyddo heb rybudd yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).
Mewn gwrandawiad un dydd a gynhaliwyd ddydd Gwener (29 Mai), canfuwyd bod yr aelod staff wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol yr heddlu yn ymwneud â gonestrwydd a chywirdeb; awdurdod, parch a chwrteisi; cyfarwyddiadau; ac ymddygiad annheilwng. Bydd nawr yn cael ei roi ar y rhestr wahardd sy'n golygu na fydd yn gallu gweithio ym maes plismona eto.
Ffeindiodd ein ymchwiliad annibynnol, a ddilynodd atgyfeiriad gan GMP yn ymwneud â honiadau o aflonyddu rhywiol, dystiolaeth bod y swyddog cadw wedi anfon negeseuon o natur rywiol at y fenyw dro ar ôl tro, a oedd yn cynnwys ffotograffau a fideos.
Ar ddiwedd ein ymchwiliad ym mis Hydref 2025, canfuom fod ganddo achos i'w ateb am gamymddwyn difrifol ac wedi hynny trefnodd GMP weithdrefnau disgyblu.
Dywedodd Cyfarwyddwr IOPC, Amanda Rowe:
“Roedd gweithredoedd yr aelod staff yn gamddefnydd o’i swydd ac mae hefyd yn peryglu hyder y cyhoedd mewn plismona.
“Roedd ei gyswllt â menyw gwnaeth e gyfarfod â tra ar ddyletswydd yn gwbl amhriodol ac nid oes lle i ymddygiad o’r fath mewn plismona.
“Mae’n hanfodol bod y rhai sy’n profi neu’n gweld ymddygiad amhriodol gan swyddogion heddlu yn teimlo’n hyderus i’w riportio a dylai’r achos hwn anfon neges glir y bydd IOPC a’r heddluoedd yn cymryd y pryderon hynny o ddifrif.”
Ym mis Mai 2024, mynychodd y fenyw ystafell y ddalfa yng Ngorsaf Heddlu Bolton i weithredu fel oedolyn priodol i blentyn. Gwnaeth hi sawl ymgais i roi gwybod am ymddygiad y swyddog cadw dros yr wythnosau canlynol a chawsom atgyfeiriad cwyn gan y llu heddlu ar 13 Gorffennaf.
Ffeindiodd ein ymchwiliad, a oedd yn annibynnol o’r heddlu, dystiolaeth fod yr aelod staff wedi anfon lluniau o'i hun mewn lifrai tra yn y gwaith a delwedd o'i bidyn at y fenyw.
Mewn cyfweliad, cyfaddefodd i ymchwilwyr ei fod wedi cyfnewid rhifau ffôn gyda’r ddynes a bod y negeseuon wedi mynd “ychydig yn rhywiol”.
Ni ddaethom o hyd i unrhyw dystiolaeth i gefnogi nifer o honiadau eraill yn ei erbyn, gan gynnwys ei fod wedi defnyddio systemau'r heddlu i gael rhif y fenyw, a'i fod wedi ei chyffwrdd yn amhriodol.
Ar ddiwedd ein ymchwiliad, gwnaethom gyfeirio’r achos at Wasanaeth Erlyn y Goron, a benderfynodd beidio â’i gyhuddo o unrhyw drosedd.