Ymchwiliad Hillsborough

Digwyddodd argyfwng Hillsborough ar 15 Ebrill 1989, wrth i filoedd o bobl fynychu gêm gyn-derfynol Cwpan yr FA rhwng Clwb Pêl-droed Lerpwl a Chlwb Pêl-droed Nottingham Forest. Bu farw 97 o bobl, ac anafwyd cannoedd yn fwy, ac mae nifer y bobl yr effeithiwyd arnynt yn ddibendraw. Mae'n parhau i fod yr argyfwng gwaethaf yn hanes chwaraeon Prydain.

Lansiwyd ymchwiliad annibynnol gennym i weithrediadau'r heddlu yn dilyn yr argyfwng un mis ar ôl cyhoeddi canfyddiadau Panel Annibynnol Hillsborough (HIP) yn 2012. Daeth HIP i'r casgliad nad oedd unrhyw gefnogwyr Lerpwl yn gyfrifol mewn unrhyw ffordd am yr argyfwng, ac roedd yn cefnogi canfyddiad Ymchwiliad Taylor mai'r prif achos oedd "methiant rheolaeth yr heddlu". Roedd ail ymchwiliad, o'r enw Operation Resolve, yn gyfrifol am archwilio camau gweithredu'r holl sefydliadau a oedd yn rhan o'r argyfwng. Er mwyn sicrhau trosolwg a gwaith craffu annibynnol, mae'r elfennau o ymchwiliad Operation Resolve sy'n ymwneud â'r heddlu wedi cael eu rheoli gennym ni. 
 

Cipolwg o'n hymchwiliadau

Ynghylch ymchwiliadau Hillsborough

Rhagor o wybodaeth am y rheswm dros gynnal yr ymchwiliadau, ein pwerau a'r hyn a ganfuwyd gennym

Ymholiadau gan y Wasg

Mae gennym swyddfa'r wasg bwrpasol sy'n ymdrin ag unrhyw ymholiadau gan y wasg