Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, eu cynorthwyo, ac yn cael eu grymuso i fod yn eu gwir hunain. Yn ein rôl o oruchwylio system cwynion am yr heddlu ac fel cyflogwr, rydym yn ymdrechu i sicrhau triniaeth deg i bawb, gan groesawu cyfoeth o hunaniaethau, cefndiroedd, a phrofiadau bywyd gwahanol.
Eich cefnogi chi i ddefnyddio ein gwasanaethau
Rydym yn frwd dros greu profiad cynhwysol a pharchus i unrhyw un sy'n rhyngweithio gyda ni. Mae ein safonau gwasanaeth yn amlinellu beth y gallwch ddisgwyl gan ein sefydliad wrth gysylltu â ni. Pan yn darparu ein gwasanaeth i chi, gallwch ddisgwyl i ni:
- Eich trin chi bob amser gyda pharch a chwrteisi
- Wneud addasiadau rhesymol i gwrdd â'ch anghenion unigol
- Ddilyn i fyny ar unrhyw sylwadau neu bryderon rydych yn codi am y gwasanaeth rydyn yn darparu
- Ystyried effaith ein strategaethau a'n polisïau ar y bobl a effeithir ganddynt a chamau rhesymol i’w cynnwys yn y broses o ddatblygu ac ymgynhori
Rydym wedi datblygu canllawiau ar gyfer yr heddlu ar sut i ymdrin â honiadau o wahaniaethu. Cafodd y canllawiau eu datblygu yn dilyn ymgynghori â grwpiau gwirfoddol a chymunedol, rhanddeiliaid plismona, y Comisiwn Cydraddoldeb a hawliau Dynol a Chymdeithas Cyfraith Gwahaniaethu.
Maen nhw'n gosod safonau y byddwn yn dal heddluoedd iddynt i pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau am adolygiadau ac apeliadau. Maen nhw hefyd yn safonau y dylai achwynwyr, teuluoedd a phartïon eraill â diddordeb ddisgwyl pan fydd honiadau o wahaniaethu yn cael eu gwneud yn erbyn yr heddlu. Dysgwch ragor am ein hymchwil a gwaith arall sy'n ymwneud â gwahaniaethu e police.
Pan allai ymchwiliad gael effaith fawr ar y cyhoedd neu eu hyder, neu pan allai safbwyntiau cymunedol gryfhau ein dull gweithredu, ystyriwn ffurfio grŵp cyfeirio cymunedol. Mae'r grwpiau hyn yn dod â lleisiau ac aelodau o'r gymuned at ei gilydd i roi mewnwelediad ac arbenigedd gwerthfawr, er mwyn cynorthwyo'r ymchwiliad. Darllenwch fwy am y gwaith rydym yn ei wneud i ymgysylltu â chymunedau gwahanol.
Safonau’r Iaith Gymraeg
Dysgwch ragor am ein hymrwymiad i ateb Safonau'r iaith Gymraeg.Gofyn am wybodaeth
Dysgwch am sut y gallwch ofyn am wybodaeth am ein gwaith, yn ogystal â manylion ar sut rydym yn rheoli data personol.Addasiadau rhesymol
Darllenwch ein polisi addasiadau rhesymol ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth.Ein staff
Gall ein gweithwyr ddisgwyl i gael eu trin yn deg a heb wahaniaethu. Rydym yn trin ein gilydd ag urddas a pharch mewn dull teg a chyson, ac nid yw ymddygiad amhriodol yn cael ei oddef.
Yn yr adrannau isod, gallwch ddarllen am ein hadroddiadau ethnigrwydd a bwlch cyflog rhwng rhywiau a dysgu rhagor am amrywiaeth staff, ein rhwydweithiau staff a gwasanaethau cymorth.
Mae ein gweithdrefnau recriwtio a dethol yn sicrhau ein bod yn recriwtio'r person gorau ar gyfer y swydd. Rydym yn defnyddio recriwtio dienw trwy dynnu manylion personol fel enw, rhyw, ac addysg er mwyn lleihau rhagfarn. Cyhoeddir cyflogau ar gyfer pob rôl i hyrwyddo tryloywder a chyfartaledd tâl. Mae'r paneli cyfweld yn amrywiol ac mae ymgeiswyr yn cael eu gofyn am unrhyw addasiadau y gallent eu hangen i sicrhau profiad teg a chefnogol.
Rydym yn falch i fod yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anabledd', sy'n golygu ein bod wedi cymryd camau go iawn i dorri rhwystrau, croesawu cydweithwyr ag anableddau, a sicrhau bod pawb â'r gallu i ffynnu yn eu rolau.
Rhwydweithiau staff
Mae gennym chwech rhwydwaith staff, sy'n cwmpasu'r naw nodwedd warchodedig a amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, yn ogystal â siaradwyr Cymraeg: Oedran, Galluogi, Pride LHDTC+, Hil, Crefydd a Chred; Rhyw a'r Teulu; ac Iaith Gymraeg.
Rydym yn grymuso ein rhwydweithiau staff i gefnogi aelodau staff i gysylltu, rhannu profiadau, a helpu i siapio diwylliant gweithle cynhwysol. Gall eu gwaith gynnwys adolygu polisïau, cefnogi gyda mentora am yn ôl ac arwain ar adolygiadau cynhwysiant.
Maent hefyd yn trefnu digwyddiadau o amgylch ymgyrchoedd ymwybyddiaeth gwahanol, megis Mis Hanes Du, Balchder, Dyddiau Rhyngwladol Menywod a Dynion, Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ymwybyddiaeth menopos, Ramadan, Mis Hanes De Asia a Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau.
Mae pob aelod o staff yn cymryd rhan mewn hyfforddiant cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, sy’n helpu pawb i ddeall beth mae cynhwysiant yn ei olygu i ni, beth rydym yn ei ddisgwyl gan ein gilydd, a sut i herio ymddygiad nad yw'n cyd-fynd â'n gwerthoedd yn hyderus. Rydym hefyd yn hyfforddi aelodau staff i gydnabod a mynd i'r afael â gwahaniaethu mewn ymchwiliadau, gan sicrhau bod ein harferion yn deg, wedi'u seilio ar wybodaeth, ac yn atebol.
Gan ddefnyddio Asesiadau Effaith Cydraddoldeb, rydym yn ystyried cynhwysiant yn ofalus mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar ein gweithwyr, defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid. Mae'r asesiadau hyn yn ein helpu i ddeall effaith ar bobl a sicrhau bod unrhyw newidiadau neu arferion newydd yn deg ac yn gynhwysol. I gryfhau'r broses hon, rydym yn cynnwys ein rhwydweithiau staff a'n mentoriaid, gan fanteisio o’u safbwyntiau a'u profiadau amrywiol i'n helpu i wneud penderfyniadau mwy gwybodus.
Mae gan bob aelod o'r staff hefyd nod sy'n ymwneud â chyfartaledd, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI), a drafodir yn rheolaidd yn ystod sesiynau un-i-un gyda'u rheolwr. Mae aelodau staff yn dewis maes o EDI y maent am ei archwilio neu gymryd rhan ynddo, boed hynny trwy ddysgu, gweithredu, neu fyfyrio.
Rydym yn rhannu ein adroddiad bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn flynyddol. Rydym hefyd yn dewis yn wirfoddol i gyhoeddi data ar fylchau cyflog hil, er nad yw hyn yn ofyniad cyfreithiol. Mae hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i dryloywder a'n penderfyniad i ddeall a mynd i'r afael â gwahaniaethau ar draws ein sefydliad.
Bwlch cyflog rhwng y rhywiau
Cafodd y ffigurau a amlinellir isod eu cyfrifo gan ddefnyddio'r methodolegau safonol a amlinellir yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Gwybodaeth Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau).
Adroddiad Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau 2023 a Thablau Data 2023
Adroddiad Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau 2022 a Thablau Data 2022
Adroddiad Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau 2021 a Thablau Data 2021
Bwlch cyflog ethnigrwydd
Gallwch hefyd ddarllen ein hadroddiad Bwlch Cyflog Ethnigrwydd a gweld y data cyfatebol.
Adroddiad Bwlch Cyflog Ethnigrwydd 2022
Adroddiad Bwlch Cyflog Ethnigrwydd 2021 a Thablau Data 2021
Mae ein data ar gyfer blynyddoedd blaenorol ar gael ar ein safle Archifau Cenedlaethol.