Agor ymchwiliad i’r defnydd o rym gan swyddog Heddlu Gwent yn ystod arestiad yng Nghasnewydd

Published: 20 Jul 2021
News

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn ymchwilio i’r defnydd o rym gan swyddog Heddlu Gwent wrth arestio gŵr yng Nghasnewydd.

Digwyddodd hyn ddydd Gwener 9 Gorffennaf wedi i ddau swyddog ddynesu at ŵr 41 oed mewn cysylltiad â throseddau gyrru honedig. Honnir bod y gŵr wedi gadael y safle cyn i swyddog ddod i’w wyneb mewn gardd yn Livale Court, Betws.

Yn dilyn cweryl, mae’n debyg bod cwnstabl yr heddlu wedi defnyddio chwistrell analluogi ac wedi defnyddio ei faton sawl gwaith cyn i swyddogion eraill gyrraedd.

Mae ein hymchwiliad annibynnol yn dilyn atgyfeiriad gan Heddlu Gwent.

Meddai Rheolwr Gweithrediadau yr IOPC, Melanie Palmer: “Hoffem dawelu meddwl aelodau’r gymuned ein bod wedi penderfynu ymchwilio’n annibynnol i’r digwyddiad hwn. Mae fideo o ran o’r digwyddiad wedi’i gyhoeddi’n eang ar gyfryngau cymdeithasol.

“Byddwn yn sicrhau ein bod yn ystyried holl amgylchiadau y cysylltiad a gafodd swyddogion Heddlu Gwent â’r gŵr yn llawn cyn ei arestio ac wrth ei arestio. Rydym yn ymchwilio a oedd defnydd y swyddogion o rym yn rhesymol, cymesur ac angenrheidiol yn y sefyllfa a aeth rhagddi. Rydym wedi cysylltu â’r gŵr i egluro ein rôl ac i nodi sut fydd yr ymchwiliad yn mynd rhagddo.”

Tags
  • Heddlu Gwent
  • Defnydd o rym a phlismona arfog