Sut i herio ein penderfyniadau
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu fod angen rhagor o wybodaeth am benderfyniad rydym wedi'i wneud ar apêl, adolygiad neu ymchwiliad, cysylltwch â'r unigolyn sy'n ymdrin â'ch cais. Dyma'r ffordd hawsaf yn aml i esbonio'r rhesymau dros y penderfyniad ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Dylech fod yn ymwybodol, ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig, bod ein penderfyniadau apêl, adolygiad ac ymchwiliad yn derfynol. Mae hyn yn golygu bod y penderfyniadau rydym yn eu gwneud a'u cyfathrebu i'r rheini sy'n rhan o'n hachosion yn gallu cael eu herio a'u gwyrdroi trwy'r broses adolygiad barnwrol yn unig. Am y rheswm hwn nid ydym yn derbyn cwynion am benderfyniadau ein hachosion.
Bydd y wybodaeth ganlynol yn ein helpu i ddeall beth i'w ystyried os ydych yn anhapus â phenderfyniad perthynol i achos a wneir gan SAYH.
Mae adolygiad barnwrol yn herio penderfyniadau a gweithredoedd corff cyhoeddus ar y sail nad yw wedi gweithredu'n gyfreithlon mewn gwneud y penderfyniad hwnnw.
Nid yw adolygiad barnwrol yn apêl ac ni ddylai gael ei ddefnyddio os ydych yn anghytuno â phenderfyniad corff cyhoeddus. Mae'n broses gyfreithiol ffurfiol lle gall barnwr archwilio'r penderfyniad sy'n cael ei herio ac ystyried os yw'r gyfraith wedi cael ei ddilyn yn gywir gan y corff cyhoeddus wrth wneud y penderfyniad hwnnw.
Yn y mwyafrif helaeth o amgylchiadau, ni all barnwr newid y penderfyniad mae'r corff cyhoeddus wedi'i wneud. Fodd bynnag, os ydynt yn canfod nad yw'r corff cyhoeddus wedi gweithredu'n gyfreithlon wrth wneud ei benderfyniad, mae sawl cam posibl nesaf posibl.
Er enghraifft, gallai'r llys ddosbarthu gorchymyn sy'n gwyrdroi neu'n dad-wneud y penderfyniad sy'n cael ei herio fel nad oes ganddo effaith gyfreithiol, neu orchymyn sy'n atal corff cyhoeddus rhag cymryd penderfyniad anghyfreithlon neu weithred nad yw wedi'i gymryd eto.
Ar ôl i chi gysylltu â ni, os ydych dal yn anhapus â’r penderfyniad rydym wedi'i wneud, gallwch ymgeisio i lys am adolygiad barnwrol. Sylwch y gall y broses hon gostio arian i chi (e.e ffïoedd llys a chyfreithiol) ac nid oes gwarant o lwyddiant.
Dylai ceisiadau am adolygiad barnwrol gael eu gwneud ar unwaith, ac yn sicr o fewn tri mis o'r penderfyniad yn cael ei herio. Rydym yn argymell eich bod yn ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol os ydych yn ystyried y camau gweithredu hyn.
ae rhagor o wybodaeth am adolygiadau barnwrol i'w canfod yn:
Barnwriaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd neu Brosiect Cyfraith Gyhoeddus
- Ar ddiwedd ymchwiliad IOPC rydym yn cynhyrchu adroddiad sy'n nodi beth ddigwyddodd, pa dystiolaeth a ddarganfuwyd gan ein ymchwilwyr a'n dadansoddiad o'r dystiolaeth. Rydym hefyd yn gwneud penderfyniadau am:
- a ddylai'r swyddogion/staff heddlu dan sylw wynebu unrhyw gamau disgyblu neu gamau i wella eu perfformiad
- a ddylid, mewn rhai amgylchiadau, cyfeirio materion at Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS). Mae'r CPS yn gyfrifol am benderfynu a ddylai unrhyw un gael ei gyhuddo o drosedd.
Mae'r cynllun Hawl Dioddefwyr i Adolygiad (VRR) yn berthnasol i'r rhan fwyaf o'n ymchwiliadau annibynnol a rheoledig / cyfarwyddedig lle rydym wedi cynnal ymchwiliad troseddol.
Mae'n rhoi'r hawl i ddioddefwyr ofyn am adolygiad os ydym wedi penderfynu peidio â atgyfeirio ymchwiliad troseddol at y CPS ar gyfer penderfyniad cyhuddo.
Rydym yn ystyried rhywun fel dioddefwr lle maent wedi dioddef niwed o ganlyniad uniongyrchol i ymddygiad troseddol, gan gynnwys lle:
- gwnaethant wynebu ymddygiad troseddol
- gwnaethant weld, clywed, neu brofi’n uniongyrchol effeithiau ymddygiad troseddol ar yr adeg y digwyddodd
- roedd genedigaeth y person yn ganlyniad uniongyrchol i ymddygiad troseddol
- bu farw aelod agos o'r teulu o ganlyniad uniongyrchol i ymddygiad troseddol
- maent yn blentyn ac yn ddioddefwr cam-drin domestig, sy'n ymddygiad troseddol
Mae niwed yn cynnwys niwed corfforol, meddyliol neu emosiynol a cholled economaidd.
Mae ymddygiad troseddol yn golygu ymddygiad a fyddai'n gyfystyr â throsedd.
Mae 'aelod agos o'r teulu' yn cyfeirio at briod, partner, rhieni, perthnasau mewn llinell uniongyrchol, brodyr a chwiorydd neu unrhyw ddibynyddion y dioddefwr. Mewn rhai amgylchiadau, gellir hefyd ystyried aelodau eraill o'r teulu, gan gynnwys gwarcheidwaid a gofalwyr.
Efallai bydd ceisiadau am adolygiad yn cael eu derbyn gan rywun sy'n gweithredu ar ran dioddefwr mewn rhai amgylchiadau. Bydd hyn yn cael ei ystyried fesul achos, ac efallai bydd angen i ni gael awdurdodiad ysgrifenedig y dioddefwr.
Os ydych chi'n ddioddefwr ac mae'r cynllun VRR yn berthnasol i chi, byddwn yn eich hysbysu o'ch hawl i ofyn am adolygiad pan fyddwn yn dweud wrthych am ein penderfyniad arfaethedig i beidio ag atgyfeirio at y CPS.
Fel arfer, dylid gwneud ceisiadau o dan y cynllun VRR o fewn 28 diwrnod i ddyddiad y llythyr sy'n eich hysbysu o'r penderfyniad uchod.
Fodd bynnag, mae gan rai troseddau derfyn amser statudol; Mae hyn yn golygu bod rhaid cyhuddo person o fewn chwe mis o gyflawni'r drosedd honedig. Os yw terfyn amser cyhuddo yn berthnasol, efallai bydd angen cyflwyno cais VRR yn gyflymach. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os mai dyma’r achos.
Os gwneir y cais ar ôl y dyddiad cau penodedig, byddwn yn gofyn pam bod eich cais yn hwyr. Os oes amgylchiadau eithriadol yn achosi’r oedi, efallai y byddwn yn eu hystyried.
Pan ofynnir am VRR, dynodir 'adolygydd'. Ni fydd yr adolygydd wedi cael unrhyw rôl gwneud penderfyniadau yn yr ymchwiliad na chael unrhyw wrthdaro buddiannau perthnasol, yn unol â pholisi IOPC.
Bydd yr adolygydd yn ystyried adroddiad yr ymchwiliad ac yn cael mynediad at y dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr ymchwiliad. Byddant hefyd yn ystyried pam rydych chi'n teimlo y dylid atgyfeirio at y CPS, ar yr amod eich bod yn cyflwyno eich barn cyn y dyddiad cau perthnasol.
Bydd yr adolygydd yn ceisio cynnal yr adolygiad cyn gynted â phosib ac o fewn 28 diwrnod. Bydd yr amserlen hon yn fyrrach pan fydd gan y troseddau dan sylw derfyn amser statudol ar gyfer cyhuddo.
Os yw'r adolygydd yn penderfynu dylai'r penderfyniad arfaethedig i beidio â atgyfeirio'r mater at y CPS sefyll, yna bydd y penderfyniad arfaethedig hwnnw'n cael ei gadarnhau. Fel arall, bydd penderfyniad newydd yn cymryd ei le ynghylch a ddylid atgyfeirio at y CPS.
Byddwn yn eich hysbysu am ganlyniad y broses VRR. Ni fyddwch yn gallu gofyn am adolygiad pellach ar ôl i ni roi gwybod i chi am ganlyniad y VRR.
Os hoffech herio'r penderfyniad adolygiad, gallwch wneud cais am adolygiad barnwrol (cyfeiriwch at yr adran uchod am fwy o fanylion).
Darllenwch ein Polisi Hawl y Dioddefwr i Adolygiad a darganfyddwch fwy o wybodaeth am ein Cynllun Hawl y Dioddefwr i Adolygiad
Mae gan IOPC y pŵer i ofyn am ail-ymchwilio.
Gallwn ddefnyddio'r pŵer hwn o'r pwynt pan fydd adroddiad ar ymchwiliad dan gyfarwyddyd neu annibynnol i gwyn, mater o ymddygiad cofrestradwy neu farwolaeth neu anaf difrifol wedi'i gwblhau a'i anfon at benderfynydd IOPC er mwyn iddynt wneud penderfyniadau diwedd ymchwiliad.
Mae mater ymddygiad yn unrhyw fater nad yw nac oedd wedi bod yn destun cwyn, lle mae yna arwydd bod person sy'n gwasanaethu gyda'r heddlu efallai wedi cyflawni trosedd neu ymddwyn mewn ffordd a fyddai'n cyfiawnhau gweithdrefnau disgyblu.
Mae'r penderfyniadau a wneir ar ddiwedd ymchwiliad yn cynnwys penderfyniadau am atgyfeiriad at y CPS, a ddylai unrhyw swyddogion/staff wynebu gweithdrefnau disgyblu, ac ati. Ni ellir defnyddio'r pŵer hwn i ail-ymchwilio i ymchwiliad lleol neu reoledig.
Byddwn dim ond yn defnyddio’r pŵer hwn pan fyddwn yn fodlon bod rhesymau perswadiol dros wneud hynny. Er mwyn dod o hyd i resymau perswadiol, rhaid i ni fod yn fodlon bod:
A: yr ymchwiliad gwreiddiol yn ddiffygiol i'r graddau y byddai IOPC wedi cyrraedd casgliad diwedd ymchwiliad gwahanol ar ddisgyblaeth, perfformiad a/neu atgyfeiriad at Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) neu;
B: mae yna wybodaeth newydd sylweddol sy'n gofyn am ymchwiliad pellach sydd, pe byddai wedi bod ar gael, yn arwain at gasgliad diwedd ymchwiliad IOPC gwahanol o ran disgyblaeth, perfformiad a/neu atgyfeiriad at y CPS, ac;
C: o ran A neu B, mae ail-ymchwiliad yn angenrheidiol er budd y cyhoedd.
Pan welwn arwydd bod ail-ymchwiliad efallai'n angenrheidiol, byddwn yn cynnal adolygiad i hysbysu penderfynydd bod y prawf ‘rheswm perswadiol’ yn cael ei fodloni. Gall arwydd ddod i'n sylw mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, tystiolaeth newydd yn cael ei ganfod neu wall perthnasol posib yn yr ymchwiliad, yn dod i'r golwg trwy, neu ar ôl:
- Tystiolaeth mewnol IOPC
- her cyfraith gyhoeddus
- cwyn
- cwest
- trial troseddol
Ni fydd yr adolygiad yn cynnwys nac yn sefydlu unrhyw ymchwiliad pellach. Bydd yr adolygydd yn ystyried a oes angen ail-ymchwiliad. Bydd y penderfyniad hwn yn seiliedig ar archwiliad o'r ymchwiliad gwreiddiol ac ystyriaeth o unrhyw wallau neu wybodaeth newydd honedig.
Ar ôl cwblhau'r adolygiad, byddwn yn cyrraedd penderfyniad amodol. Bydd y penderfyniad yn darparu rhesymeg fanwl o sut y cyrhaeddwyd y penderfyniad. Bydd hyn wedyn yn cael ei rannu â rhanddeiliaid perthnasol a phartïon â buddiant. Bydd rhanddeiliaid wedyn fel arfer yn cael 28 diwrnod i wneud cynrychiolaethau ar y penderfyniad amodol. Ar ôl y cynrychiolaethau a dderbyniwyd, byddwn yn ystyried pob safbwynt a roddwyd cyn gwneud penderfyniad a byddwn yn cyfathrebu'r canlyniad i'r holl bartïon perthnasol.
Os caiff ei benderfynu bod ail-ymchwiliad yn angenrheidiol, byddwn wedyn yn penderfynu a fydd hyn yn ymchwiliad annibynnol neu ymchwiliad dan gyfarwyddyd.
Os oes gennych wybodaeth a allai gael ei ystyried yn resymau perswadiol i ail-ymchwilio ymchwiliad dan gyfarwyddyd neu annibynnol, yna ysgrifennwch at y person sy'n gyfrifol am yr achos. Mae'n rhaid i unrhyw gynrychiolaethau ysgrifenedig wneud mwy na dim ond anghytuno â chanfyddiadau gwreiddiol yr ymchwiliad. Mae'n rhaid i chi dynnu sylw at wallau perthnasol posib neu dystiolaeth newydd sylweddol. Bydd hyn wedyn yn cael ei drosglwyddo ar gyfer adolygiad.
Os ydych yn anghytuno â'r ffordd rydym wedi ymdrin â'ch cais Rhyddid Gwybodaeth (FOI), gallwch ofyn am adolygiad mewnol o'r penderfyniad i'r swyddog apeliadau FOI. Mae'n rhaid i chi wneud hyn o fewn 40 diwrnod gwaith o dderbyn ein hysbysiad o benderfyniad i chi. Rydym yn anelu at ymateb i gais am adolygiad mewnol o fewn 20 diwrnod gwaith.
Ysgrifennwch at:
Swyddog Diogelu Data
Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlut
10 South Colonnade
Canary Wharf
London
E14 4PU
Y Deyrnas Unedig
Mae gennych hawl i gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os nad ydych yn fodlon â chanlyniad eich adolygiad mewnol.