Sut i herio ein penderfyniadau
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu fod angen rhagor o wybodaeth am benderfyniad rydym wedi'i wneud ar apêl, adolygiad neu ymchwiliad, cysylltwch â'r unigolyn sy'n ymdrin â'ch cais. Dyma'r ffordd hawsaf yn aml i esbonio'r rhesymau dros y penderfyniad ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Dylech fod yn ymwybodol, ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig, bod ein penderfyniadau apêl, adolygiad ac ymchwiliad yn derfynol. Mae hyn yn golygu bod y penderfyniadau rydym yn eu gwneud a'u cyfathrebu i'r rheini sy'n rhan o'n hachosion yn gallu cael eu herio a'u gwyrdroi trwy'r broses adolygiad barnwrol yn unig. Am y rheswm hwn nid ydym yn derbyn cwynion am benderfyniadau ein hachosion.
Bydd y wybodaeth ganlynol yn ein helpu i ddeall beth i'w ystyried os ydych yn anhapus â phenderfyniad perthynol i achos a wneir gan SAYH.
Mae adolygiad barnwrol yn herio penderfyniadau a gweithredoedd corff cyhoeddus ar y sail nad yw wedi gweithredu'n gyfreithlon mewn gwneud y penderfyniad hwnnw.
Nid yw adolygiad barnwrol yn apêl ac ni ddylai gael ei ddefnyddio os ydych yn anghytuno â phenderfyniad corff cyhoeddus. Mae'n broses gyfreithiol ffurfiol lle gall barnwr archwilio'r penderfyniad sy'n cael ei herio ac ystyried os yw'r gyfraith wedi cael ei ddilyn yn gywir gan y corff cyhoeddus wrth wneud y penderfyniad hwnnw.
Yn y mwyafrif helaeth o amgylchiadau, ni all barnwr newid y penderfyniad mae'r corff cyhoeddus wedi'i wneud. Fodd bynnag, os ydynt yn canfod nad yw'r corff cyhoeddus wedi gweithredu'n gyfreithlon wrth wneud ei benderfyniad, mae sawl cam posibl nesaf posibl.
Er enghraifft, gallai'r llys ddosbarthu gorchymyn sy'n gwyrdroi neu'n dad-wneud y penderfyniad sy'n cael ei herio fel nad oes ganddo effaith gyfreithiol, neu orchymyn sy'n atal corff cyhoeddus rhag cymryd penderfyniad anghyfreithlon neu weithred nad yw wedi'i gymryd eto.
Ar ôl i chi gysylltu â ni, os ydych dal yn anhapus â’r penderfyniad rydym wedi'i wneud, gallwch ymgeisio i lys am adolygiad barnwrol. Sylwch y gall y broses hon gostio arian i chi (e.e ffïoedd llys a chyfreithiol) ac nid oes gwarant o lwyddiant.
Dylai ceisiadau am adolygiad barnwrol gael eu gwneud ar unwaith, ac yn sicr o fewn tri mis o'r penderfyniad yn cael ei herio. Rydym yn argymell eich bod yn ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol os ydych yn ystyried y camau gweithredu hyn.
ae rhagor o wybodaeth am adolygiadau barnwrol i'w canfod yn:
Barnwriaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd neu Brosiect Cyfraith Gyhoeddus
Ar ddiwedd ymchwiliad SAYH rydym yn cynhyrchu adroddiad sy'n nodi'r hyn a ddigwyddodd, pa dystiolaeth y daeth ein hymchwilwyr o hyd iddi a'n dadansoddiad o'r dystiolaeth. Rydym hefyd yn gwneud penderfyniadau am:
- a ddylai'r swyddogion heddlu/staff dan sylw wynebu unrhyw gamau disgyblu neu gamau i wella eu perfformiad
- a ddylid cyfeirio materion at Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) mewn rhai amgylchiadau. Mae'r CPS yn gyfrifol am benderfynu os dylai unrhyw un gael ei gyhuddo o gamwedd troseddol
Mae cynllun Hawl y Dioddefwr i Adolygiad (VRR) yn gymwys i'r rhan fwyaf o'n hymchwiliadau annibynnol a rheoledig/wedi'u cyfarwyddo lle rydym wedi cynnal ymchwiliad troseddol.
Mae'n rhoi'r hawl i ddioddefwyr ofyn am adolygiad os ydym wedi penderfynu peidio ag atgyfeirio ymchwiliad troseddol i'r CPS am benderfyniad cyhuddo. Mae'r cynllun yn gymwys i benderfyniadau am atgyfeiriadau CPS a wnaed ar neu cyn 1 Rhagfyr 2020.
- Rydym yn dosbarthu rhywun fel dioddefwr lle mae'n:
honni eu bod wedi dioddef niwed, gan gynnwys niwed corfforol, meddyliol neu emosiynol neu golled economaidd, a gafodd ei achosi'n uniongyrchol gan gamwedd troseddol, neu - wedi cael honiad wedi'i wneud ar eu rhan, neu
- cysylltwyd ag ef/hi fel dioddefwr yng nghwrs ymchwiliad SAYH
Gall dioddefwr hefyd fod yn berthynas agos i unigolyn a fu farw yn ystod cysylltiad â'r heddlu, lle honnir bod ei farwolaeth/marwolaeth wedi cael ei achosi'n uniongyrchol gan gamwedd troseddol. Mae 'perthynas agos' yn cyfeirio at briod, partner, brodyr/chwiorydd neu unrhyw ddibynyddion i'r dioddefwr. Mewn amgylchiadau penodol gellir ystyried aelodau eraill o'r teulu, gan gynnwys gwarcheidwaid a gofalwyr.
Gellir derbyn ceisiadau am gyfweliad gan rywun sy'n gweithredu ar ran dioddefwr mewn amgylchiadau penodol. Bydd hyn yn cael ei ystyried fesul achos, a gall fod angen i ni gael awdurdodaeth ysgrifenedig y dioddefwr
Os ydych yn ddioddefwr ac mae'r cynllun VRR yn gymwys i chi, byddwn yn eich hysbysu am eich hawl i ofyn am adolygiad pan ddywedwn wrthych am ein penderfyniad amodol i beidio â gwneud atgyfeiriad i'r CPS.
Dylai ceisiadau o dan y cynnlun VRR gael eu gwneud fel arfer o fewn 28 diwrnod o ddyddiad y llythyr sy'n eich hysbysu am y penderfyniad uchod.
Fodd bynnag, mae gan rai troseddau derfyn amser statudol, mae hyn yn golygu fod rhaid cyhuddo unigolyn o fewn chwe mis o gyflawni'r drosedd honedig. Os yw terfyn amser cyhuddo yn gymwys, gallwn ofyn i gais VRR gael ei gyflwyno'n gyflymach. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os dyma'r achos.
Os yw'r cais yn cael ei wneud ar ôl y terfyn amser penodedig, byddwn yn gofyn pam mae eich cais yn hwyr. Os oes amgylchiadau eithriadol am yr oedi, gallwn ei ystyried o hyd.
Pan ofynnir am VRR, bydd ‘adolygydd’ yn cael ei ddynodi. Ni fydd yr adolygydd wedi cael rôl gwneud penderfyniad yn yr ymchwiliad. Lle bynnag ei fod yn bosibl, ni fydd yr adolygydd:
- wedi'i leoli yn y swyddfa lle cafodd yr ymchwiliad ei gynnal
- wedi'i leoli yn yr un swyddfa â'r unigolyn a wnaeth y penderfyniad amodol i beidio a gwneud atgyfeiriad i'r CPS
Bydd yr adolygydd wedi ystyried adroddiad yr ymchwiliad a chael mynediad at y dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr ymchwiliad. Bydd hefyd yn ystyried pam y teimlwch y dylai atgyfeiriad i'r CPS gael ei wneud, ar yr amod eich bod yn cyflwyno'ch barn cyn y terfyn amser perthnasol.
Bydd yr adolygydd yn anelu at gyflawni'r adolygiad mor gyflym â phosibl ac o fewn 28 diwrnod. Bydd y ffram amser hwn yn fyrrach lle mae gan y troseddau dan sylw derfyn amser ar gyfer cyhuddo.
Os yw'r adolygydd yn penderfynu y dylai'r penderfyniad amodol i beidio ag atgyfeirio sefyll, yna bydd y penderfyniad amodol hwnnw'n cael ei gadarnhau. Fel arall, bydd yn cael ei ddisodli gan benderfyniad newydd am os dylid gwneud atgyfeiriad i'r CPS.
Byddwn yn eich hysbysu am y canlyniad i'r broses VRR. Ni fyddwch yn gallu gofyn am adolygiad arall cyn gynted â'n bod wedi rhoi gwybod i chi am ganlyniad y VRR.
Darllenwch ein polisi Hawl Dioddefwr i Adolygiad a dysgwch ragor am ein cynllun Hawl Dioddefwr i Adolygiad.
Darllenwch ein hymateb i ymgynghoriad 2020 ar gynllun hawl dioddefwyr i adolygiad.
Mae gan IOPC y pŵer i ofyn am ail-ymchwilio.
Gallwn ddefnyddio'r pŵer hwn o'r pwynt pan fydd adroddiad ar ymchwiliad dan gyfarwyddyd neu annibynnol i gwyn, mater o ymddygiad cofrestradwy neu farwolaeth neu anaf difrifol wedi'i gwblhau a'i anfon at benderfynydd IOPC er mwyn iddynt wneud penderfyniadau diwedd ymchwiliad.
Mae mater ymddygiad yn unrhyw fater nad yw nac oedd wedi bod yn destun cwyn, lle mae yna arwydd bod person sy'n gwasanaethu gyda'r heddlu efallai wedi cyflawni trosedd neu ymddwyn mewn ffordd a fyddai'n cyfiawnhau gweithdrefnau disgyblu.
Mae'r penderfyniadau a wneir ar ddiwedd ymchwiliad yn cynnwys penderfyniadau am atgyfeiriad at y CPS, a ddylai unrhyw swyddogion/staff wynebu gweithdrefnau disgyblu, ac ati. Ni ellir defnyddio'r pŵer hwn i ail-ymchwilio i ymchwiliad lleol neu reoledig.
Byddwn dim ond yn defnyddio’r pŵer hwn pan fyddwn yn fodlon bod rhesymau perswadiol dros wneud hynny. Er mwyn dod o hyd i resymau perswadiol, rhaid i ni fod yn fodlon bod:
A: yr ymchwiliad gwreiddiol yn ddiffygiol i'r graddau y byddai IOPC wedi cyrraedd casgliad diwedd ymchwiliad gwahanol ar ddisgyblaeth, perfformiad a/neu atgyfeiriad at Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) neu;
B: mae yna wybodaeth newydd sylweddol sy'n gofyn am ymchwiliad pellach sydd, pe byddai wedi bod ar gael, yn arwain at gasgliad diwedd ymchwiliad IOPC gwahanol o ran disgyblaeth, perfformiad a/neu atgyfeiriad at y CPS, ac;
C: o ran A neu B, mae ail-ymchwiliad yn angenrheidiol er budd y cyhoedd.
Pan welwn arwydd bod ail-ymchwiliad efallai'n angenrheidiol, byddwn yn cynnal adolygiad i hysbysu penderfynydd bod y prawf ‘rheswm perswadiol’ yn cael ei fodloni. Gall arwydd ddod i'n sylw mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, tystiolaeth newydd yn cael ei ganfod neu wall perthnasol posib yn yr ymchwiliad, yn dod i'r golwg trwy, neu ar ôl:
- Tystiolaeth mewnol IOPC
- her cyfraith gyhoeddus
- cwyn
- cwest
- trial troseddol
Ni fydd yr adolygiad yn cynnwys nac yn sefydlu unrhyw ymchwiliad pellach. Bydd yr adolygydd yn ystyried a oes angen ail-ymchwiliad. Bydd y penderfyniad hwn yn seiliedig ar archwiliad o'r ymchwiliad gwreiddiol ac ystyriaeth o unrhyw wallau neu wybodaeth newydd honedig.
Ar ôl cwblhau'r adolygiad, byddwn yn cyrraedd penderfyniad amodol. Bydd y penderfyniad yn darparu rhesymeg fanwl o sut y cyrhaeddwyd y penderfyniad. Bydd hyn wedyn yn cael ei rannu â rhanddeiliaid perthnasol a phartïon â buddiant. Bydd rhanddeiliaid wedyn fel arfer yn cael 28 diwrnod i wneud cynrychiolaethau ar y penderfyniad amodol. Ar ôl y cynrychiolaethau a dderbyniwyd, byddwn yn ystyried pob safbwynt a roddwyd cyn gwneud penderfyniad a byddwn yn cyfathrebu'r canlyniad i'r holl bartïon perthnasol.
Os caiff ei benderfynu bod ail-ymchwiliad yn angenrheidiol, byddwn wedyn yn penderfynu a fydd hyn yn ymchwiliad annibynnol neu ymchwiliad dan gyfarwyddyd.
Os oes gennych wybodaeth a allai gael ei ystyried yn resymau perswadiol i ail-ymchwilio ymchwiliad dan gyfarwyddyd neu annibynnol, yna ysgrifennwch at y person sy'n gyfrifol am yr achos. Mae'n rhaid i unrhyw gynrychiolaethau ysgrifenedig wneud mwy na dim ond anghytuno â chanfyddiadau gwreiddiol yr ymchwiliad. Mae'n rhaid i chi dynnu sylw at wallau perthnasol posib neu dystiolaeth newydd sylweddol. Bydd hyn wedyn yn cael ei drosglwyddo ar gyfer adolygiad.
Os ydych yn anghytuno â'r ffordd rydym wedi ymdrin â'ch cais Rhyddid Gwybodaeth (FOI), gallwch ofyn am adolygiad mewnol o'r penderfyniad i'r swyddog apeliadau FOI. Mae'n rhaid i chi wneud hyn o fewn 40 diwrnod gwaith o dderbyn ein hysbysiad o benderfyniad i chi. Rydym yn anelu at ymateb i gais am adolygiad mewnol o fewn 20 diwrnod gwaith.
Ysgrifennwch at:
Swyddog Diogelu Data
Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlut
10 South Colonnade
Canary Wharf
London
E14 4PU
Y Deyrnas Unedig
Mae gennych hawl i gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os nad ydych yn fodlon â chanlyniad eich adolygiad mewnol.