Cyfranogiad mewn digwyddiadau allanol - Datganiad safbwynt
Pwrpas y ddogfen hon yw darparu tryloywder ynghylch pryd bydd IOPC yn cymryd rhan mewn digwyddiadau sy’n cael eu trefnu gan gyrff allanol, trwy amlinellu'r ffactorau a gaiff eu hystyried wrth benderfynu a ddylid mynychu.
Pan fydd IOPC yn mynychu digwyddiadau allanol, byddwn ni dim ond yn gwneud hynny pan fydd ein presenoldeb yn cynorthwyo i hybu ein dyletswydd statudol a’n amcanion strategol, yn unol â’n gwerthoedd, ac nid gyda’r bwriad o gymeradwyo’r digwyddiadau, eu trefnwyr nac unrhyw fynychwyr eraill.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi ein dogfen cwestiynau cyffredin ynghylch safbwynt y polisi cymryd rhan mewn digwyddiadau , sy’n ceisio rhagweld rhai o’r cwestiynau y gall rhanddeiliaid a defnyddwyr gwasanaeth eu cael ynghylch y safbwynt polisi hwn.