Ymchwiliadau

Bob blwyddyn mae ein hymchwilwyr yn cynnal cannoedd o ymchwiliadau annibynnol i'r digwyddiadau mwyaf difrifol a sensitif yn ymwneud â'r heddlu.

Mae'n rhaid i heddluoedd gyfeirio'r digwyddiadau mwyaf difrifol atom ni; os yw rhywun wedi gwneud cwyn neu peidio. Er enghraifft, os yw gweithredu gan yr heddlu yn arwain at aelod o’r cyhoedd yn cael ei anafu’n ddifrifol neu’n marw:

  • tra yn y ddalfa
  • ar ôl iddynt ddod i gysylltiad â’r heddlu
  • o ganlyniad i saethu gan yr heddlu
  • mewn damwain ffordd yn ymwneud â’r heddlu

Gall yr heddlu hefyd gyfeirio digwyddiadau atom ni os oes ganddynt bryderon am ymddygiad eu swyddogion neu staff. Weithiau rydym yn cysylltu â heddluoedd yn uniongyrchol i ofyn iddynt atgyfeirio mater atom ni.

Ym 2024/25 derbynion ni oddeutu 7,000 o gyfeiriadau gan yr heddlu, ond nid ydym yn ymchwilio’n annibynnol i’r mwyafrif ohonynt.

Image

Darganfod mwy am ein hymchwiliadau diweddar

Gwybodaeth am ein hymchwiliadau
Image

Darllenwch grynodebau o'n hymchwiliadau

Crynodebau o ymchwiliadau

Canllaw i'n hymchwiliadau

Ymgyrch Linden

Darllenwch am ein cyfres o ymchwiliadau i sut yr ymatebodd Heddlu De Swydd Efrog i honiadau o gam-drin plant yn rhywiol yn Rotherham rhwng 1997 a 2013.

Meysydd gwaith allweddol

Dysgwch fwy am y meysydd y mae ein hymchwiliadau yn eu cwmpasu.

Cysylltwch â thîm y cyfryngau

Os ydych chi'n newyddiadurwr sy'n chwilio am ragor o wybodaeth am ymchwiliad gallwch ddod o hyd i fanylion ein tîm cyfryngau yma.