Adborth am ein gwasanaeth

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu'r safon uchaf posibl o wasanaeth cwsmeriaid, ond weithiau gall pethau fynd o'u lle.  Rhowch wybod i ni os ydych yn anhapus neu'n anfodlon â lefel y gwasanaeth a gawsoch. Byddwn yn gwrando arnoch chi ac yn ceisio datrys materion yn gyflym ac ar y lefel gywir.

Yn aml, y ffordd fwyaf hawdd a chyflym o ddatrys hyn yw siarad â'r person yr ydych wedi bod yn delio ag ef/hi. Efallai y bydd ef/hi yn gallu delio â'r mater yn y fan a'r lle. Gyda phob cwyn neu fynegiant o anfodlonrwydd byddwn yn:

  • ceisio cywiro pethau
  • ceisio datrysiad yn gynnar
  • hyblyg yn ein hymagwedd i ddiwallu eich anghenion
  • canolbwyntio ar y cwsmer a delio â phob pryder yn brydlon
  • agored ac atebol
  • defnyddio'r wybodaeth i wella ein gwasanaeth

Y ffordd fwyaf hawdd o roi adborth yw trwy lenwi ein ffurflen ar-lein. Bydd hyn yn cael ei drin gan ein Tîm Gwella Ansawdd a Gwasanaeth. Byddant yn cydnabod eich cwyn ac yn ceisio ei datrys o fewn 20 diwrnod gwaith. Os credwn y gallai gymryd fwy o amser na hyn, byddwn yn cysylltu â chi ac yn esbonio pa mor hir y disgwyliwn iddo gymryd. Nid mynd i’r afael â phryderon am y penderfyniadau a wneir yn eich achos yw eu rôl.  

Ffurflen adborth

Defnyddiwch y ffurflen hon i roi adborth ar ein gwasanaeth, i roi canmoliaeth i ni neu i wneud cwyn. Peidiwch â defnyddio'r ffurflen hon i wneud cwyn i'r heddlu. Cyflwyno adborth mewnol

Ffyrdd eraill o roi adborth

Ysgrifennwch atom: Tîm Adborth Gwella Ansawdd a Gwasanaeth, Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu, Blwch Post 473, Sale, M33 0BW

Ffoniwch ni: 0300 020 0096 (gallwch adael neges llais trwy ofyn am gael siarad â'r neges llais Gwella Ansawdd a Gwasanaeth)

E-bostiwch ni:  [email protected]

Dylai pob cwyn:

  • gynnwys eich gwybodaeth gyswllt bersonol – enw, cyfeiriad, rhif ffôn/ffôn symudol a chod post
  • gynnwys unrhyw rifau cyfeirnod sydd wedi'u cynnwys ar lythyrau rydym wedi'u hanfon atoch
  • amlinellu pa aelod/au o staff rydych yn cwyno amdanynt – os yn berthnasol
  • esbonio'n glir pam rydych yn gwneud cwyn ac am beth mae eich cwyn
  • gynnwys unrhyw dystiolaeth i gefnogi eich cwyn

Ein polisïau

Rydym wedi cynhyrchu dau bolisi sy'n disgrifio sut i wneud cwyn neu roi adborth am ein gwaith, a beth allai ddigwydd.

Mae ein Polisi Cwynion ac Adborth yn esbonio sut i roi eich adborth i ni, gwneud awgrymiadau neu gwyno am ein gwaith. Mae'n nodi sut rydym yn ymdrin ag adborth a chwynion am ein gwasanaeth neu ein staff.  

Mae Polisi Cwynion y Cyfarwyddwr Cyffredinol a Chyfarwyddwyr Anweithredol yn esbonio sut rydym yn ymdrin â chwynion sy’n ymwneud ag ymddygiad ein Cyfarwyddwr Cyffredinol, Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol neu gyfarwyddwyr anweithredol.  

Ein safonau gwasanaeth

Pan fyddwch yn dod i gysylltiad â ni gallwch ddisgwyl safon uchel o wasanaeth. Darganfyddwch sut rydym yn darparu gwasanaeth teg a hygyrch i bawb. Ein safonau gwasanaeth