Ynghylch Ymchwiliadau Hillsborough

Ar ôl adolygu Adroddiad Panel Annibynnol Hillsborough (HIP), daeth uwch arweinwyr Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC)—rhagflaenydd IOPC—i'r farn mai'r sefydliad oedd yn y safle gorau i gynnal yr ymchwiliad i'r digwyddiadau yn dilyn argyfwng Hillsborough. Roedd sawl rheswm dros hyn: 

  • Sefydlwyd IPCC i ymchwilio i gwynion a honiadau difrifol o gamymddwyn yn erbyn yr heddlu. Roedd y deunydd yn Adroddiad HIP yn awgrymu honiadau o'r fath, yn enwedig mewn perthynas â'r hyn a ddigwyddodd yn dilyn yr argyfwng.
  • Erbyn dechrau mis Hydref 2012, roedd IPCC wedi derbyn atgyfeiriadau gan Heddlu De Swydd Efrog (SYP), yr heddlu a oedd yn gyfrifol am blismona y diwrnod hwnnw, a Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr (WMP), y llu heddlu a gynhaliodd yr ymchwiliad gwreiddiol i'r argyfwng, ar sail y wybodaeth yn Adroddiad HIP.
  • Fel IOPC, roedd IPCC yn annibynnol ar yr heddlu, ond mae gan ei ymchwilwyr bwerau cwnstabliaid yr heddlu i gynnal cyfweliadau a chwiliadau.

Gan fod pwerau ymchwilio IPCC yn ymwneud ag ymddygiad yr heddlu (fel y mae rhai IOPC), gallai ond ymchwilio i sefydliadau eraill (nad ydynt yn rhai'r heddlu) o ran sut yr oedd eu gweithredoedd yn ymwneud â chamau gweithredu neu benderfyniadau'r heddlu, yn eu llywio neu'n eu hysbysu. Roedd y pwerau hyn yn ddigonol ar gyfer ymchwilio'r digwyddiadau yn dilyn yr argyfwng, lle'r oedd y materion a godwyd gan Adroddiad HIP yn bennaf yn canolbwyntio ar yr hyn yr oedd yr heddlu ac, yn achos SYP, y tîm cyfreithiol a benodwyd ganddynt, wedi'i wneud.

Fodd bynnag, amlygodd Adroddiad HIP y methiannau posibl gan nifer o bartïon a oedd yn rhan o'r gwaith o gynllunio a pharatoi ar gyfer Gêm Gyn--derfynol Cwpan yr FA yn 1989, gan gynnwys Clwb Pêl-droed Sheffield Wednesday (SWFC) a'r cynghorwyr peirianneg a benodwyd ganddo, Eastwood & Partners, y Gymdeithas Bêl-droed (FA) a Chyngor Dinas Sheffield (SCC). Nid oedd gan IPCC y pŵer i ymchwilio'r sefydliadau hyn na'r unigolion a oedd yn gweithio iddynt. 

Felly, pe bai'r penderfyniad yn cael ei wneud bod angen ymchwiliad i'r materion hyn, roedd angen naill ai estyn pwerau IPCC neu byddai'n rhaid penodi corff ymchwiliol amgen. Lluniwyd Operation Resolve i'r diben hwn. 

Er bod gweithredoedd SYP ac eraill wedi'u hymchwilio'n flaenorol, dyma'r tro cyntaf i weithredoedd WMP allu cael eu hymchwilio. 

Ynghylch yr ymchwiliadau

Cadw deunydd ymchwilio Hillsborough yn barhaol

Argyfwng Hillsborough - Adroddiad IOPC ac ymchwiliad Operation Resolve

Yn dilyn ymchwiliadau Hillsborough, cyhoeddwyd ein hadroddiad ym mis Rhagfyr 2025.

Ymholiadau gan y wasg

Mae gennym swyddfa'r wasg bwrpasol sy'n ymdrin ag unrhyw ymholiadau gan y wasg.